Beca Glyn

Dylasau Uchaf, Conwy

 

Mae Dylasau Uchaf yn awyddus i leihau eu dibyniaeth ar ddwysfwyd, yn benodol ar gyfer eu diadell o 350-380 (mae’r nifer yn dibynnu ar ganlyniadau sganio) o ddefaid miwl croesfrîd a defaid miwl Cymreig adeg wyna.

Mae'r tymor hyrdda yn dechrau ar 25 Medi a’r cyfnod wyna’n dechrau ar 25 Chwefror. Ar hyn o bryd, maen nhw'n rhoi eu mamogiaid croesfrîd dan do 8 wythnos cyn wyna ac yn rhoi dwysfwyd sy’n 18% protein crai (CP) a silwair byrnau mawr mewn porthwyr cylch.

Mae'r prosiect yn bwriadu defnyddio'r silwair/silwair sych a gynhyrchir ar y fferm yn well trwy samplu'r porthiant a gaiff ei fwydo ac felly darparu diet yn seiliedig ar gyfnod beichiogrwydd, nifer yr ŵyn y mae'r famog yn ei gario, a sgôr cyflwr corff y famog. Bydd cymharu cost cynhyrchu yn dangos y budd o dyfu a chynaeafu cnwd silwair da.  

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • Iechyd a lles uchel 

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd