Enw

Karen Wheeler 

Lleoliad

Swydd Henffordd

Prif Arbenigedd

Da Byw

Sector

  • Da byw sy’n cnoi cil – Bîff a defaid

Pam eich bod chi’n Ymgynghorydd effeithiol?

  • Mae gan Karen gefndir mewn gwaith ymchwil amaethyddol – ymunodd ag ADAS i weithio yn y tîm ymchwil yn Resemaund, Swydd Henffordd.  
  • Bu ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio’n bennaf ar dda byw sy’n cnoi cil (gwartheg bîff, defaid a cheirw) yn trafod systemau cynhyrchu anifeiliaid cnoi cil, maeth anifeiliaid, lles anifeiliaid, ansawdd cig a hylendid cig.
  • Ar hyn o bryd, mae’n gweithio yn y tîm da byw gyda diddordeb penodol mewn systemau cynhyrchu anifeiliaid cnoi cil
  • Profiad o gasglu a dadansoddi data ar gyfer prosiectau ymchwil ac arolygon meintiol ac ansoddol, ynghyd ag adrodd canlyniadau i gleientiaid a ffermwyr
  • Profiad o ddefnyddio Agrecalc i gyfrifo ôl troed carbon a datblygu cynlluniau gweithredu i ffermwyr. Mae enghreifftiau diweddar yn cynnwys gwaith ar ran ffermydd strategol AHDB a Cyswllt Ffermio 

Cymwysterau/Llwyddiannau/Profiad

  • 1989 BSc. (Anrh.) Amaeth – Adran Amaeth, bwyd a defnydd tir Seale-Hayne.      Polytechnic South West
  • Ymunodd ag ADAS ym 1990 i weithio’n bennaf ar brosiectau ymchwil da byw
  • Wedi cwblhau’r rhaglen ‘Datblygu arbenigedd mewn defaid’ a gynhaliwyd gan AHDB Beef and Lamb 2016-17

Awgrym /Dyfyniad

“Mae lle i wella bob amser. Defnyddiwch ffigyrau perfformiad busnes perthnasol i helpu i ganfod meysydd ffocws posibl.”