Gwerthuso’r fenter buchod sugno

Mae buchesi sugno yn chwarae rhan hollbwysig yn amaethyddiaeth Cymru, gan gyfrannu’n sylweddol at gynhyrchu cig eidion ein cenedl ac mae ganddyn nhw ran i’w chwarae mewn rheoli cynefinoedd yng Nghymru. Ond mae'n hanfodol sicrhau'r effeithlonrwydd gorau posibl, sy'n gofyn am sylw i fanylion a gwelliant mewn protein a hunangynhaliaeth ynni.

Ar ôl cwblhau adolygiad o’r busnes ym mis Medi 2023, mae Awel y Grug wedi bod yn ymchwilio’n ddyfnach i gost ariannol a gofynion llafur ei buches sugno o 30 buwch sy’n lloia yn y gaeaf / y gwanwyn, yn bennaf Limousin neu Limousin croes, ac ar gyfartaledd 30 o wartheg stôr i'w pesgi. Mae'r archwiliad dyfnach hwn wedi arwain at y fferm yn pwyso a mesur y manteision a'r anfanteision o gael gwared ar y fuches sugno gyfan a chynyddu nifer y defaid. 

Bydd yr ail brosiect yn Awel y Grug yn astudiaeth bwrdd gwaith, gan ganolbwyntio ar y fuches sugno yn fanylach er mwyn darparu tystiolaeth, data ac awgrymiadau digonol yn seiliedig ar ymarfer modelu. Bydd hyn yn sicrhau bod pob opsiwn yn cael ei ystyried mewn perthynas â newidiadau i'r busnes yn y dyfodol. Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar berfformiad technegol ac ariannol ac yn ymchwilio i newidiadau rheoli i wella effeithlonrwydd a pherfformiad y fenter. 

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • defnyddio adnoddau’n effeithlon 
  • ecosystemau cydnerth
  • llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • tirweddau naturiol a’r amgylchedd hanesyddol gwarchodedig 
  • safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel