Tros hau gan ddefnyddio da byw - Adroddiad Terfynol

Prif ganlyniadau:

  • O ystyried hirhoedledd y gwndwn dros sawl blwyddyn, mae tros hau gan ddefnyddio da byw yn cynnig arbediad o rhwng £77.44/ha i £127.44/ha o’i gymharu ag aredig.
  • Roedd tros hau yn llawer mwy effeithiol wrth hau ar borfa a oedd wedi cael ei phori o’i gymharu â phorfa heb ei phori.
  • Roedd gwahaniaeth sylweddol yn y rhywogaethau a sefydlwyd yn llwyddiannus yn y system hon.
  • Mae defnyddio triniaeth hadau fiolegol a hau ar laswellt ar ôl pori wedi arwain at gynnydd o 76% yn nifer y rhywogaethau a sefydlwyd yn llwyddiannus o’i gymharu â hau hadau heb eu trin ar laswellt ar ôl pori.

Cefndir:

Wedi’u hysbrydoli gan raglen Rhagori ar Bori Cyswllt Ffermio ac arweiniad gan gwmni Precision Grazing, mae Wil a Nia wedi symleiddio gweithrediadau ar fferm Hendreseifion trwy symud tuag at ddefnyddio contractwyr yn hytrach na phrynu peiriannau drud, a disodli’r fuches sugno gyda heffrod i’w magu ar gontract ar y fferm gartref, gyda chymorth buddsoddiad yn yr isadeiledd pori.

Gan ddilyn ei ethos o fenter mewnbwn isel yn seiliedig ar y borfa, ymgeisiodd Wil am Gyllid Arbrofi er mwyn arbrofi dull cost isel, gyda chyn lleied o darfu â phosibl i wella ansawdd maethol ei borfeydd.

Diben y gwaith:

Nod y prosiect yw canfod a oes modd tros hau porfeydd parhaol yn llwyddiannus gyda chymysgedd hadau amlrywogaeth gan ddefnyddio dull cost isel sy’n cynnwys cyn lleied o fewnbynnau peirianyddol a chemegol â phosibl, gan gynnwys;

  • Chwalu hadau glaswellt, codlysiau a pherlysiau ar borfa barhaol gan ddefnyddio peiriant chwalu wedi’i osod ar gerbyd aml-dirwedd, gan osgoi’r angen i drin y tir.
    • cymharu amseriad cyflwyno hadau
      • chwalu’r hadau ar borfeydd rhwng 1900 a 2500 kg DM/ha cyn pori
      • chwalu’r hadau ar borfeydd rhwng 1200 – 1400 kg DM/ha ar ôl pori
    • treialu defnyddio triniaeth hadau fiolegol
  • Defnyddio da byw i sathru’r hadau er mwyn sicrhau cyswllt gyda’r pridd, gan ddisodli triniaeth fecanyddol.
  • Gwerthuso llwyddiant sefydlu’n seiliedig ar arolygon cyfansoddiad botanegol cyn yr ail gyfnod pori ar ôl sefydlu.
     

Yr hyn a wnaed:

Defnyddiwyd tri chae ~2ha - 3ha sgwâr yn yr arbrawf, gyda’r ‘triniaethau’ yn cael eu hailadrodd ym mhob cae. Cafodd pob cae ei rannu’n bedair is-lain ar gyfer y gwahanol driniaethau;
 

Lleiniau A1, B1 a C1

Lleiniau A2, B2 a C2

Lleiniau A3, B3 a C3

Lleiniau A4, B4 a C4

Chwalu’r hadau ar laswellt cyn pori

(1900-2500 kg DM/ha)

Chwalu’r hadau ar laswellt ar ôl pori (1200-1400 kg DM/ha)

Chwalu’r hadau ar laswellt cyn pori (1900-2500 kg DM/ha)

Hadau wedi’u gorchuddio â thriniaeth hadau fiolegol (hadau wedi’u trin) ar gyfradd o 0.8L o gynnyrch fesul 100kg o hadau (wedi’i wanhau gyda 2.4L o ddŵr)

Hadau heb eu trin

Ffigur 1. Y triniaethau a roddwyd ar draws y 4 is-lain

 Defnyddiwyd cyfradd hau o 10kg/erw (25kg/ha) ar gyfer pob llain, gan gynnwys y canlynol:

 

 

Glaswellt:

37% Rhygwellt parhaol

9.5% Peisrygwellt

6% Rhonwellt

 

Codlysiau: 

11.5% Meillion coch 

11% Meillion gwyn 

2.5% Meillion Sweden 

2% Pys y ceirw

 

Perlysiau: 

10% Llyriad 

5% Ysgellog 

2.5% Bwrned 

2.5% Persli defaid 

0.5% Milddail

 

Er mwyn paratoi a sefydlu’r cnydau (Mis Mawrth – mis Medi 2025), gwnaed y canlynol:

Paratoadau cychwynnol

Cynhaliwyd asesiad o’r caeau arbrofol ac arolygon cynllunio ym mis Mawrth er mwyn dewis a pharatoi caeau’r arbrawf. Cynhaliwyd Asesiad Gweledol o Strwythur y Pridd (VESS) er mwyn asesu strwythur y pridd, canfod unrhyw rywogaethau presennol a phennu pa mor agored oedd y gwndwn a phresenoldeb gwellt.

Canfuwyd haen o glai ar ddyfnder o tua 7cm. Cadarnhaodd y dadansoddiad pridd lefelau ffosfforws (P2) a photasiwm (KS-) digonol. Dim ond 60kg/ha o P a K a argymhellwyd er mwyn sefydlu’r hadau, a ddarparwyd ar ffurf gwasgariad o 0.24.24 ar gyfradd o 250 kg/ha, gyda chyfanswm net y gwarged bach o P a ddarparwyd yn cael ei roi yn erbyn gofynion y cnwd yn y dyfodol. Roedd pH dau o’r tri chae yn unol â’r targed o 6.3 – 6.5, gyda chae C yn is na’r targed, gyda pH o 6. Argymhellwyd y dylid gwasgaru Calcifert ar gyfradd o 247 kg/ha, sy’n ddigon i godi lefel y pH i lefel uwch na 6.3 mewn priddoedd canolig.

Roedd y data a gasglwyd yn llywio’r dewis hadau.

➔ Gwelwyd rhygwellt parhaol, gan gadarnhau ei addasrwydd ar gyfer tros hau.

➔ Dewiswyd triniaeth hadau fiolegol ar gyfer yr arbrawf oherwydd presenoldeb glaswellt cystadleuol mewn porfeydd presennol.

➔ Arweiniodd presenoldeb haen gyfyngol at gynnwys rhywogaethau gyda gwreiddiau dwfn megis Ysgellog a Llyriad er mwyn torri trwy’r pridd a chynyddu deunydd organig y pridd.

➔ Ychwanegwyd cyfradd uchel o feillion i’r cymysgedd hadau oherwydd ei brinder yn y caeau, gan gynyddu lefelau protein a sefydlogi nitrogen.

➔ Roedd y gwndwn agored a’r diffyg gwellt yn caniatáu ar gyfer dewis glaswelltau mwy hirdymor.


Cyn hau

  • Er mwyn sicrhau’r siawns orau o lwyddo, defnyddiwyd synwyryddion LoRaWAN i fonitro tymheredd a lleithder y pridd (fel y gwelir yn ffigur 2) ac fe ychwanegwyd triniaeth hadau ar gyfer yr arbrawf.
  • Sefydlwyd is-leiniau a gosodwyd ffensys trydan er mwyn rheoli pori.
  • Penderfynwyd ar 30 Ebrill i oedi’r hau o ganlyniad i amodau sych a bod cynnwys lleithder y pridd wedi gostwng 3% bob dydd.
     

Ffigur 2. Lleithder 7.5cm uchaf y pridd ar ffurf % rhwng 24 Ebrill a 28 Mehefin. Mae’r smotyn coch yn nodi pryd y penderfynwyd oedi’r hau. Mae’r smotyn gwyrdd yn nodi pryd y cafodd y llain gyntaf ei hau

Rheoli’r hau ac ar ôl hau

  • Cafodd yr hadau eu trin ar y diwrnod cyn y dyddiad hau (penderfynwyd oedi hau’r lleiniau cyntaf am 48 awr oherwydd tywydd gwael)
  • Cafodd y lleiniau eu hau yn y drefn ganlynol:

Hau ar borfeydd cyn pori

1. Chwalu’r hadau.

2. Cyflwyno gwartheg i’r llain ar gyfradd o 137 fesul hectar neu 35,600 kg pwysau byw fesul hectar, gan ddefnyddio ffensys trydan dros dro i sicrhau bod y borfa’n cael ei phori i lawr i 1400 kg DM/ha o fewn 6 awr neu lai.

3. Yna cafodd y da byw eu tynnu oddi ar y borfa.

Hau ar borfeydd ar ôl pori

1. Cyflwyno gwartheg i’r llain ar gyfradd o 137 fesul hectar neu 35,600 kg pwysau byw fesul hectar, gan ddefnyddio ffensys trydan dros dro i sicrhau bod y borfa’n cael ei phori i lawr i 1400 kg DM/ha o fewn 6 awr neu lai.

2. Chwalu’r hadau.

3. Cafodd y gwartheg eu cadw ar y llain am awr i sathru’r hadau.

4. Yna cafodd y da byw eu tynnu oddi ar y borfa.

Pob llain

  • Rheoli cystadleuaeth ar ôl hau – Yn ddelfrydol, byddai’r lleiniau’n cael eu pori gan dda byw gyda gofynion isel 5 diwrnod ar ôl hau, fodd bynnag, nid oedd unrhyw stoc sych ar gael ar y pryd, felly cafodd y cam hwn ei hepgor ar gyfer pob llain arbrofi.
  • Yn hytrach, cafodd y lleiniau eu pori’n ysgafn gan ddefnyddio gwartheg ifanc, 8-10 wythnos ar ôl hau.
  • Cynhaliwyd arolygon cyfansoddiad botanegol a chymerwyd samplau ar gyfer dadansoddi maeth 30 diwrnod ar ôl pori’n ysgafn.

Canlyniadau:


Ffigur 3. Canran gyfartalog o’r rhywogaethau a heuwyd a oedd yn bresennol ym mhob llain, gan gymharu hau ar borfeydd cyn pori gyda hau ar borfeydd ar ôl pori.

Ffigur 4. Canran gyfartalog o’r rhywogaethau a heuwyd a oedd yn bresennol ym mhob llain, hadau wedi’u trin o’i gymharu â hadau heb eu trin.

Ffigur 5. Canran o’r holl arolygon cwadrad, ar draws pob llain lle gwelwyd y rhywogaethau a heuwyd (e.e. 100% = yn bresennol ym mhob un o’r 60 o arolygon cwadrad a gynhaliwyd ar 3 Medi)

 

Elw ar fuddsoddiad

Tabl 1. Elw ar fuddsoddiad ar gyfer y dull mwyaf llwyddiannus a ddefnyddiwyd ar fferm Hendreseifion (hadau wedi’u trin wedi’u chwalu ar borfeydd ar ôl pori) o’i gymharu â’r un dull, ond gan ystyried costau damcaniaethol ar gyfer cywiro iechyd y pridd. Hefyd yn cymharu gyda dau ddull ail-hadu a dreialwyd mewn prosiect Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio arall ar fferm Cilywinllan, gan ddefnyddio data o’r lleiniau rheoli yn Hendreseifion fel llinell sylfaen (Rheoli). Defnyddiwyd cyfrifiannell gwerth porthiant i gyfrifo gwerth porthiant, yn seiliedig ar ddadansoddiad maethol cemeg gwlyb, darlleniadau mesurydd plât a data arolwg.

Meincnodi

 

Prosiect Cilywinllan - aredig

Prosiect Cilywinllan - Glyffosad a drilio’n uniongyrchol

Rheoli (porfa barhaol)

Hendreseifion – Chwalu gyda da byw

Chwalu + Da byw + cynyddu lefelau pH, P a K

Cyfanswm costau sefydlu £/ha

£709.74

£610.89

0

£200.00

£400.00

Twf porthiant a ragwelir – T 

DM/HA fesul blwyddyn

12.00

9.00

6.50

8.60

8.60

Cyfanswm gwerth y porthiant £/ha fesul blwyddyn

£1,719.30

£1,289.47

£802.30

£1,179.14

£1,179.14

Gwerth y porthiant ychwanegol o dyfwyd o’i gymharu â’r llain reoli £/ha fesul blwyddyn

£917.00

£487.17

0

£376.84

£376.84

Elw ar fuddsoddiad ar ôl blwyddyn

29.20%

-20.25%

 

88.42%

-5.79%

Elw ar fuddsoddiad ar ôl 2 flynedd

158.40%

59.50%

 

276.84%

88.42%

Elw ar fuddsoddiad ar ôl 3 blynedd

287.60%

139.24%

 

465.25%

182.63%

Elw ar fuddsoddiad ar ôl 4 blynedd

416.81%

218.99%

 

653.67%

276.84%

Yn seiliedig ar hirhoedledd y gwndwn, mae tros hau gan ddefnyddio da byw yn cynnig arbediad cost sylweddol gan amrywio o £77.44/ha i £127.44/ha o’i gymharu â chostau aredig. At hynny, mae amseriad yr ymyrraeth yn hanfodol, gan fod tros hau wedi profi i fod yn llawer mwy effeithiol wrth hau porfeydd ar ôl eu pori yn hytrach na chyn eu pori. Arweiniodd y gwahaniaeth hwn o ran amseriad yr hau, ynghyd â ffactorau eraill, at amrywiaeth sylweddol yn y rhywogaethau a lwyddodd i sefydlu o fewn y system. Yn benodol, trwy gyfuno triniaeth hadau fiolegol gyda hau ar borfeydd ar ôl pori at gynnydd sylweddol o 76% o ran y rhywogaethau a sefydlwyd yn llwyddiannus o’i gymharu â hadau heb eu trin ar yr un porfeydd ar ôl pori.

Sut i’w roi ar waith ar eich fferm:

  1. Cywiro amgylchedd y pridd a pharatoi’r gwndwn presennol: Profwch ac aseswch amodau’r pridd a gwerthuswch gynnwys y gwndwn presennol cyn penderfynu ar y dull o dros hau, a p’un a yw ail-hau’r cyfan yn fwy addas. Rhowch flaenoriaeth i gywiro iechyd y pridd cyn sefydlu, gan anelu at pH targed o oddeutu 6.3, gyda mynegai P a K o 2. Cyn hau, porwch yn effeithiol gan ddefnyddio ffens drydan i leihau’r gorchudd presennol i uchafswm o 1400 kg DM/ha i leihau cystadleuaeth.
  2. Dylunio a thrin cymysgeddau hadau yn strategol: Defnyddiwch y Gyfrifiannell cymysgeddau hadau gwndwn amlrywogaeth i gynllunio’r union gyfansoddiad, gan ganolbwyntio ar rywogaethau sy’n sefydlu’n gyflym ac sy’n addas ar gyfer yr hinsawdd leol a’r pwysau pori. Ystyriwch ddefnyddio triniaeth hadau fiolegol i wella cryfder a gwytnwch egino o’i gymharu â phwysau cystadleuol o’r borfa bresennol.
  3. Amseru manwl gywir gan ddefnyddio data amser real: Canfyddwch y cyfnod tros hau delfrydol trwy gyfuno rhagolygon tywydd cyfnod hir gydag amodau pridd ac amgylcheddol amser real a gesglir gan ddefnyddio synwyryddion LoRaWAN (monitro tymheredd a lleithder y pridd) i sicrhau’r amgylchedd gorau posibl ar gyfer cyswllt rhwng yr hadau a’r pridd a thwf cychwynnol yr eginblanhigion.
  4. Dull gwasgaru ac ymgorffori hadau: Chwalwch y gymysgedd hadau a baratowyd yn uniongyrchol ar y borfa sy’n cael ei phori’n dynn. Yn syth wedi hynny, defnyddiwch dda byw i wthio’r hadau i wyneb y pridd (sathru), gan sicrhau cyswllt hanfodol rhwng yr hadau a’r pridd heb ddefnyddio dulliau trin mecanyddol.
  5. Rheoli cystadleuaeth ar ôl hau yn llym: Rhoi mesur pori cystadleuol dros dro ar waith trwy ailgyflwyno stoc galw isel, hŷn (e.e. mamogiaid sych neu wartheg sych) i’r cae 5 diwrnod ar ôl hau i ail-bori’r borfa bresennol a lleihau cystadleuaeth; rhaid symud y stoc cyn i’r eginblanhigion newydd ddechrau ymddangos. Cynlluniwch y trefniant pori hirdymor i sicrhau dyfalbarhad y borfa a’r codlysiau i sicrhau’r elw gorau posibl ar fuddsoddiad.

Llun 1. Llun o’r cwadrad a gasglwyd drwy’r ap Senus Terrain yn ystod arolygon cychwynnol ar lain A2 ar 27 Mawrth 2025

Llun 2. Llain A2 ar 3 Medi 2025

Llun 3. Wil a’i fab, yn barod i wasgaru hadau ar orchudd ar ôl pori