Castell Crugiau Diweddariad Terfynol

Canlyniadau allweddol:

  • Dangosodd ŵyn a gafodd eu bwydo â dail helyg lefel lawer uwch o fitamin B12 yn eu gwaed na'r grŵp a oedd heb ei drin
  • Nodwyd lefelau copr a seleniwm uwch yn y ddau grŵp o’i gymharu â dechrau'r arbrawf, er bod y grŵp y rhoddwyd y porthiant helyg iddo wedi dangos mwy o gynnydd
  • Mae'n ymddangos bod defnyddio porthiant helyg yn adnodd rheoli defnyddiol ar yr amod y gellir dod o hyd i ffordd effeithlon a hawdd o’i roi i anifeiliaid. 

Cefndir: 

Mae Marc a'r teulu wedi bod yn archwilio a all porthiant helyg atchwanegu cobalt yn naturiol i ŵyn, gan ddisodli bolysau a drenshis costus. Maent wedi sylwi bod ŵyn yn bwyta dail helyg yn hawdd, ac mae helyg yn tyfu'n dda ar y fferm. Yn aml, nid yw ŵyn ar borfa yn cael digon o gobalt, yn enwedig yn yr haf, a all effeithio ar eu twf. Gyda chyngor a gwasanaeth ymgynghori gan Angus Wyse o filfeddygon Castle House, cymharodd y treial hwn iechyd a thwf ŵyn ar wndwn amlrywogaeth a hynny yn sgil ychwanegu porthiant helyg ar gyfer pori a heb ei ychwanegu. Cafodd y llwyth parasitiaid a lefelau mwynau gwaed eu monitro i werthuso'r hyn a oedd gan borthiant helyg i’w gynnig. Yn y pen draw, pwrpas y treial oedd ymchwilio i ffordd gynaliadwy ac iddi gost isel o wella iechyd a pherfformiad y ddiadell. 

Pwrpas y gwaith:

  1. Bwydo helyg i ŵyn: pa effaith mae'n ei gael ar gyfraddau twf a mwynau yn y gwaed
  2. Harneisio maetholion porthiant coed: a fydd cynaeafu helyg yn cynnig ateb cynaliadwy a chost isel?

Yr hyn a wnaethom: 

  • Rhannwyd grŵp o 32 o ŵyn stôr gwrywaidd gydag amrywiad tebyg o ran eu pwysau yn 2 grŵp o 16
  • Pwyswyd yr holl ŵyn a thynnwyd samplau o’u gwaed ar 4 Awst, gan gymryd samplau cyfrif wyau ysgarthol ychwanegol o’r grŵp, a chawsant eu trin ag anthelmintig sbectrwm eang
  • Roedd un grŵp o 16 ŵyn yn pori gwndwn amlrywogaeth
  • Roedd yr ail grŵp o 16 ŵyn yn pori gwndwn amlrywogaeth ynghyd â phorthiant helyg ychwanegol a oedd wedi'i gynaeafu; cafodd hyn ei fwydo trwy rwystr porthiant, a chafodd ei ailgyflenwi bob hyn a hyn
  • Pwyswyd ŵyn 6 wythnos yn ddiweddarach (wedi'u gwahaniaethu â thagiau EID),
     

Canlyniadau:

Lefelau mwynau a fitaminau

  • Cobalt a fitamin B12: Ar ddechrau'r arbrawf, dangosodd profion gwaed fod gan 10% o'r ŵyn ddiffyg cobalt. Erbyn diwedd yr arbrawf, ni nodwyd diffyg o'r fath yn unrhyw un o'r ŵyn. Fodd bynnag, dangosodd y grŵp y rhoddwyd porthiant helyg iddynt lefelau sylweddol uwch o Fitamin B12 o’i gymharu â'r grŵp a oedd heb ei drin, sy'n awgrymu bod atchwanegu â helyg yn gwella statws cobalt yn effeithiol.
  • Copr a seleniwm: Dangosodd y grwpiau a gafodd borthiant helyg a’r rhai heb eu trin lefelau uwch o gopr a seleniwm erbyn diwedd yr arbrawf. Gwelwyd cynnydd mwy sylweddol yn y ddau fwyn yn y grŵp a gafodd borthiant helyg. Yn ogystal, arhosodd lefelau copr a oedd eisoes ychydig yn uchel ar ddechrau'r arbrawf yn uchel drwyddo draw. Mae hyn yn codi pryder posibl am wenwyndra copr os rhoddir atchwanegiadau sy'n cynnwys copr i ŵyn neu os ydynt yn cael eu bwydo â diet llawn dwysfwyd yn y dyfodol.

Cyfraddau twf

Ar y cyfan, roedd cyfraddau twf ŵyn yn is na'r disgwyl, o ganlyniad i haf sych iawn gyda thyfiant glaswellt gwael. Fodd bynnag, enillodd yr ŵyn yn y grŵp a gafodd borthiant helyg un cilogram yn fwy ar gyfartaledd na'r grŵp a oedd heb ei drin dros y cyfnod o chwe wythnos.

Casgliad

Mae'r canlyniadau'n awgrymu bod rhoi porthiant helyg i ŵyn yn adnodd rheoli buddiol a all wella statws cobalt yn sylweddol a chael effaith gadarnhaol ar lefelau copr a seleniwm. Gallai manteision diet a atchwanegir â helyg fod hyd yn oed yn fwy amlwg os nad yw prif ddiet yr anifeiliaid yn dod o wndwn llysieuol, gan fod gwndwn llysieuol yn tueddu i fod â chynnwys uwch o elfennau hybrin o’i gymharu â chymysgeddau glaswellt-meillion traddodiadol. Mae'r rhywogaethau amrywiol mewn gwndwn llysieuol, megis planhigion porfa fel ysgellog a llyriad, a chodlysiau, yn naturiol yn cynnwys lefelau uwch o nifer fawr o'r elfennau allweddol hyn, a all wella iechyd a pherfformiad da byw. Er bod y treial yn dangos effaith gadarnhaol ar dwf, mae angen ymchwilio pellach i ddull ymarferol ac effeithlon ar gyfer bwydo helyg i ŵyn.

Sut i roi hyn ar waith ar eich fferm chi:

  1. Ydych chi'n credu bod gennych ddiffyg elfennau hybrin? Cymerwch sampl FEC cyfunol i leihau effaith llyngyr ar berfformiad ŵyn.
  2. Casglwch samplau gwaed o bob oen (neu ganran) ar gyfer dadansoddiad cychwynnol i ddod o hyd i waelodlin.
  3. Penderfynwch sut y gallwch chi roi’r porthiant helyg i’r anifeiliaid: torri a darparu canghennau helyg ffres, gellir defnyddio rhwystr porthiant syml i atal sathru a gwastraff. Ailgyflenwi'r helyg bob hyn a hyn i sicrhau mynediad cyson. Gallech hefyd ganiatáu i’r anifeiliaid bori’r coed yn rhydd mewn padog.
  4. Os ydych chi am ganfod effaith helyg ar berfformiad eich ŵyn eich hun, dylech bwyso'r ŵyn cyn cyflwyno porthiant helyg ac eto cyn eu gwerthu neu pan fyddant ar y pwysau gorau posibl fel ŵyn benyw.

Llun 1. Roedd ŵyn yn tynnu'r dail helyg yn hawdd trwy rwystrau porthiant.

Llun 2.  Porthiant helyg wedi’i gynnig ar y ddaear.