Enw

Emma Jones

Lleoliad

Gogledd Cymru

Prif Arbenigedd

Cynllunio busnes, cynllunio rheoli maetholion, archwilio carbon, cyngor technegol ar anifeiliaid cnoi cil, hwyluso grwpiau a phrosiectau

Sector

  • Bîff
  • Defaid
  • Cynllunio busnes
  • Hwyluso grwpiau a phrosiectau

Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?

  • Profiad eang ac amrywiol o’r diwydiant amaeth, prosesu cig a chadwyni cyflenwi cig a ddatblygwyd drwy weithio mewn sawl swydd o fewn y sectorau hyn dros yr 20 mlynedd diwethaf
  • Profiad helaeth mewn ymgynghori ar fusnesau gwledig – yn enwedig yn gweithio gyda chynhyrchwyr cig coch gan ddarparu cyngor technegol ar y gadwyn gyflenwi, rheoli da byw, rheoli maetholion ac archwilio carbon
  • Dealltwriaeth gadarn o ddadansoddi busnes a’r farchnad, datblygiad y farchnad ar gyfer cynhyrchion cig coch, ceisiadau am gynlluniau grant, rheoli cyllidebau a pherthnasau
  • Cyfathrebwr da (Saesneg fel iaith gyntaf, ac yn dysgu Cymraeg)
  • Profiad helaeth o reoli busnes fferm gan gynnwys cynllunio busnes strategol, cymorth technegol a gweinyddol, yn ogystal â rheoli bîff a defaid yn ymarferol o ddydd i ddydd a meincnodi mentrau
  • Rheoli a chyflawni prosiectau adeiladu capasiti cadwyni cyflenwi cig coch, gan wella cyfathrebu ar hyd y gadwyn gyflenwi a datblygu marchnadoedd newydd
  • Brocer arloesedd ar y prosiect Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) ar ran nifer o brosiectau da byw, cadwyni cyflenwi cig coch a glaswelltir yng Nghymru
  • Hwylusydd grŵp a darparwr hyfforddiant profiadol ar gyfer grwpiau o ffermwyr a rhanddeiliaid o fewn y diwydiant
  • Darparu arbenigedd tyst arbenigol mewn achosion cyfreithiol yn ymwneud â da byw
  • Rheoli prosiectau, o baratoi tendrau hyd at gyflawni, cwblhau a gwerthuso prosiectau, gan sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni ar amser ac o fewn y gyllideb
  • Profiad sylweddol o reoli perthnasau ar bob lefel yn y sectorau prosesu cig, marchnata ac amaethyddiaeth
  • Trefnu a chymryd rhan mewn digwyddiadau i randdeiliaid megis derbyniadau a sioeau masnach
  • Yn ogystal, mae Emma yn helpu i redeg fferm bîff a defaid yn yr ucheldir ym Mharc Cenedlaethol Eryri, sydd hefyd yn arallgyfeirio i gynnig gwersylla a glampio 

Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad

  • BSc (Anrh.) mewn Gwyddor Amaethyddol (Gwyddor Anifeiliaid), Prifysgol Caeredin
  • CGC 4 mewn Rheolaeth
  • MPhil Bio-wyddoniaeth Bwyd, Prifysgol Reading
  • Cynghorydd busnes achrededig SFEDI/ FBASS, cymhwyster FACTS ac wedi cofrestru gyda BASIS

Awgrym /Dyfyniad

“Casglwch a dadansoddwch ddata o’ch mentrau. Ar ôl gwneud hynny, gallwch weld ble mae’r cryfderau a’r gwendidau, a gallwch wneud penderfyniadau deallus ynglŷn â sut i ddatblygu eich mentrau ymhellach.”