3 Ionawr 2024

 

Gellid taflu goleuni ar resymau dros achosion annisgwyl o chwydd o dan yr ên mewn defaid mewn diadell gaeedig ar fferm yng Nghymru drwy ddefnyddio techneg newydd sy’n nodi presenoldeb malwod llaid sydd wedi’u heintio â llyngyr yr iau.

Mae Fferm Glyn Arthur, sy’n rhan o rwydwaith ‘Ein Ffermydd’ Cyswllt Ffermio, yn cael ei ffermio gan dad a merch, Peter Williams a Sarah Hammond.

Maent yn rhedeg diadell o 650 o famogiaid a 180-200 o ŵyn benyw cyfnewid ar eu fferm yr ucheldir 160 hectar ger Llandyrnog, Dinbych.

Mae'r tir yn sych ar y cyfan, gydag ychydig iawn o fannau gwlyb, felly nid oedd y ddau yn disgwyl i lyngyr yr iau fod yn her iechyd i'w diadell.

Ond mae patrymau tywydd newidiol yn golygu bod llyngyr yr iau bellach yn cytrefu ardaloedd a ystyriwyd yn risg isel yn flaenorol, felly pan roedd gan ddefaid ar Fferm Glyn Arthur chwydd hylifol o dan yr ên - roedd pryder mai llyngyr yr iau a allai fod ar fai.

“Nid ydym erioed wedi cael diagnosis o lyngyr yr iau yn y post mortem, ond daethon ni’n amheus pan gawsom ni gynnydd sydyn yn nifer y defaid â chwydd dan yr ên,” meddai Sarah.

Mae’r fferm bellach wedi dechrau ar waith prosiect gyda Cyswllt Ffermio ac Adran Gwyddor Bywyd Prifysgol Aberystwyth i ganfod a oes malwod llaid sydd wedi’u heintio â llyngyr yr iau yn bresennol ar y tir, ac os felly, ym mha ardaloedd y mae defaid yn cael eu heintio â llyngyr yr iau.

Mae amodau lleol yn pennu’r risg, gyda phorfa wlyb, gorsiog yn darparu’r amodau delfrydol ar gyfer llyngyr yr iau.

Bydd y fferm yn cael ei harolygu gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer cynefinoedd malwod llaid posibl gan ddefnyddio prawf DNA amgylcheddol a ddatblygwyd yn y Brifysgol.

Dywedodd Dr Rhys Aled Jones, o Brifysgol Aberystwyth, sy’n arwain yr ymchwil hwn, y byddai map yn manylu ar ardaloedd sydd â pherygl o lyngyr ar y fferm yn cael ei greu i helpu Peter a Sarah i wneud penderfyniadau rheoli da byw gwybodus mewn ymgynghoriad â’u milfeddyg.

Gall ymyriadau i leihau cyswllt rhwng da byw a llyngyr ar borfeydd, fel ffensio a draenio, fod yn gostus, felly mae’n ddefnyddiol gallu nodi a blaenoriaethu pa gynefinoedd sy’n peri’r perygl mwyaf uniongyrchol, yn enwedig wrth i fygythiad ymwrthedd anthelmintig dyfu.

Mae gwaith prosiect Cyswllt Ffermio wedi cynnwys y milfeddyg Joe Angell yn sgrinio samplau gwaed ŵyn am gysylltiad â llyngyr yr iau.

Mae hefyd wedi bod yn cynghori Peter a Sarah ar sgorio cyflwr corff a gosod targedau sgôr cyflwr corff ar gyfer mamogiaid ar gyfer adegau allweddol yn y flwyddyn.

“Rydym ni wedi datblygu cynllun iechyd cynhwysfawr ar gyfer y ddiadell ac, wrth symud ymlaen, bydd y rhesymau dros golli ŵyn a phroblemau gyda ffrwythlondeb mamogiaid yn cael eu hymchwilio,” meddai Joe.

Bydd rôl elfennau hybrin o ran iechyd diadelloedd yn cael ei hystyried hefyd, a chaiff dull rheoli parasitiaid ei fonitro a'i hoptimeiddio.

Gallwch gadw llygad ar ddatblygiadau’r prosiect ar wefan Cyswllt Ffermio.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites