Enw
Emma Jones
Lleoliad
Gogledd Cymru
Prif Arbenigedd
Cynllunio busnes, cynllunio rheoli maetholion, archwilio carbon, cyngor technegol ar anifeiliaid cnoi cil, hwyluso grwpiau a phrosiectau
Sector
- Bîff
- Defaid
- Cynllunio busnes
- Hwyluso grwpiau a phrosiectau
Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?
- Profiad eang ac amrywiol o’r diwydiant amaeth, prosesu cig a chadwyni cyflenwi cig a ddatblygwyd drwy weithio mewn sawl swydd o fewn y sectorau hyn dros yr 20 mlynedd diwethaf
- Profiad helaeth mewn ymgynghori ar fusnesau gwledig – yn enwedig yn gweithio gyda chynhyrchwyr cig coch gan ddarparu cyngor technegol ar y gadwyn gyflenwi, rheoli da byw, rheoli maetholion ac archwilio carbon
- Dealltwriaeth gadarn o ddadansoddi busnes a’r farchnad, datblygiad y farchnad ar gyfer cynhyrchion cig coch, ceisiadau am gynlluniau grant, rheoli cyllidebau a pherthnasau
- Cyfathrebwr da (Saesneg fel iaith gyntaf, ac yn dysgu Cymraeg)
- Profiad helaeth o reoli busnes fferm gan gynnwys cynllunio busnes strategol, cymorth technegol a gweinyddol, yn ogystal â rheoli bîff a defaid yn ymarferol o ddydd i ddydd a meincnodi mentrau
- Rheoli a chyflawni prosiectau adeiladu capasiti cadwyni cyflenwi cig coch, gan wella cyfathrebu ar hyd y gadwyn gyflenwi a datblygu marchnadoedd newydd
- Brocer arloesedd ar y prosiect Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) ar ran nifer o brosiectau da byw, cadwyni cyflenwi cig coch a glaswelltir yng Nghymru
- Hwylusydd grŵp a darparwr hyfforddiant profiadol ar gyfer grwpiau o ffermwyr a rhanddeiliaid o fewn y diwydiant
- Darparu arbenigedd tyst arbenigol mewn achosion cyfreithiol yn ymwneud â da byw
- Rheoli prosiectau, o baratoi tendrau hyd at gyflawni, cwblhau a gwerthuso prosiectau, gan sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni ar amser ac o fewn y gyllideb
- Profiad sylweddol o reoli perthnasau ar bob lefel yn y sectorau prosesu cig, marchnata ac amaethyddiaeth
- Trefnu a chymryd rhan mewn digwyddiadau i randdeiliaid megis derbyniadau a sioeau masnach
- Yn ogystal, mae Emma yn helpu i redeg fferm bîff a defaid yn yr ucheldir ym Mharc Cenedlaethol Eryri, sydd hefyd yn arallgyfeirio i gynnig gwersylla a glampio
Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad
- BSc (Anrh.) mewn Gwyddor Amaethyddol (Gwyddor Anifeiliaid), Prifysgol Caeredin
- CGC 4 mewn Rheolaeth
- MPhil Bio-wyddoniaeth Bwyd, Prifysgol Reading
- Cynghorydd busnes achrededig SFEDI/ FBASS, cymhwyster FACTS ac wedi cofrestru gyda BASIS
Awgrym /Dyfyniad
“Casglwch a dadansoddwch ddata o’ch mentrau. Ar ôl gwneud hynny, gallwch weld ble mae’r cryfderau a’r gwendidau, a gallwch wneud penderfyniadau deallus ynglŷn â sut i ddatblygu eich mentrau ymhellach.”