Michael James

Nantyrhebog, Carmarthen

Ymchwilio i’r elw posibl ar fuddsoddiad o dechnolegau sydd ar gael i ffermwyr

Mae Michael a Bethan James o fferm Nant Yr Hebog ger Caerfyrddin yn cadw 130 o wartheg croes tair ffordd gyda gwartheg Norwegian Red a Montbeliarde, ar systemau’n seiliedig yn bennaf ar laswellt, gan ganolbwyntio ar gynhyrchu llaeth o borthiant a magu eu heffrod cyfnewid eu hunain. Maent yn credu mewn cadw’r system yn syml, gan fwydo glaswellt, silwair a dwysfwyd yn unig.

Er eu bod yn cadw system syml, mae Michael a Bethan yn awyddus i archwilio a allai technoleg gynnig cymorth a gwella effeithlonrwydd, a’r gyfradd elw ar fuddsoddiad o ran eu DPA presennol ar gyfer ffrwythlondeb, cynhyrchiant, iechyd, elfennau metabolig ac arbedion llafur posibl.

Dros y 5 mlynedd diwethaf, mae gwartheg wedi cael eu monitro gan ddefnyddio mesurwyr camau, ond maent ar fin cael eu huwchraddio. Mae Michael a Bethan eisiau pwyso a mesur eu hopsiynau o ran gwahanol dechnolegau monitro gwartheg, a fydd yn cwmpasu iechyd y fuwch, ffrwythlondeb a chnoi cil. Yn ogystal, maent yn ystyried gosod systemau giatiau didoli awtomatig a pheiriannau crafu awtomatig dros y blynyddoedd nesaf i leihau’r llafur gofynnol.

Bydd y prosiect ar fferm Nant Yr Hebog yn ymchwilio i’r elw posibl ar fuddsoddiad o dechnolegau sydd ar gael i ffermwyr sy’n rhedeg system debyg, ynghyd ag unrhyw dechnoleg ychwanegol a allai ychwanegu gwerth yn y dyfodol agos.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • Gwella ansawdd yr aer
  • Sicrhau effeithlonrwydd adnoddau
  • Cyflawni a hybu safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel
  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Rhyd y Gofaint
Deryl a Francis Jones Rhyd y Gofaint, Aberaeron, Gogledd
Cwmcowddu
Sian, Aled and Rhodri Davies Cwmcowddu, Llangadog, Gogledd Sir
Wallog
David Evershed Wallog, North Ceredigion Mae argaeledd dŵr yfed