Alyn Wyn Evans
Fferm Penllyn, Tywyn
Mesur bioamrywiaeth a bywyd gwyllt ar Fferm Penllyn: Nodi arferion ffermio cadarnhaol a meysydd i’w gwella ymhellach
Mae Fferm Penllyn yn fferm denant 75-hectar wedi’i lleoli ar gyrion tref Tywyn, Meirionnydd, yn magu bîff a defaid, gan gynhyrchu cig coch o ansawdd uchel. Mae’r teulu wedi bod yn rhedeg y fferm ers cymryd y denantiaeth ym 1998. Mae’r ymrwymiad i weithio law yn llaw â natur yn ganolog i’w gweledigaeth, gan gydnabod bod cynhyrchu bwyd mewn modd proffidiol yn hanfodol er mwyn i ffermwyr allu parhau â’u rôl stiwardiaeth amgylcheddol hanfodol. Mae’r ymrwymiad hwn wedi cael ei gydnabod drwy ennill gwobrau am eu gwaith cadwraeth a hybu bywyd gwyllt megis cornchwiglod.
Fel aelod newydd o’r rhwydwaith Ein Ffermydd, bydd Alun Wyn Evans a’r teulu ar Fferm Penllyn yn dechrau prosiect i fesur y fioamrywiaeth a’r bywyd gwyllt sy’n bresennol ar y fferm. Bydd y fenter hon nid yn unig yn nodi’r arferion ffermio sydd wedi arwain at ffyniant bywyd gwyllt, gan ddangos cyfraniadau cadarnhaol amaethyddiaeth cig coch i’r ecosystem, ond hefyd yn canfod meysydd i’w gwella ymhellach. Nod y prosiect yw dangos sut mae ffermio cynaliadwy a phroffidiol, yn enwedig yn y sector cig coch, yn hanfodol er mwyn cynnal a gwella ein hamgylchedd naturiol, ac i ysbrydoli ffermydd eraill i fabwysiadu’r arferion buddiol hyn.
Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:
- Cynnal a gwella cydnerthedd ecosystemau
- Cadw a gwella tirweddau a’r amgylchedd hanesyddol
- Gwneud y gorau o ddal a storio carbon
- Safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel