Sarah Hammond and Robert William

Ffermydd Glyn Arthur, Llandyrnog, Dinbych  

 

Beth wnaeth i chi benderfynu dod yn ffermwr?

Rwyf wedi dilyn fy nhad o gwmpas y fferm ac wedi helpu yn y corlannau gyda'r defaid o mor ifanc ag y gallaf gofio. Rwyf bob amser wedi ymddiddori yn y fferm ac ar ôl dilyn geiriau doeth fy nhad ar ôl gadael yr ysgol i roi cynnig ar rywbeth gwahanol oherwydd byddai'r fferm bob amser yma, fe wnes i, ond roeddwn bob amser yn cael fy nhynnu'n ôl i'r fferm pryd bynnag y gallwn. Rwyf wedi bod yn ôl ar y fferm am y 15 mlynedd diwethaf yn helpu cymaint â phosibl wrth weithio oddi ar y fferm ac rwyf  ond newydd ddechrau ffermio'n llawn amser gyda fy nhad dros y 5/6 mlynedd diwethaf.

Beth na allech chi fynd hebddo ar y fferm?

Y cŵn defaid.

Beth yw eich hoff adeg o'r flwyddyn a pham?

Mae hynny'n anodd ei ateb. Mae gan yr holl dymhorau rannau da a rhannau drwg. Cyn belled â bod y defaid yn gwneud yr hyn y dylent fod yna rwy'n hapus.

Beth yw'r cyngor mwyaf defnyddiol a roddwyd i chi erioed?

Cyn belled â'ch bod wedi gwneud eich gorau, dyna'r cyfan allwch chi ei wneud.

Beth yw'r meysydd allweddol yr hoffech ganolbwyntio arnynt fel ffermwr Rhwydwaith Ein Ffermydd?

  • Homeopathi ac asesu statws mwynau'r mamogiaid i gefnogi iechyd a lles anifeiliaid.
  • Gwella gwerth maethol porthiant a dyfir gartref i leihau dibyniaeth ar borthiant sy’n cael ei brynu i mewn.
  • Archwilio gwahanol systemau rheoli pori i weld a ellir adfywio porfeydd parhaol heb fewnbynnau.

Ble hoffech chi weld y busnes fferm mewn 5 - 10 mlynedd?

Hoffwn weld y fferm mewn sefyllfa ddigon cryf i wynebu pa bynnag stormydd a allai fod ar y gorwel, yn amgylcheddol ac yn ariannol. Gan fy mod yn ddigon ffodus i fod â theulu ar y fferm ers yr 1700au, rwyf am sicrhau bod y fferm mewn sefyllfa ddigon diogel i'r genhedlaeth ar ôl mi i’w chadw i fynd.


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Brynllech Uchaf
Rhodri and Claire Jones Brynllech Uchaf, Llanuwchllyn
Dylasau Uchaf
Beca Glyn Dylasau Uchaf, Conwy Bydd manylion y prosiect ar gael
Cilthrew
Marc Wynn & Bethan Griffiths Cilthrew, Llansantffraid, Gogledd