Chris & Glyn Davies
Fferm Awel y Grug, Y Trallwng, De Sir Drefaldwyn
Beth wnaeth i chi benderfynu dod yn ffermwr?
Rwyf bob amser wedi bod â diddordeb mewn peiriannau a weldio. Mae fy angerdd am ffermio wedi tyfu'n gryfach ers cael mwy o gyfrifoldebau a chael mwy o lais wrth redeg y busnes. Mae gweld pethau'n gweithio pan fyddwn yn gwneud newidiadau a gwelliannau yn rhoi boddhad i mi.
Beth na allech chi fynd hebddo ar y fferm?
Ci defaid - Lad
Beth yw eich hoff adeg o'r flwyddyn a pham?
Amser wyna, er y gall pethau fynd o chwith... ac mae hynny’n digwydd, ar ddiwedd y dydd, dyma'r adeg bwysicaf o'r flwyddyn i ni ac unwaith y bydd wedi dod i ben mae'r ymdeimlad o gyflawniad yn foddhaol iawn.
Beth yw'r cyngor mwyaf defnyddiol a roddwyd i chi erioed?
Os oes gennych broblem ar y fferm, cyfaddefwch fod gennych broblem, gofynnwch am gyngor a gweithredwch arno.
Beth yw'r meysydd allweddol yr hoffech ganolbwyntio arnynt fel ffermwr Rhwydwaith Ein Ffermydd?
● Lleihau costau mewnbwn
● Cael y cynnydd pwysau byw dyddiol (DLWG) mwyaf posibl
● Gwella effeithlonrwydd mamogiaid trwy edrych ar amnewidion a bioddiogelwch
Ble hoffech chi weld y busnes fferm mewn 5 - 10 mlynedd?
Y nod, fel y mae gyda'r rhan fwyaf o ffermwyr rwy'n siŵr, yw gallu parhau i gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel, heb ddibynnu ar gymorthdaliadau. Hoffwn weld stoc o ansawdd gwell ar y fferm er mwyn sicrhau elw gwell i bob mamog.