Caryl Hughes
Tuhwntir Afon, Llanarmon Dyffryn Ceiriog
Mae Caryl Hughes yn ffermio mewn partneriaeth gyda’i theulu (J. E. Hughes a’i Fab) ar fferm Tuhwntirafon, Llanarmon D.C. Maent yn ffermio oddeutu 900 erw o dir, gyda 60% ohono ar rent ar draws pedwar bloc penodol. Mae’r prif ddaliad yn fferm ucheldir gyda’r buarth ar uchder o 1000 troedfedd, a’r tir yn codi hyd at 1600 troedfedd.
Mae’r da byw yn cynnwys 1200 o famogiaid Mynydd Cymreig a 300 o famogiaid Miwl Cymreig. Mae’r fferm yn cadw mamogiaid cyfnewid, gan gynnwys oddeutu 280 o famogiaid Cymreig a 70-100 o famogiaid Miwl. Mae’r cyfraddau sganio yn 120% ar gyfer y mamogiaid Cymreig a 165% ar gyfer y mamogiaid Miwl. Mae gwerthiannau ŵyn yn dechrau gyda’r ŵyn Texel croes o’r mamogiaid Miwl ar ddiwedd mis Mehefin, ac yna’r ŵyn Cymreig a’r ŵyn Miwl o fis Medi. Mae anifeiliaid wedi’u pesgi ac anifeiliaid stôr yn cael eu gwerthu yn y marchnadoedd byw. Yn ogystal, mae 25 o wartheg sugno Limousin croes llaeth sy’n lloia yn y gwanwyn, ac mae oddeutu 30 o wartheg blwydd oed/stôr yn cael eu prynu’n flynyddol, gyda rhai o’r heffrod yn cael eu cadw fel anifeiliaid cyfnewid.
Bydd dau brosiect yn cyd-redeg gyda’r gweithgareddau ar y fferm, gan ganolbwyntio ar iechyd a pherfformiad defaid. Bydd y prosiect cyntaf yn archwilio effaith dau wahanol faddon traed ar gloffni mewn defaid. Bydd yr ail brosiect yn ymchwilio a yw rhoi bolws i ŵyn gwryw yn gwella eu cynnydd pwysau byw a’u perfformiad cyffredinol, gan anelu at leihau nifer yr ŵyn sy’n cael eu gwerthu fwy na phedair mis ar ôl diddyfnu.
Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:
- Sicrhau effeithlonrwydd adnoddau
- Safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel