Edward Evans

Hafod Y Foel, South Montgomeryshire

 

Gydag o leiaf dwy o'i ferched yn awyddus i ddod adref i ffermio yn y dyfodol agos, penderfynodd Edward yn 2023 wasgaru'r fuches sugno yn Hafod y Foel a thyfu lloi i Warrendale Wagyus yn lle.

Mae Edward eisiau sicrhau bod dyfodol i'w ferched ar y fferm ac ar hyn o bryd mae'n rhoi'r isadeiledd ar waith i wneud y gorau o'r borfa heb fawr ddim costau mewnbwn. Trwy gynllun Grantiau Bach – Effeithlonrwydd Llywodraeth Cymru, mae twll turio wedi'i osod yn ddiweddar i bibellu’r dŵr i danc ar bwynt uchaf y fferm. Y cam nesaf yw penderfynu ar gynllun y platfform pori. 

Ar ôl bod yn aelod o Grŵp Trafod Cyswllt Ffermio yn y gorffennol, mae Edward o'r farn mai pori celloedd yw'r ffordd orau ymlaen iddo ac mae'n deall bod cynllunio yn allweddol i sicrhau bod y platfform yn cael ei ddylunio yn y ffordd fwyaf effeithlon a hawdd ei ddefnyddio ac i sicrhau bod dŵr ar gael ym mhob cell.

Ar gyfer cam 1 y prosiect hwn, bydd y ffermwr yn gweithio gydag ymgynghorydd arbenigol i benderfynu ar:

  • Faint a lleoliad y padogau
  • Isadeiledd (strwythur celloedd a dŵr)
  • Cynllun pori

Ar ôl i'r isadeiledd a'r cynllun pori gael ei gwblhau, bydd cam 2 y prosiect yn ceisio dangos sut y gellir defnyddio technoleg i helpu ffermwyr i wneud penderfyniadau gwybodus a chynllunio pori a mewnbynnau yn unol â hynny, gan sicrhau system syml ar gyfer mwy nag un defnyddiwr.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Iechyd a lles uchel 
  • Gwneud y mwyaf o storio carbon
  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • Dŵr glân
  • Effeithlon o ran adnoddau
     

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Nantyrhebog
Michael James Nantyrhebog, Carmarthen Ymchwilio i’r elw posibl ar
Brynllech Uchaf
Rhodri and Claire Jones Brynllech Uchaf, Llanuwchllyn
Dylasau Uchaf
Beca Glyn Dylasau Uchaf, Conwy Mae Dylasau Uchaf yn awyddus i