Ymgorffori meillion coch a biosymbylydd gwymon i wella ansawdd porthiant ac iechyd y pridd

Mae gan dyfu glaswellt amrywiol fanteision amgylcheddol ac o ran cynhyrchu, ac mae'r achos dros gymysgu meillion, yn enwedig meillion coch gyda hadau glaswellt, yn dod yn fwyfwy cymhellol. Mae’r cynnwys protein uchel mewn meillion coch yn un o rinweddau mwyaf y math hwn ar gyfer cynhyrchu silwair o ansawdd uchel. Mae gan silwair meillion coch gynnwys protein o 16–20% o gymharu â 12–14% mewn silwair glaswellt confensiynol o ansawdd da. Mae gwerthoedd protein ac egni uwch oll yn rhan o'r atyniad i dyfu meillion coch ar gyfer silwair a phori. Mae mwy o'r protein hefyd ar gael yn hawdd i'r da byw ei gymryd oherwydd bod yr ensym polyphenol ocsidas (PPO) mewn meillion coch yn arafu ei ddadelfennu yn y rwmen. Yn ogystal, mae meillion coch hefyd yn cael eu hystyried yn fuddiol ar gyfer eu gallu i sefydlogi nitrogen, gan leihau'r gofyniad am nitrogen sy’n cael ei wasgaru ar y tir. Mae meillion coch hefyd yn gadael nitrogen gweddilliol ar ôl ar gyfer y cnwd canlynol.

Mae'r defnydd o fiogynnyrch yn seiliedig ar wymon hefyd wedi bod yn ennill momentwm mewn systemau cynhyrchu cnydau oherwydd eu cydrannau bioactif unigryw a'u heffeithiau. Mae ganddyn nhw briodweddau ffytosymbylu (phytostimulatory) sy'n arwain at fwy o dwf a pharamedrau cynnyrch mewn sawl planhigyn cnwd pwysig. Dros y degawdau, mae echdynion gwymon wedi cael eu harchwilio'n fanwl i'w defnyddio wrth gynhyrchu cnydau er mwyn gwella cnwd biomas ac ansawdd cynnyrch. Dangoswyd bod yr echdynion hyn yn effeithio'n gadarnhaol ar eginiad hadau a thwf planhigion ym mhob cam hyd at y cynaeafu, a hyd yn oed ar ôl cynaeafu. Ond mae ymchwil i brofi'r datganiadau hyn yn brin iawn o hyd. 

Yn y treial hwn, byddwn yn ceisio cyfuno’r ddwy elfen drwy edrych ar effaith ymgorffori biogynnyrch sy’n seiliedig ar wymon ar wndwn meillion coch er mwyn deall yr effaith ar sefydlu’r cnwd, ei dwf a’i ansawdd. Y nod yw cymharu twf cnwd gyda'r biogynnyrch a hebddo, gyda'r nod yn y pen draw o wella ansawdd y silwair ac ehangu ar amcanion y prosiect cyntaf i ddileu dwysfwydydd er mwyn lleihau costau, a hynny heb effeithio ar berfformiad anifeiliaid.
 
Trwy ysgogi gwelliant pellach mewn effeithlonrwydd yn y meysydd busnes allweddol hyn, bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys: 

  • safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel 
  • lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fferm
  • gwella effeithlonrwydd adnoddau drwy wneud y gorau o borthiant a dyfir ar y fferm
  • Lleihau risg llifogydd a sychder trwy ymgorffori gwndwn â gwreiddiau dyfnach