Dylan, Gwenda and Gwion Roberts

Cornwal Uchaf, Gwytherin, Conwy

Beth wnaeth i chi benderfynu dod yn ffermwr?

Mae ffermio yn dod yn naturiol i mi ar ôl fy rhieni i raddau, ac yn ffordd arbennig o fyw

Beth na allech chi fynd hebddo ar y fferm?

Yn sicr, iechyd yw'r peth pwysicaf i mi ar y fferm - mae llawer o ffermwyr yn gweithio'n galed drwy'r dydd bob dydd ac nid ydynt yn rhoi amser i ofalu am eu hiechyd corfforol a meddyliol.

Beth yw eich hoff adeg o'r flwyddyn a pham?

Tymor y gwanwyn, rwyf wrth fy modd gyda'r adeg yma pan mae'r glaswellt yn tyfu a'r ŵyn yn rhedeg o gwmpas y caeau, os yw'r tywydd yn ffafriol wrth gwrs.

Beth yw'r cyngor mwyaf defnyddiol a roddwyd i chi erioed?

Ffermio i fyw a pheidio â byw i ffermio. Mae angen i ni weithio er mwyn cael rhywbeth i'w rannu ag eraill. Weithiau mae angen i ni eistedd i lawr a meddwl am ble mae ein busnes yn mynd yn y dyfodol.

Beth yw'r meysydd allweddol yr hoffech ganolbwyntio arnynt fel ffermwr Rhwydwaith Ein Ffermydd?

  • Gwella'r system bori trwy ddefnyddio meillion coch neu wyndwn llysieuol a defnyddio gwrtaith yn fwy effeithiol trwy ddefnyddio technoleg a mapiau i wneud hyn.
  • Gwella ffrwythlondeb y gwartheg
  • Lleihau lefel cloffni yn y ddiadell.

Ble hoffech chi weld y busnes fferm mewn 5 - 10 mlynedd?

Hoffwn fod yma'n dal i ffermio a chanolbwyntio ar gynhyrchu bwyd ar gyfer poblogaeth y byd sy'n tyfu. Hoffem weld ein mab Gwion yn ein dilyn i ffermio yma fel y gwnaeth ei hen daid, a ddaeth yma yn 16 oed i ffermio 100 mlynedd yn ôl.


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Clyngwyn
Jeff, Sarah, Enfys a Medi Wheeler Clyngwyn, Clunderwen, Sir
Cwmcowddu
Sian, Aled and Rhodri Davies Cwmcowddu, Llangadog, Gogledd Sir
Tanygraig
Daniel Evans Tanygraig, Llanbedr Pont Steffan, De Ceredigion Beth