Nela Dafydd

Machynlleth, Powys

Mae Nela, sy’n dod o Fachynlleth, yn astudio Lefel A Bioleg, Cemeg a Busnes yn Ysgol Penweddig ar hyn o bryd. Ar ôl dewis ei phynciau Lefel A gyda gyrfa yn y sector Amaethyddol mewn golwg, mae Nela wedi ymrwymo i greu gyrfa a fydd yn ei galluogi i gyfuno ei huchelgeisiau proffesiynol â rhedeg y fferm deuluol.

Er nad yw wedi penderfynu eto, mae gyrfa mewn Milfeddygaeth yn apelio at Nela, ond mae hi hefyd yn cael ei denu at Fioleg y Pridd ac ymchwil cnydau. Yn y pen draw, mae Nela yn awyddus i barhau i ymwreiddio’n gadarn yn ei chymuned wledig, a bydd yn chwilio am yrfa sy’n caniatáu iddi ennill bywoliaeth wrth gefnogi ei chymuned leol ar yr un pryd.

Mae Nela yn Rheolwr Gyfarwyddwr ar gwmni 'Llanw' sydd wedi'i sefydlu fel rhan o gystadleuaeth Menter yr Ifanc. Enillodd y cwmni'r rownd leol, yn ogystal â Chymru cyn iddynt fynd ymlaen i ennill ym Mhrydain, ac felly fe fydd y tîm yn hedfan i Sisili ar ddechrau mis Gorffennaf i gynrychioli Prydain yn y rownd Ewropeaidd.

Yn ei hamser hamdden, mae Nela yn chwarae i dîm merched clwb rygbi Machynlleth ac yn aelod o CFfI Bro Ddyfi. Mae’n mwynhau cystadlaethau siarad cyhoeddus yn arbennig; cynrychiolodd Sir Drefaldwyn yn ddiweddar, lle daeth yn ail. 

Mae Nela yn cydnabod yr angen i archwilio ei hopsiynau o ran ei llwybr gyrfa; bydd yn ceisio ysbrydoliaeth gan gyn-fyfyrwyr yr Academi Amaeth, ac mae’n gobeithio gwneud cysylltiadau ag eraill sy’n rhannu’r un diddordebau. Dywed Nela mai ei dymuniad pennaf yw manteisio ar bob cyfle a roddir iddi er mwyn peidio â difaru yn y dyfodol.