Nigel Bowyer and family

Ty Coch, Brynbuga, Sir Fynwy

Disgrifiwch eich system yn fras:

Mae Ty Coch yn fferm bîff a defaid yn Llanbadog ger Brynbuga. Mae’r fferm yn cynnwys mamogiaid Aberfield a gwartheg croes Angus a Charolais. Mae’r mamogiaid yn ŵyna tu mewn. Mae'r fferm yn tyfu cymaint o fewnbynnau â phosib ar y fferm, gyda thua 36 erw o rawnfwydydd yn cael eu tyfu.

Beth wnaeth i chi benderfynu dod yn ffermwr?

Mae yn y gwaed ac mae'n ffordd o fyw i mi.

Beth yw’r newid mwyaf y daethoch ar ei draws yn ystod eich blynyddoedd yn ffermio? 

Cynnydd ym maint ffermydd a llai o lafur ar y fferm. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd i bobl ifanc ddod i mewn i'r diwydiant. 

Beth na allech chi fynd hebddo ar y fferm?

Y ci

Beth yw eich hoff adeg o'r flwyddyn a pham?

Fy hoff adeg o’r flwyddyn yw’r gwanwyn/haf - mae'r dyddiau'n hirach ac mae'r da byw yn cael eu troi allan o'r siediau.

Beth yw'r cyngor mwyaf defnyddiol a roddwyd i chi erioed?

Mae'n rhaid i chi bob amser gael rhywbeth i gael rheswm i godi yn y bore

Beth yw'r meysydd allweddol yr hoffech ganolbwyntio arnynt fel ffermwr Rhwydwaith Ein Ffermydd?

Gwell gwytnwch a phroffidioldeb y busnes yn yr hirdymor

Ble hoffech chi weld y busnes fferm mewn 5 - 10 mlynedd?

Ddwywaith y maint y mae’r fferm nawr! Busnes gwydn a phroffidiol.


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Awel y Grug
Chris & Glyn Davies Fferm Awel y Grug, Y Trallwng, De Sir
Cornwal Uchaf
Dylan, Gwenda and Gwion Roberts Cornwal Uchaf, Gwytherin, Conwy
Rhydeden
Eurof Edwards Rhydeden, Conwy Bydd manylion y prosiect ar gael