Eurof Edwards

Rhydeden, Conwy

 

Mae Fferm Rhydeden yn fferm 100 hectar sy’n cadw 300 o wartheg llaeth sy’n lloia dros ddau floc; mae 175 yn lloia yn y gwanwyn a 125 yn yr hydref. Ar hyn o bryd, mae'r fuches ar gyfartaledd yn cynhyrchu 6,500 litr y fuwch gyda 4.5% braster menyn a 3.6% protein, ac mae 75% o’r fuches sy’n lloia yn y gwanwyn yn gwneud hynny o fewn 6 wythnos.

Mae maint y fuches wedi cynyddu ynghyd â buddsoddiad yn isadeiledd y fferm ers i Eurof ymuno fel rheolwr fferm dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r platfform pori wedi'i optimeiddio ac mae'r busnes yn edrych i wella ei broffidioldeb heb fuddsoddiad mawr trwy wella perfformiad genetig y fuches. 

Daw'r holl heffrod cyfnewid o’r fuches sy’n lloia yn y gwanwyn, sy'n caniatáu rheolaeth haws ar gyfer magu da ifanc. Mae heffrod llaeth yn cael eu bridio trwy semen yn ôl ei ryw trwy roi A.I. i’r holl heffrod sydd i gael tarw a phob buwch sy'n gofyn tarw yn ystod pum wythnos gyntaf y cylch. Ar ôl y pum wythnos gyntaf, mae'r holl wartheg sy'n weddill a bloc yr hydref yn cael eu bridio â semen tarw bîff.

Mae Eurof yn awyddus i ddechrau profi'r holl dda ifanc yn enomaidd er mwyn dewis heffrod fel heffrod cyfnewid ar gyfer bridio, gan ddefnyddio ffigurau genomig fel kg o brotein a braster menyn, a ffrwythlondeb. Mae hyn yn cynyddu dibynadwyedd potensial yr anifail yn hytrach na defnyddio perfformiad y tad a’r fam i ragweld.

Mae Rhydeden yn anelu at gael buches fwy unffurf, ac o ran nodweddion byddan nhw’n canolbwyntio ar kg o brotein a braster menyn, ffrwythlondeb, Mynegai Lloia yn y Gwanwyn (SCI), a’r Gwerth Bridio (BW). Mae'r nodweddion hyn yn bwysig iawn i'r busnes ffermio gan y bydd gwella ansawdd y llaeth (kg) yn cynyddu pris llaeth y fferm heb lawer o fuddsoddiad, a bydd cynyddu’r % ffrwythlondeb yn lleihau mynegai lloia'r fuches a'r allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir.

Bydd ffigurau profi genomig yn cynorthwyo Eurof ac yn cynhyrchu ffigurau SCI ac ACI ar gyfer pob anifail sy'n cael ei brofi. Bydd hyn yn anelu at gyflymu potensial genetig y fuches a bydd yn caniatáu i'r ffermwr wneud penderfyniadau amserol bron yn syth yn ystod wythnosau cyntaf bywyd yr anifail yn hytrach na chael y gost o fagu heffrod ac yna dadansoddi'r data cynhyrchu/proffidioldeb yn y cyfnod llaetha cyntaf.

Y nod yn y dyfodol yn dilyn y profion genomig yw bridio gwartheg cyfnewid o'r gwartheg a'r heffrod sy'n perfformio orau o fewn y fuches o ran y tair nodwedd ffocws, sef kg o brotein a braster menyn, a’r % ffrwythlondeb. Bydd prawf genomeg NMR GeneEze hefyd yn cael ei gynnwys fel rhan o'r prosiect i ddarparu dull hawdd o fonitro Cyfrif Cell Somatig (SCC) y fuches.
 

Trwy sbarduno gwelliant pellach mewn effeithlonrwydd yn y meysydd busnes allweddol hyn, bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fferm

  • Cyfrannu at iechyd a lles uchel.
     


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Nantyrhebog
Michael James Nantyrhebog, Carmarthen Ymchwilio i’r elw posibl ar
Brynllech Uchaf
Rhodri and Claire Jones Brynllech Uchaf, Llanuwchllyn
Dylasau Uchaf
Beca Glyn Dylasau Uchaf, Conwy Mae Dylasau Uchaf yn awyddus i