21 Chwefror 2024

 

Mae gwndwn llysieuol â gwreiddiau dwfn ar fferm ym Mhowys wedi bod yn allweddol i gynnal porfa pan fo hafau poeth a sych wedi herio glaswelltir ac, wrth i’r busnes geisio ehangu ei erwau o godlysiau a pherlysiau, mae’n treialu amrywiaeth o ddulliau sefydlu ar y cyd â Cyswllt Ffermio i ganfod pa rai yw'r rhai mwyaf effeithlon ac effeithiol.

Mae Eifion Pughe a Menna Williams yn magu heffrod llaeth ar gontract ar 150 erw ar Fferm Cilywinllan ger Machynlleth.

Mae'r anifeiliaid a aned ym mis Mawrth yn cyrraedd Cilywinllan yn saith mis oed ac yn dychwelyd i fferm eu perchennog yn eu hail aeaf pan fyddant yn gyflo.

Mae gwneud y defnydd gorau o borthiant cartref yn allweddol i reoli costau yn y busnes ac, yn y pen draw, proffidioldeb.

Mae cyfnodau o sychder yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi rhoi pwysau ar gynhyrchu glaswellt, felly ddwy flynedd yn ôl, cyflwynodd Eifion a Menna borfa amrywiol am y tro cyntaf gyda rhywogaethau sydd â gwahanol ddyfnder gwreiddio, priodweddau a goddefgarwch i sychder.

“Fe wnaethon ni ail-hadu 15 erw ac fe wnaeth y 15 erw hynny ein harbed yr haf hwnnw, fe wnaethon nhw barhau i dyfu pan nad oedd y borfa yn tyfu,” medda Eifion.

“Bu'n rhaid i ni bori ar gylchdro byrrach, 16 diwrnod yn hytrach na 21, ac nid dyna’r rheolaeth orau ohonynt ond fe oedd yn help i ni oroesi drwy'r haf hwnnw.''

I ddechrau, ychwanegodd llyriad yn unig i’r cymysgedd hadau glaswellt pan arbrofodd gyntaf wyth mlynedd yn ôl ond ers hynny mae wedi cynnwys ystod llawer mwy amrywiol o rywogaethau gan gynnwys ysgellog, milddail, meillion a meillion coch, gwyn a pherseem, gyda chymysgeddau hadau pwrpasol wedi’u llunio gan Osian Jones, o Oliver Seeds, i 
gyd-fynd ag anghenion y busnes.

Mae hyd at 4.5 hectar yn cael ei ail-hadu bob blwyddyn.

Gall fod yn anodd sefydlu gwndwn llysieuol ac mae gwahanol ffyrdd o wneud hynny.

Er mwyn canfod pa un sy'n rhoi'r canlyniad gorau ar ffermydd Cymru fel Cilywinllan, mae Eifion a Menna yn cynnal treial Cyswllt Ffermio gan ddefnyddio gwahanol ddulliau.

Mae tri chae wedi'u hau â gwndwn llysieuol - un ar ôl aredig confensiynol a dau gyda drilio uniongyrchol, ac mae un o'r caeau hynny’n cael ei chwistrellu â glyffosad a'r llall â glyffosad ac asid ffwlfig sy'n caniatáu i gyfradd is o glysoffad gael ei ddefnyddio.

Mae defnyddio cynnyrch sy'n cynnwys ffyngau mycorhisol a rhisobacteria, i gynorthwyo nod Eifion a Menna o leihau mewnbynnau a gwneud y gwndwn yn fwy goddefgar i sychder, hefyd yn cael ei dreialu.

Oherwydd y tywydd gwlyb ym mis Gorffennaf a mis Awst nid oedd modd hau'r had tan fis Medi. “Fel arfer nid ydym yn hau dim byd ar ôl mis Awst ond rydym yn gobeithio y bydd y gwndwn yn tyfu’r gwanwyn hwn,” meddai Eifion.

Bydd Cyswllt Ffermio yn rhannu canlyniadau’r prosiect gyda ffermwyr eraill.

Ychydig iawn o ddwysfwyd y mae Eifion a Menna yn ei ddefnyddio yn eu system magu heffrod – dim ond y gwartheg iau sy’n cael ychydig bach pan gânt eu cadw dan do yn eu gaeaf cyntaf – gan fod perfformiad yn deillio o bori a silwair meillion coch.

Yn ogystal â darparu porthiant ar adegau pan fyddant efallai wedi gorfod troi at ddwysfwyd a brynir, mae tyfu gwndwn llysieuol wedi lleihau eu defnydd o nitrogen.

“Nid wyf wedi cadw cofnodion felly dydw i ddim yn gwybod faint yn llai o nitrogen rydym yn ei ddefnyddio ond ychydig iawn o nitrogen y mae’r gwndwn llysieuol ei angen,” meddai Eifion.

Mae'r modd y mae’r gwndwn llysieuol yn cael ei reoli yn allweddol i'w berfformiad, awgryma Eifion.

“Ni fyddant yn addas ar gyfer system stocio sefydlog oherwydd mae angen amser ar y planhigion i adfer rhwng pori, a chael y cyfnod hwnnw o orffwys, neu fe fyddant yn marw.

“Mae angen eu pori ar system bori cylchdro, does dim rhaid ei wneud gyda llawer o ffensys trydan, byddai cau cae am ychydig wythnosau yn gweithio.''

Mae’r cyfle i weithio gyda Cyswllt Ffermio ar y prosiect hwn wedi bod yn hynod fuddiol, ychwanega.

“Mae wedi rhoi'r hwb yr oedd ei angen arnom a hefyd mynediad at arbenigwyr, i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud y pethau cywir.''
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint