Eifion Pughe

Fferm Cilywinllan, North Montgomeryshire

 

Gyda hafau sychach a chostau mewnbwn amrywiol ar gynnydd, mae Eifion a Menna yn awyddus i weld a allan nhw dyfu perlysiau a meillion gyda'u gwndwn glaswellt i gynyddu goddefgarwch i sychder ochr yn ochr â lleihau'r angen i brynu gwrtaith.
 
Wrth iddyn nhw ragweld mai’r ffordd ymlaen fydd cyflwyno perlysiau a chymysgeddau codlysiau i'w glaswellt, bydd y prosiect yn ymchwilio i ba ddull sefydlu sydd fwyaf effeithiol ac effeithlon i sefydlu gwyndwn cymysg newydd. Bydd y prosiect yn cymharu:

  • Llwyddiant sefydlu’r gwyndwn cymysg
  • Cost sefydlu ar draws gwahanol fethodolegau
  • Effaith ar fioleg y pridd a gaiff ei mesur trwy fonitro’r cyfrif llyngyr ym mhob llain

Bydd y prosiect yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fferm
  • Cefnogi gwelliant mewn storio carbon wrth leihau ôl troed carbon y fferm gyfan
  • Cynnal a gwella'r ecosystem
     

Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Nantyrhebog
Michael James Nantyrhebog, Carmarthen Ymchwilio i’r elw posibl ar
Brynllech Uchaf
Rhodri and Claire Jones Brynllech Uchaf, Llanuwchllyn
Dylasau Uchaf
Beca Glyn Dylasau Uchaf, Conwy Mae Dylasau Uchaf yn awyddus i