System Dan Do Newydd i Loi yng Ngraianfryn i wella lles anifeiliaid a lleihau’r defnydd o wrthfiotig
Pythefnos cyntaf magu lloi sydd fwyaf allweddol a dyna pryd y gall y gyfradd farwolaethau fod yn uchel, gan y bydd y llo yn profi straen wrth symud i ddaliad newydd, newid yn ei amgylchedd byw, a threfn borthi newydd.
Ar hyn o bryd mae Graianfryn yn magu dros gant o loi croesfrid yn bennaf gan y grŵp Buitelaar sydd wedyn yn cael eu gwerthu i Morrisons neu Kepak yn 17-24 mis oed gan ddibynnu ar y brid a’u tyfiant. Maent yn anelu at 300-330kg o bwysau ar y bachyn. Bydd pwysau byw yn amrywio gan ddibynnu ar y brid a’r oedran, sy’n effeithio ar ganran y carcas.
Nod y prosiect hwn yw datblygu a gwella’r system fagu lloi bresennol ar fferm Graianfryn trwy ddylunio ac addasu’r sied bresennol ynghyd ag addasu taith y llo tuag at ddiddyfnu i wella lles anifeiliaid a lleihau’r defnydd o wrthfiotigau ar y fferm.
Defnyddir technoleg gan The Smart Bell sy’n dag y gellir ei ailddefnyddio sy’n casglu a monitro symudiadau’r llo a’i dymheredd i fonitro’r lloi trwy gydol y prosiect. Defnyddir synwyryddion tymheredd a lleithder LoRaWAN hefyd i fonitro’r amgylchedd ym mhob rhan unigol i gynorthwyo penderfyniadau rheoli.
Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ddeilliannau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:
- aer glân
- lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fferm
- cyfrannu at iechyd a lles da i’r fuches.