Enw
Karen Wheeler
Lleoliad
Swydd Henffordd
Prif Arbenigedd
Da Byw
Sector
- Da byw sy’n cnoi cil – Bîff a defaid
Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?
- Mae gan Karen gefndir mewn gwaith ymchwil amaethyddol – ymunodd ag ADAS i weithio yn y tîm ymchwil yn Resemaund, Swydd Henffordd.
- Bu ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio’n bennaf ar dda byw sy’n cnoi cil (gwartheg bîff, defaid a cheirw) yn trafod systemau cynhyrchu anifeiliaid cnoi cil, maeth anifeiliaid, lles anifeiliaid, ansawdd cig a hylendid cig.
- Ar hyn o bryd, mae’n gweithio yn y tîm da byw gyda diddordeb penodol mewn systemau cynhyrchu anifeiliaid cnoi cil
- Profiad o gasglu a dadansoddi data ar gyfer prosiectau ymchwil ac arolygon meintiol ac ansoddol, ynghyd ag adrodd canlyniadau i gleientiaid a ffermwyr
- Profiad o ddefnyddio Agrecalc i gyfrifo ôl troed carbon a datblygu cynlluniau gweithredu i ffermwyr. Mae enghreifftiau diweddar yn cynnwys gwaith ar ran ffermydd strategol AHDB a Cyswllt Ffermio
Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad
- 1989 BSc. (Anrh.) Amaeth – Adran Amaeth, bwyd a defnydd tir Seale-Hayne. Polytechnic South West
- Ymunodd ag ADAS ym 1990 i weithio’n bennaf ar brosiectau ymchwil da byw
- Wedi cwblhau’r rhaglen ‘Datblygu arbenigedd mewn defaid’ a gynhaliwyd gan AHDB Beef and Lamb 2016-17
Awgrym /Dyfyniad
“Mae lle i wella bob amser. Defnyddiwch ffigyrau perfformiad busnes perthnasol i helpu i ganfod meysydd ffocws posibl.”