Academi Amaeth 2025

Mae Academi Amaeth Cyswllt Ffermio yn anelu at:

  • Wella eich dealltwriaeth o faterion sy'n effeithio ar lwyddiant eich busnes
  • Gwella eich ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd a’r bygythiadau sy'n wynebu eich busnes yn y dyfodol
  • Cefnogi datblygiad personol trwy weithdai a seminarau
  • Cynnig cyfle i gwrdd ag arbenigwyr ac arweinwyr busnes yn y diwydiant
  • Creu amgylchedd i wella sgiliau rheoli busnes
  • Adeiladu rhwydwwaith o’r busnesau amaethyddol mwyaf blaengar yng Nghymru

Mae ffenestr ymgeisio ar gyfer Academi Amaeth 2025 wedi cau.

 

Cychwyn a Chyflwyniadau

Sioe Frenhinol Cymru

22 Gorffennaf 2025

SESIWN 1: 

Ceredigion

12 - 14 Medi 2025

SESIWN 2: 

Taith Astudio Tramor

Siapan

27 Medi - 05 Hydref 2025

SESIWN 3: 

 


  

07 - 09 Tachwedd 2025

SEREMONI ACADEMI AMAETH

Y Ffair Aeaf 

24 Tachwedd 2025

*Mae posibilrwydd y gallai lleoliadau ar gyfer y teithiau astudio tramor newid o ganlyniad i ffactorau allanol.

Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer yr Academi Amaeth fod dros 21 oed. Gall ymgeiswyr o dan 21 oed wneud cais am Academi yr Ifanc. Rhaid i bob ymgeisydd fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio a rhaid iddynt gwblhau Cynllun Datblygu Personol ar eu cyfrif BOSS.

PWYSIG - rhaid i ymgeiswyr fynychu pob un o'r sesiynau uchod a rhaid iddynt gael pasbort sy'n ddilys am o leiaf 6 mis ar ôl yr ymweliad astudio. Gall methu ag ymrwymo'n llawn i holl brofiad yr Academi Amaeth arwain at gael eich diarddel o'r rhaglen a gorchymyn i ad-dalu costau'r daith. Ni all aelodau fod yn absennol o sesiynau preswyl, oni bai bod unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol

  • Profedigaeth agos yn y teulu
  • Salwch personol a nodyn meddyg dilys
  • Cyfrifoldebau gofal brys ac anochel am ddibynnydd

Am ragor o wybodaeth, siaradwch â rhai o gyn-aelodau’r Academi neu cysylltwch â'ch Swyddog Datblygu Lleol.

Dyma'r ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer ein rhaglen Academi Amaeth 2025

Huw Thomas
Huw Thomas

Llanspyddid, Aberhonddu

Ifan Mars Jones
Ifan Mars Jones

Dinbych, Conwy

Laura Evans
Laura Evans

Tregaron, Ceredigion

Llifon Davies
Llifon Davies

Caerfyrddin, Sir Gâr

Lucy Eyre
Lucy Eyre

Y Trallwng, Powys

Marcus Ferraro
Marcus Ferraro

Castellnewydd Emlyn, Ceredigion

Reuben Powell
Reuben Powell

Llandrindod Wells, Powys

Siwan Roberts
Siwan Roberts

Llanwddyn, Oswestry

Sophie Hughes
Sophie Hughes

Sontley, Wrecsam

William John McFarland
William John McFarland

Penfro, Sir Benfro

Ynyr Mon Pugh
Ynyr Mon Pugh

Machynlleth, Powys