Cymharu perfformiad ŵyn ar wndwn a helyg

Mae’r prosiect hwn yn archwilio a allai helyg gynnig ateb naturiol, cost effeithiol i broblemau diffyg cobalt mewn ŵyn wedi’u diddyfnu ar ffermydd yng Nghymru. Mae diffyg cobalt yn broblem hysbys ymysg nifer o ddiadelloedd arfordirol, gan arwain at dwf gwael a’r angen am ychwanegion drud megis bolysau a drensh.

Bydd y prosiect yn cymharu pedair system bori wahanol ar gyfer ŵyn wedi’u diddyfnu:

  • Gwndwn llysieuol amlrywogaeth
  • Gwndwn llysieuol amlrywogaeth gyda helyg ychwanegol
  • Gwndwn parhaol (eich system bresennol)
  • Gwndwn parhaol gyda helyg ychwanegol

Pam helyg? Mae dail helyg yn uchel mewn cobalt, ac yn flasus i ŵyn. Trwy ymgorffori helyg, rydym yn gobeithio y gallwn waredu’r angen am ychwanegion cobalt drud, gan arbed amser ac arian i chi, a hybu twf ŵyn iachach mewn ffordd fwy naturiol.

Mae gennym ddiddordeb hefyd i weld sut mae gwndwn amlrywogaeth yn cymharu gyda gwndwn parhaol o ran iechyd a chynhyrchiant ŵyn, a pha fath o wndwn, os o gwbl, sy’n gweithio orau wrth ei gyfuno gyda helyg.

Y tu hwnt i berfformiad ŵyn, byddwn yn monitro cyfrif wyau ysgarthol a dadansoddiad mwynau yn y gwaed i gael darlun cyflawn o iechyd yr ŵyn.

Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • Safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel
  • Tirweddau naturiol gwarchodedig
  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • Defnyddio adnoddau’n naturiol
  • Ecosystemau cydnerth