Effaith ansawdd colostrwm ar berfformiad yr ŵyn hyd eu diddyfnu
Mae gan Tŷ Coch ddiadell o 270 o ddefaid, mamogiaid Aberfield yn bennaf, sy’n wyna o ganol mis Chwefror i fis Mawrth. Bydd ŵyn yn cael eu pesgi trwy gydol misoedd yr haf/hydref, gyda’r ŵyn yn cael eu gwerthu dan gontract archfarchnad.
Mae’r ganran fagu wedi disgyn yn ystod y ddwy flyned diwethaf wrth ymdrin ag achos o Maedi Visna a sgil effeithiau haf sych 2022. Digwyddodd y mwyafrif o’r colledion hyn yn yr ychydig wythnosau ar ôl wyna. Daeth astudiaeth hefyd i’r casgliad bod y rhan fwyaf o farwolaethau ŵyn cyn diddyfnu ar ffermydd Cymru yn digwydd yn wythnos gyntaf oes yr oen (Prosiect Colledion Ŵyn Hybu Cig Cymru).
Mae ansawdd colostrwm a faint a gymerir yn chwarae rhan bwysig wrth osgoi marwolaethau ŵyn cyn eu diddyfnu. Mae mesur ansawdd colostrwm gan ddefnyddio reffractomedr Brix yn arferiad cyffredin ar ffermydd llaeth, ond nid yw wedi bod yn gyffredin ar ffermydd defaid. Mewn astudiaethau, cofnodwyd amrywiad yn ansawdd colostrwm rhwng mamogiaid, gyda ffactorau fel oedran y fam, nifer o ŵyn mae’n ei gario, iechyd y pwrs, amser o’r flwyddyn, brid, geneteg a maethiad yn hwyr yn y beichiogrwydd yn cael lefelau amrywiol o arwyddocâd.
Nod y prosiect yw monitro ansawdd y colostrwm wrth wyna, gan ddynodi pa ffactorau yn gysylltiedig â’r famog sy’n cael mwyaf o effaith ar ansawdd y colostrwm. Bydd y data a gesglir yn rhoi syniad i ni o’r meysydd sydd angen eu gwella a hefyd effaith tymor hwy ansawdd colostrwm ar berfformiad ŵyn hyd eu diddyfnu. Dylai cynyddu’r ganran fagu o 5% gynyddu gwerthiannau ŵyn o £1,875 y flwyddyn, byddai cynyddu i 30% ychwanegol yn y ganran fagu yn cyfateb i £11,250 y flwyddyn.
Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ddeilliannau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:
Cyfrannu at iechyd a lles anifeiliaid da
Effeithlonrwydd adnoddau