Marc Wynn & Bethan Griffiths 

Cilthrew, Llansantffraid, Gogledd Sir Drefaldwyn 

 

Beth wnaeth i chi benderfynu dod yn ffermwr?

Roeddwn yn ffodus i gael fy ngeni i fyd ffermio ac ar ôl mynd i ffwrdd i'r brifysgol a mynd ar leoliad gwaith o fewn cwmni gwerthu amaethyddol, fe wnes i benderfynu fy mod i eisiau bod yn ffermwr.

Beth na allech chi fynd hebddo ar y fferm?

Y cŵn defaid, maent werth 10 o bobl pan rydych chi'n hel defaid yn enwedig mewn lleoedd na allwch chi gael y gator atyn nhw, ac maen nhw'n caniatáu i chi weithio gyda defaid ar eich pen eich hun.

Beth yw eich hoff adeg o'r flwyddyn a pham?

Mis Mai yw fy hoff adeg o’r flwyddyn, mae’r cyfnod wyna ar ben, y gwartheg allan, cnydau yn tyfu, a dylai glaswellt fod yn tyfu’n wyllt.

Beth yw'r cyngor mwyaf defnyddiol a roddwyd i chi erioed?

“Rheolwch yr hyn y gallwch ei reoli a pheidiwch â phoeni am y gweddill. Gwnewch yr hyn y gallwch chi mewn sefyllfaoedd a bydd y gweddill yn datrys ei hun” - Doug Avery

Ble hoffech chi weld y busnes fferm mewn 5 - 10 mlynedd?

Wedi esblygu i fod yn fwy effeithlon, gan fod yn well yn yr hyn a wnawn a chael llif incwm o arallgyfeirio. 


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Lower House Farm
Robert Lyon Fferm Lower House, Llandrindod, Sir Faesyfed Beth
Ty Coch
Nigel Bowyer and family Ty Coch, Brynbuga, Sir Fynwy Disgrifiwch
Awel y Grug
Chris & Glyn Davies Fferm Awel y Grug, Y Trallwng, De Sir