Michael James

Nantyrhebog, Carmarthen

Ymchwilio i’r elw posibl ar fuddsoddiad o dechnolegau sydd ar gael i ffermwyr

Mae Michael a Bethan James o fferm Nant Yr Hebog ger Caerfyrddin yn cadw 130 o wartheg croes tair ffordd gyda gwartheg Norwegian Red a Montbeliarde, ar systemau’n seiliedig yn bennaf ar laswellt, gan ganolbwyntio ar gynhyrchu llaeth o borthiant a magu eu heffrod cyfnewid eu hunain. Maent yn credu mewn cadw’r system yn syml, gan fwydo glaswellt, silwair a dwysfwyd yn unig.

Er eu bod yn cadw system syml, mae Michael a Bethan yn awyddus i archwilio a allai technoleg gynnig cymorth a gwella effeithlonrwydd, a’r gyfradd elw ar fuddsoddiad o ran eu DPA presennol ar gyfer ffrwythlondeb, cynhyrchiant, iechyd, elfennau metabolig ac arbedion llafur posibl.

Dros y 5 mlynedd diwethaf, mae gwartheg wedi cael eu monitro gan ddefnyddio mesurwyr camau, ond maent ar fin cael eu huwchraddio. Mae Michael a Bethan eisiau pwyso a mesur eu hopsiynau o ran gwahanol dechnolegau monitro gwartheg, a fydd yn cwmpasu iechyd y fuwch, ffrwythlondeb a chnoi cil. Yn ogystal, maent yn ystyried gosod systemau giatiau didoli awtomatig a pheiriannau crafu awtomatig dros y blynyddoedd nesaf i leihau’r llafur gofynnol.

Bydd y prosiect ar fferm Nant Yr Hebog yn ymchwilio i’r elw posibl ar fuddsoddiad o dechnolegau sydd ar gael i ffermwyr sy’n rhedeg system debyg, ynghyd ag unrhyw dechnoleg ychwanegol a allai ychwanegu gwerth yn y dyfodol agos.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • Gwella ansawdd yr aer
  • Sicrhau effeithlonrwydd adnoddau
  • Cyflawni a hybu safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel
  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Llysiau Menai
Sam Hollick Llysiau Menai, Anglesey Lleihau difrod gan chwilod
Tuhwntir Afon
Caryl Hughes Tuhwntir Afon, Llanarmon Dyffryn Ceiriog Mae Caryl
Parc y Dderwen
Laura Simpson Parc y Dderwen, Llangolman Treialu sefydlu cnydau