Tanygraig Diweddariad ar y prosiect – Mehefin 2024
Oherwydd cyfnod o dyfiant uchel, ni thyfodd y meillion coch yn ôl y disgwyl, felly penderfynwyd defnyddio’r toriad cyntaf fel silwair glaswellt ac aros am aildyfiant er mwyn cael ail doriad gwell. Cymerwyd y toriad silwair cyntaf ar 4 Mehefin.
Taenu Gwymon
Yn seiliedig ar grynodiad o 4%, rhoddwyd gwymon ar 2 lain fel y crybwyllwyd yn y diagram uchod ar gyfradd o 7.5 litr yr hectar. Taenwyd y gwymon ar 20 Mehefin 2024
Y Camau Nesaf?
Caiff pob llain ei hasesu’n weledol am gynnwys meillion, ac unwaith y bydd yn barod i’w chynaeafu, caiff y Cnwd Deunydd Sych a Chynnwys Meillion eu mesur gan ddefnyddio’r dull torri a phwyso. Yn dibynnu ar dyfiant y glaswellt, mae ail daeniad o wymon hefyd wedi'i amserlennu os oes angen.
Darganfyddwch ragor ar y pwnc hwn:
Pwyso a mesur manteision ac anfanteision tros-hadu â meillion ar fferm yng Nghymru | Cyswllt Ffermio
Gwymon mewn amaethyddiaeth | Cyswllt Ffermio