20 Hydref 2022

 

Dr David Cutress: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Mae buddion defnyddio gwymon mewn amaethyddiaeth wedi cael eu hargymell ers amser maith
  • Mae ymchwil yn awgrymu bod gwymon gwyrdd yn fuddiol i newid pridd /planhigion a bod gwymon coch o bosibl yn fuddiol mewn bwyd anifeiliaid
  • Er mwyn cynnwys lefelau ystyrlon o wymon, mae angen gwneud rhagor o ymchwil a datblygu’r broses gynhyrchu a’r gadwyn gyflenwi ymhellach

 

Gwymon

Algâu yw gwymonau, neu facro-algâu yn fwy penodol, ac er eu bod yn cyflawni nifer o’r un swyddogaethau â phlanhigion, nid planhigion mohonynt. Oherwydd hyn, mae’n bosibl y byddwch yn gweld cyfeiriadau at wymonau fel planhigion anfasgwlar ond yn wahanol i blanhigion, mae’r rhywogaethau hyn yn amsugno’r maetholion maent yn eu defnyddio ar gyfer ffotosynthesis yn uniongyrchol trwy eu murgelloedd. At hyn, nid oes ganddynt goesynnau, gwreiddiau, sylemau a llawer o adeileddau arbenigol eraill planhigion. Y tri phrif grŵp o wymon yw gwyrdd, coch a brown ac mae’r lliwiau yn gyfuniad o gloroffyl a phigmentau ffotosynthetig atodol eraill sydd i’w cael ym mhob rhywogaeth, er enghraifft, mae gwymon coch yn cynnwys pigmentau ffycoerythrin a ffycocyanin er mwyn amsugno golau sy’n cyrraedd yn ddwfn i’r cefnfor ac mae gwymon brown yn cynnwys y pigment ffwcosanthin. Mae gwymon wedi cael ei ddefnyddio ers amser maith gan bobl am nifer o resymau, gan gynnwys fel ffynhonnell meddyginiaethau ac mae ymchwil mwy modern wedi dod o hyd i’r elfennau penodol mewn gwymon sy’n rhoi’r gwahanol swyddogaethau iddo. Ymlith rhai o swyddogaethau cyffredinol gwymon mae’r canlynol;

  • Bwyd (iach, isel mewn calorïau)
  • Meddyginiaeth
  • Deunydd pecynnu bwytadwy
  • Gwrtaith
  • Biosymbylyddion planhigion
  • Bio-adfer
  • Lleihau newid hinsawdd
  • Bioethanol
  • Llifynnau
  • Ffrwydron
  • Colur
  • Geliau
  • Atchwanegyn mewn porthiant da byw
  • Bio-edafedd

 

Ond ym maes amaethyddiaeth, y swyddogaethau a ddangosir mewn lliw yn y tabl uchod yw’r rhai sydd o ddiddordeb pennaf.

 

Gwymon ac amaethyddiaeth

Mae’r diddordeb mawr mewn gwymon ac echdynion gwymon ar gyfer tyfu planhigion ac amaethu yn amlwg pan welwn fod erthygl mewn cyfnodolyn o 1992 o’r enw ‘Seaweed extracts in agriculture and horticulture: a review’ wedi cael ei dyfynnu bron i 350 gwaith mewn papurau dilynol. Fodd bynnag, cyn i’r safbwyntiau gwyddonol hyn gael eu mynegi, roedd arferion hanesyddol cyffredin cymunedau amaethyddol arfordirol yn awgrymu bod gwymon yn fuddiol yn y maes hwn. Roedd yr arferion hyn yn dyddio mor bell yn ôl a chyfnod y Rhufeiniaid ac yn cynnwys pori gwymon a gynaeafwyd fel ffynhonell fwyd ychwanegol ar gyfer da byw a defnyddio gwymon a gasglwyd o’r traeth fel gwrtaith ar y tir. Yn ogystal â rhywogaethau macro-algâu brodorol sy’n hanfodol i ecosystemau dŵr croyw a morol, mae algâu ymledol yn cael effaith sylweddol. Wrth i weithgaredd dynol effeithio ar ddyfrffyrdd a systemau morol mae hyn yn aml yn achosi ewtroffigedd, sef pan fydd gormodedd o faetholion yn arwain at gynnydd mawr mewn algâu ac ymlediad rhywogaethau anfrodorol. Mae’n rhaid casglu’r lefelau uwch hyn o algâu a’u gwaredu er mwyn adfer ecosystemau i’w sefyllfa normal a byddai defnyddio’r ‘gwastraff’ hwn yn gallu arwain at rwyfaint o gylcholdeb sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd. Fodd bynnag, mae’r cycholdeb hwn yn gyfyngedig os bydd amaethyddiaeth a ffynonellau llygredd dŵr eraill yn cael eu targedu ar gyfer lleihau a gwaredu yn y tymor hir.  

Gwrtaith a’i ddefnyddio’n uniongyrchol ar y tir

Yn gyffredinol, pan fydd gwymon yn cael ei roi ar y tir bydd naill ai’n cael ei roi yn gyfan, mewn darnau mân, ar ffurf powdr neu echdynnau dyfrol.

Buddion

Dywedir y gellir defnyddio gwymon (neu ei echdynnau) ar ffurf atchwanegyn pridd neu wrtaith at sawl diben mewn systemau âr a garddwriaethol. Gall fod yn atchwanegyd gwrtaith carbon-niwtral i bob pwrpas, yn debyg i fathau eraill o wrtaith gwyrdd. Er bod gwymon yn isel mewn nitrogen (N) a ffosfforws (P), mae’n tueddu i fod yn uchel mewn potasiwm (K). Mae gwymon yn ychwanegu elfennau sy’n cyfyngu ar gyfradd planhigion yn uniongyrchol i’r pridd ond gallant hefyd weithredu fel biosymbylyddion planhigion gan eu bod yn cynnwys hormonau sy’n ysgogi planhigion i dyfu ac arwain at  gymeriant maetholion mwy effeithlon. Mae gwymon yn cynnwys awcsinau, cytocininau, giberelinau, asid absgisig ac ethylen a gallant effeithio ar dwf planhigion, heneiddio, rhaniad celloedd, eginiad, a rheoli straen. Er bod diffyg meta-ddadansoddiadau o effeithiau defnyddio macroalgâu gwahanol ar gynhyrchiant cnydau a gofynion maeth, mae astudiaethau niferus yn awgrymu eu bod yn fuddiol.

Cnwd

Effeithiau cadarnhaol

Papur

Melyn Mair

Cynnydd o ~40% ym mhwysau’r blodau

Angen 50% yn llai o wrtaith cemegol

Sridhar & Rengasamy (2010)

Eginblanhigion tomato

Cynnydd yn hyd y cynegin, hyd y cynwreiddiau, cynnydd mewn pwysau sych, cynnydd yn hyd yr egin ac uchder y planhigyn, yn gweithio’n well fel atchwanegyn yn y pridd na chwistrelliad deiliol

Hernández-Herrera et al (2013)

Ffa

Cynyddu eginiad

Carvalho et al. (2013)

Brocoli

Cynnydd mewn gweithgarwch gwrthocsidig, fflafonoidau, ffenolig ac isothiocynad, cynnydd yn niamedr y coesynnau, arwynebedd y dail, biomas, twf cynnar gwell a llai o bothelli gwynion bresych (Albugo candida)

Mattner et al. (2013)

Ffa Mwng

Cynyddu cyfanswm y protein, cyfanswm y carbohydrad a chyfanswm y lipid; cynnydd yn hyd yr egin a’r gwreiddiau

Ashok Kumar et al. (2012)

Melon dŵr

Cynyddu cynhyrchiant

Abdel-Mawgoud et al. (2010)

Nionod/Winwns

Cynyddu cynhyrchiant ac yn lleihau difrifoldeb llwydni gwlannog

Dogra and Mandradia (2014)

 

Ar draws y tri grŵp o wymon, mae ymchwil yn awgrymu mai macroalgâu gwyrdd sy’n fwyaf addawol fel atchwanegiad i’r pridd gan eu bod yn cynnwys cydrannau sy’n gallu hybu’r broses o waredu ffyngau a pathogenau niweidiol o bridd a phlanhigion (fel llwydni) a gwella amddiffyniad y planhigyn. Dangoswyd y gellid eu defnyddio hefyd o bosibl i atal difrod a achosir gan rywogaethau nematodau planhigion ar gnydau  a gallent fod yn ddewis organig unigryw yn lle nematoladdwyr sy’n cael eu rhoi ar y pridd.

Mae’n hysbys bod gan wymon a chynnyrch gwymon, gan gynnwys biochar, pH niwtral i alcalïaidd a phan fyddant yn cael eu rhoi’n uniongyrchol ar y bridd gallant newid pH y pridd fel cyfrwng calchu. Mae canlyniadau eraill sy’n achosi’r calchu hwn mewn profion yn cynnwys gwymon wedi cael eu cysylltu â lefelau sodiwm (Na+)yn ogystal â lefelau calsiwm (Ca) ac alginad uchel y gwymon, a phan fydd y rhain yn cael eu cyfuno maent yn effeithio ar allu’r gwymon i biogronni metalau trwm. Mae tynnu metalau yn gallu effeithio ar pH trwy atal mynediad at ronynnau mewn priddoedd a fyddai fel arfer yn cynyddu’r asidedd. Gallai rhoi gwymon ar diroedd halogedig sydd wedi’u diraddio fod o gymorth hefyd i dynnu metalau trwm fel alwminiwm (Al) gan rwystro/lleihau gallu Al i rwymo â maetholion sy’n cyfyngu ar blanhigion, fel ffosfforws. Mewn rhai systemau gallai hyn helpu i leihau’r gofynion gwrtaith ymhellach.

 

At hyn, un o briodweddau atchwanegion gwymon masnachol sy’n aml yn cael ei dyfynnu yw’r ffaith bod ei alginadau yn effeithio ar adeiledd pridd, gan ffurfio cymhlygion sy’n helpu i amsugno dŵr; mae hyn yn helpu i gadw dŵr, yn cynyddu awyriad a swyddogaetholdeb mandyllau’r pridd ac yn gwella adeiledd y pridd yn gyffredinol. Mae hyn yn cysylltu â’r diddordeb mewn defnyddio hydrogel ar bridd oherwydd ei fod yn rhyddhau gwrtaith yn araf ynghyd â gwella lefelau lleithder o amgylch planhigion mewn priddoedd.   

Rhwystrau rhag defnyddio gwymon

Mae angen rhoi rhagor o ystyriaeth i gadwyn gyflenwi a marchnad biomas gwymon mewn llawer o achosion o ran cynhyrchu yn uniongyrchol ar y safle a’r defnydd dilynol gan sicrhau nad yw’r deunydd yn eplesu ac yn diraddio gan olygu ei fod yn dod yn fath arall o wastraff a all gael effeithiau niweidiol, gan gynnwys rhyddhau nwyon niweidiol fel hydrogen sylffid. Un dull o atal y gwastraff maetholion hyn a sefydlogi agweddau buddiol gwymon yw defnyddio compostio. Mewn un set o arbrofion cafodd gwymon gwyrdd wedi’i gompostio â gwastraff cansenni siwgr ei ailddefnyddio ar gnwd o gansenni siwgr dilynol: gwelwyd bod compost yn uchel mewn gwymon wedi cynhyrchu biomas pedair gwaith yn uwch uwchben y ddaear na chompostau masnachol heb wymon. Hyd yn oed mewn astudiaethau lle’r oedd yr effeithiau ar gynnyrch a phwysau’r biomas yn ansylweddol, nodwyd bod buddion yn lefelau elfennau micro a macro  (fel boron, haearn, copr, sinc, calsiwm, sylffwr a photasiwm) yn biomas y planhigion a gynaeafwyd.

Gall lefelau uchel o gyfansoddion sylffwr mewn rhai mathau o wymon weithredu’n groes i’r broses galchu pan fyddant yn cael eu hychwanegu i bridd os yw’r amodau anaerobig yn amlwg (nid yw’r priddoedd wedi’u hawyru) oherwydd gall hyn arwain at ocsideiddio microbaidd gan droi sylffwr yn sylffadau.

 

Porthiant i leihau methan

Un maes arall lle mae gwymon wedi cael llawer o sylw ym maes amaethyddiaeth yw ei rôl bosibl mewn porthiant da byw, ac mae llawer o ymchwil a sylw yn y cyfryngau wedi canolbwyntio ar yr effeithiau amgylcheddol awgrymedig.

Buddion

Gall gwymon fod yn uchel mewn protein (hyd at 47% mewn pwysau mewn rhai achosion) ac mae gan fathau eraill lefelau asid brasterog omega buddiol. Y lefel protein hwn sy’n gwneud gwymon yn atyniadol fel ffynhonnell protein amgen ar gyfer da byw. Pan gaiff hyn ei gyfuno â’r cyfansoddion sy’n bodoli’n naturiol mewn gwymon ac sy’n effeithio ar gynhyrchu methan, mae’n hawdd gweld pam mae diddordeb yn y maes hwn. Mae gwymon yn cynnwys bromofform sy’n gweithredu i atal y cam olaf yn y broses o ffurfio methan oherwydd organebau yn y rwmen, a chredir mai dyma’r brif fecanwaith gweithredu. Mae’n hysbys bod rhywogethau gwymon coch yn cynnwys lefelau uwch o bromofform a lefelau tebyg o bromocloromethan. Mae astudiaethau wedi gweld gostyngiadau methan o hyd at 100% (dros gyfnodau amser astudio byr) a 98% (dros gyfnodau amser hirach 90-diwrnod), ac mae astudiaethau eraill wedi nodi gostyngiad llawer llai neu, mewn rhai achosion, cynnydd bach mewn lefelau methan yn y tymor byr. Mae effeithiau amgylcheddol gwymon fel porthiant o ddiddordeb mawr i strategaethau net-sero’r dyfodol ac felly rydym yn debygol o weld rhagor o ymchwil i geisio datrys y canlyniadau gwrthgyferbyniol hyn yn y dyfodol mewn treialon ar raddfa fawr. Yn ogystal â’r effeithiau ar lefelau methan, yr effeithiau eraill yn ymwneud â phorthiant a nodwyd oedd cynnydd mewn pwysau byw a gostyngiad yn y deunydd sych sy’n cael ei fwyta.

Rhwystrau rhag defnyddio gwymon

Fel y nodwyd eisoes yn y drafodaeth ar fuddion gwymon fel gwrtaith ar y pridd, mae gwymon yn dda iawn am gronni metalau trwm, ac mae hyn yn wir hefyd mewn amgylchoedd dyfrol cyn cynaeafu. Oherwydd hyn, er mwyn profi ac olrhain gwymon ar gyfer ei ddefnyddio fel porthiant da byw, efallai bydd angen ystyried rhai ffactorau i sicrhau nad yw’r dognau yn arwain at ryddhau metelau niweidiol yng nghorff yr anifeiliaid. Yn yr un modd, gall tocsigedd ïodin i dda byw, yn ogystal â’r ffaith ei fod yn mynd i mewn i’r cig a llaeth, fod yn rhwystr rhag defnyddio gwymon mewn porthiant. Nodwyd lefelau uchel o ïodin mewn gwymon mewn un arbrawf a arweiniodd at gynhyrchu llaeth â lefelau ïodin mor uchel â 3 mg/L; byddai hyn yn golygu mai’r lefel y gellid ei oddef yn ddiogel o laeth i oedolion fyddai tua 300 ml y dydd ac yn achos plant byddai 1 litr o laeth yn cynnwys dros 15 gwaith y lefel y gellir ei oddef a awgrymir. Er mai un astudiaeth yn unig yw hon, mae’n dangos bod angen rhagor o ymchwil o bosibl.

Un rhwystr arall rhag defnyddio gwymon mewn porthiant da byw yw’r awgrym bod lefel isel o dderbynioldeb o ran blas wrth gynnwys gwymon mewn porthiant gan arwain at broblemau gan fod anifeiliaid yn bwyta llai ohono. Er bod llawer o astudiaethau wedi dangos cyfraddau cynhwysiant hyd at 20% mewn profion gyda defaid, y gyfradd cynhwysiant cyfartalog (ar draws 10+ astudiaeth) oedd 12.8% (ond roedd yn amrywio mor isel â 0.006%). Gallai hyn fod yn faes lle mae cyfansoddion penodol a echdynnir o wymon fod yn fwy llwyddiannus na’r cynnyrch cyfan.  

 

Ystyriaethau eraill yn ymwneud â gwymon

Mater pwysig y mae angen ei ystyried o ran defnyddio gwymon yw ei werth potensial i gael ei ddefnyddio yn lle tanwyddau ffosil sy’n niweidiol i’r amgylchedd. Mae gwymon yn ddewis amgen diddorol i dyfu biomas ar gyfer cynhyrchu biodanwydd am sawl rheswm gwahanol. Yn gyntaf, yn debyg i ddewisiadau biodanwydd sy’n seiliedig ar blanhigion, byddai gwymon yn garbon niwtral i bob pwrpas. Mae’r lefelau allbwn biomas yn addawol hefyd ac mae gwymon yn gost effeithiol o ran ei dyfu, ond yn bwysicach oll, nid yw’n cael effaith ar newid defnydd tir ac nid yw’n cystadlu’n uniongyrchol ag unrhyw beth arall sy’n cael ei roi ar dir amaethyddol. Mae hyn yn golygu na ellir dadlau y byddai’n well ffermio rhywbeth arall yn lle gwymon oherwydd y ddadl bwyd yn erbyn tanwydd. Fodd bynnag, gallai’r rôl hon gystadlu’n uniongyrchol am y cyflenwad o facroalgâu at ddefnydd amaethyddol, oni bai fod gormod yn cael ei gynhyrchu neu bod dulliau yn cael eu gwella i wahanu’r cyfansoddion sy’n bwysig i amaethyddiaeth o’r biomas sy’n fuddiol o ran biodanwydd mewn ffordd sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd ac yn gost effeithiol. At hyn, er mwyn i’r defnydd o wymon fod yn ddichonadwy ar raddfa fawr byddai’n rhaid ffermio gwymon yn uniongyrchol ar draws Ewrop i osgoi materion yn gysylltiedig â mewnforio. Mae sawl cyhoeddiad wedi nodi y byddai ffermio gwymon ar y raddfa hon yn debygol o effeithio ar fioamrywiaeth, eto i gyd, hyd yma nid yw gwir natur yr effeithiau yn hysbys; mae rhai astudiaethau yn dangos bod yr effeithiau yn gyfyngedig ac eraill yn dangos gostyngiad o ran bioamrywiaeth mewn rhywogaethau pysgod oherwydd bod ffermio gwymon wedi amharu arnynt. Byddai angen cynnal arbrofion mwy penodol cyn y gellid sicrhau cyflenwadau ar raddfa fawr yn ddiogel.

Mae tyfu a ffermio gwymon yn artiffisial yn faes dyframaethu sy’n datblygu ac mae ffigyrau yn awgrymu ei fod yn cyfrif am ≥27% o gyfanswm cynhyrchiant dyframaethu morol. Er gwaethaf hyn, mae’n amlwg bod angen llawer mwy o ymchwil a datblygu i ganfod pa rywogaethau i’w ffermio/amaethu a beth yw’r ffordd orau o wneud hyn yn y DU i gael y lefel adnoddau sydd eu hangen er mwyn ei gynnwys mewn amaethyddiaeth ar raddfa fwy. Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o ffermio gwymon yn digwydd yn Asia gan wneud ffactorau allforio a mewnforio yn ystyriaeth fawr. Mae’r rhagolygon ar gyfer ffermio gwymon yn dda iawn gan nad yw’r systemau ffermio hyn yn cystadlu ag amaethu ar dir âr neu ddyframaethu mewn dŵr croyw ac mae tyfu gwymon wedi cael ei gysylltu â strategaethau lleihau carbon.

Byddai casglu gwymon er mwyn ei ddefnyddio mewn amaethyddiaeth yn gallu dod â buddion amgylcheddol ac economaidd eraill. Un ffordd y gallai hyn fod o fudd fyddai oherwydd bod gwymon sy’n cael ei adael ar draethau ar raddfa fawr yn aml yn gysylltiedig â goblygiadau negyddol ar gyfer twristiaeth oherwydd ei ymddangosiad ac arogl yn ystod y broses eplesu. O’r herwydd, byddai cael mecanweithiau ar gyfer casglu’r gwymon hwn er budd amaethyddiaeth neu unrhyw ddiben buddiol arall yn gallu rhoi hwb i economïau lleol y rhanbarthau arfordirol.

Trafodwyd y cyfansoddion sydd mewn gwymon eisoes o ran eu rolau uniongyrchol wrth reoli pathogenau a gweithgareddau bioladdol. Ond un maes arall o ddiddordeb yw newid y cyfansoddion hyn yn gemegol er mwyn gwella eu heffeithiau, ac mae llawer o ymchwil yn awgrymu rolau gwrthficrobaidd yn dilyn eu haddasu. Yn y pen draw, gallai’r rhain chwarae rhan i wella opsiynau triniaeth ar gyfer da byw a lleihau effaith ymwrthedd gwrthficrobaidd sy’n parhau i fod yn destun pryder i’r diwydiant.

 

Crynodeb

Gallai defnyddio gwymon a macroalgâu mewn amaethyddiaeth chwarae rhan mewn cylcholdeb, yn benodol mewn rhanbarthau arfordirol neu lle mae arferion ffermio yn cynyddu ewtroffigedd mewn ffynonellau dŵr cyfagos ac mae hyn yn arwain at gynnydd mewn macroalgâu yn y dyfrffyrdd. Yn hytrach na gadael i hyn effeithio ar ecosystemau, gallai eu cynaeafu ar gyfer eu defnyddio ar bridd amaethyddol neu ar gyfer porthiant fod yn fuddiol. O ran eu defnyddio ar y pridd, mae angen gwerthuso cadwyni cyflenwi gwymon i sicrhau bod buddion eu defnyddio o ran logisteg a’r costau (economaidd ac amgylcheddol) yn erbyn y gwerth wedi’u deall yn llawn. At hyn, mae’n ymddangos bod gwymon yn gweithio’n well mewn pridd iach lle mae strategaethau yn eu lle i leihau lefelau gweithgarwch microbaidd anaerobig. Mae hyn yn awgrymu y byddai’n gweithio’n dda ar y cyd ag arferion cynaliadwy fel tyfu cnydau gorchudd a ffermio coedâr. Ar y llaw arall, mae defnyddio macroalgâu i fwydo da byw yn cynnig y posibilrwydd o ddarparu ffynhonnell brotein amgen gyda rhai effeithiau amgylcheddol diddorol y mae angen eu gwerthuso ymhellach mewn profion ar raddfa fawr. Mae rhywogaethau gwymon gwyrdd yn edrych yn addawol ar gyfer eu defnyddio ar y tir, ac mae rhywogaethau gwymon coch yn edrych yn fwy addawol ar gyfer eu defnyddio gyda da byw gan osgoi cystadleuaeth rhwng y ddau gynnyrch.  

 

Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023
Cadw Lloi dan do a Chlefyd Resbiradol Buchol
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub , Prifysgol Aberystwyth. Ionawr
Cnydau Porthiant ar gyfer Pesgi Ŵyn: Cnydau Bresych
Dr Natalie Meades: IBERS, Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth