Tros hau gan ddefnyddio da byw - Adroddiad Terfynol
Prif ganlyniadau:
- O ystyried hirhoedledd y gwndwn dros sawl blwyddyn, mae tros hau gan ddefnyddio da byw yn cynnig arbediad o rhwng £77.44/ha i £127.44/ha o’i gymharu ag aredig.
- Roedd tros hau yn llawer mwy effeithiol wrth hau ar borfa a oedd wedi cael ei phori o’i gymharu â phorfa heb ei phori.
- Roedd gwahaniaeth sylweddol yn y rhywogaethau a sefydlwyd yn llwyddiannus yn y system hon.
- Mae defnyddio triniaeth hadau fiolegol a hau ar laswellt ar ôl pori wedi arwain at gynnydd o 76% yn nifer y rhywogaethau a sefydlwyd yn llwyddiannus o’i gymharu â hau hadau heb eu trin ar laswellt ar ôl pori.
Cefndir:
Wedi’u hysbrydoli gan raglen Rhagori ar Bori Cyswllt Ffermio ac arweiniad gan gwmni Precision Grazing, mae Wil a Nia wedi symleiddio gweithrediadau ar fferm Hendreseifion trwy symud tuag at ddefnyddio contractwyr yn hytrach na phrynu peiriannau drud, a disodli’r fuches sugno gyda heffrod i’w magu ar gontract ar y fferm gartref, gyda chymorth buddsoddiad yn yr isadeiledd pori.
Gan ddilyn ei ethos o fenter mewnbwn isel yn seiliedig ar y borfa, ymgeisiodd Wil am Gyllid Arbrofi er mwyn arbrofi dull cost isel, gyda chyn lleied o darfu â phosibl i wella ansawdd maethol ei borfeydd.
Diben y gwaith:
Nod y prosiect yw canfod a oes modd tros hau porfeydd parhaol yn llwyddiannus gyda chymysgedd hadau amlrywogaeth gan ddefnyddio dull cost isel sy’n cynnwys cyn lleied o fewnbynnau peirianyddol a chemegol â phosibl, gan gynnwys;
- Chwalu hadau glaswellt, codlysiau a pherlysiau ar borfa barhaol gan ddefnyddio peiriant chwalu wedi’i osod ar gerbyd aml-dirwedd, gan osgoi’r angen i drin y tir.
- cymharu amseriad cyflwyno hadau
- chwalu’r hadau ar borfeydd rhwng 1900 a 2500 kg DM/ha cyn pori
- chwalu’r hadau ar borfeydd rhwng 1200 – 1400 kg DM/ha ar ôl pori
- treialu defnyddio triniaeth hadau fiolegol
- cymharu amseriad cyflwyno hadau
- Defnyddio da byw i sathru’r hadau er mwyn sicrhau cyswllt gyda’r pridd, gan ddisodli triniaeth fecanyddol.
- Gwerthuso llwyddiant sefydlu’n seiliedig ar arolygon cyfansoddiad botanegol cyn yr ail gyfnod pori ar ôl sefydlu.
Yr hyn a wnaed:
Defnyddiwyd tri chae ~2ha - 3ha sgwâr yn yr arbrawf, gyda’r ‘triniaethau’ yn cael eu hailadrodd ym mhob cae. Cafodd pob cae ei rannu’n bedair is-lain ar gyfer y gwahanol driniaethau;
Lleiniau A1, B1 a C1 | Lleiniau A2, B2 a C2 | Lleiniau A3, B3 a C3 | Lleiniau A4, B4 a C4 |
Chwalu’r hadau ar laswellt cyn pori (1900-2500 kg DM/ha) | Chwalu’r hadau ar laswellt ar ôl pori (1200-1400 kg DM/ha) | Chwalu’r hadau ar laswellt cyn pori (1900-2500 kg DM/ha) | |
Hadau wedi’u gorchuddio â thriniaeth hadau fiolegol (hadau wedi’u trin) ar gyfradd o 0.8L o gynnyrch fesul 100kg o hadau (wedi’i wanhau gyda 2.4L o ddŵr) | Hadau heb eu trin | ||
Ffigur 1. Y triniaethau a roddwyd ar draws y 4 is-lain
Defnyddiwyd cyfradd hau o 10kg/erw (25kg/ha) ar gyfer pob llain, gan gynnwys y canlynol:
| ||
Glaswellt: 37% Rhygwellt parhaol 9.5% Peisrygwellt 6% Rhonwellt
| Codlysiau: 11.5% Meillion coch 11% Meillion gwyn 2.5% Meillion Sweden 2% Pys y ceirw
| Perlysiau: 10% Llyriad 5% Ysgellog 2.5% Bwrned 2.5% Persli defaid 0.5% Milddail
|
Er mwyn paratoi a sefydlu’r cnydau (Mis Mawrth – mis Medi 2025), gwnaed y canlynol:
Paratoadau cychwynnol
Cynhaliwyd asesiad o’r caeau arbrofol ac arolygon cynllunio ym mis Mawrth er mwyn dewis a pharatoi caeau’r arbrawf. Cynhaliwyd Asesiad Gweledol o Strwythur y Pridd (VESS) er mwyn asesu strwythur y pridd, canfod unrhyw rywogaethau presennol a phennu pa mor agored oedd y gwndwn a phresenoldeb gwellt.
Canfuwyd haen o glai ar ddyfnder o tua 7cm. Cadarnhaodd y dadansoddiad pridd lefelau ffosfforws (P2) a photasiwm (KS-) digonol. Dim ond 60kg/ha o P a K a argymhellwyd er mwyn sefydlu’r hadau, a ddarparwyd ar ffurf gwasgariad o 0.24.24 ar gyfradd o 250 kg/ha, gyda chyfanswm net y gwarged bach o P a ddarparwyd yn cael ei roi yn erbyn gofynion y cnwd yn y dyfodol. Roedd pH dau o’r tri chae yn unol â’r targed o 6.3 – 6.5, gyda chae C yn is na’r targed, gyda pH o 6. Argymhellwyd y dylid gwasgaru Calcifert ar gyfradd o 247 kg/ha, sy’n ddigon i godi lefel y pH i lefel uwch na 6.3 mewn priddoedd canolig.
Roedd y data a gasglwyd yn llywio’r dewis hadau.
➔ Gwelwyd rhygwellt parhaol, gan gadarnhau ei addasrwydd ar gyfer tros hau.
➔ Dewiswyd triniaeth hadau fiolegol ar gyfer yr arbrawf oherwydd presenoldeb glaswellt cystadleuol mewn porfeydd presennol.
➔ Arweiniodd presenoldeb haen gyfyngol at gynnwys rhywogaethau gyda gwreiddiau dwfn megis Ysgellog a Llyriad er mwyn torri trwy’r pridd a chynyddu deunydd organig y pridd.
➔ Ychwanegwyd cyfradd uchel o feillion i’r cymysgedd hadau oherwydd ei brinder yn y caeau, gan gynyddu lefelau protein a sefydlogi nitrogen.
➔ Roedd y gwndwn agored a’r diffyg gwellt yn caniatáu ar gyfer dewis glaswelltau mwy hirdymor.
Cyn hau
- Er mwyn sicrhau’r siawns orau o lwyddo, defnyddiwyd synwyryddion LoRaWAN i fonitro tymheredd a lleithder y pridd (fel y gwelir yn ffigur 2) ac fe ychwanegwyd triniaeth hadau ar gyfer yr arbrawf.
- Sefydlwyd is-leiniau a gosodwyd ffensys trydan er mwyn rheoli pori.
- Penderfynwyd ar 30 Ebrill i oedi’r hau o ganlyniad i amodau sych a bod cynnwys lleithder y pridd wedi gostwng 3% bob dydd.
Ffigur 2. Lleithder 7.5cm uchaf y pridd ar ffurf % rhwng 24 Ebrill a 28 Mehefin. Mae’r smotyn coch yn nodi pryd y penderfynwyd oedi’r hau. Mae’r smotyn gwyrdd yn nodi pryd y cafodd y llain gyntaf ei hau
Rheoli’r hau ac ar ôl hau
- Cafodd yr hadau eu trin ar y diwrnod cyn y dyddiad hau (penderfynwyd oedi hau’r lleiniau cyntaf am 48 awr oherwydd tywydd gwael)
- Cafodd y lleiniau eu hau yn y drefn ganlynol:
Hau ar borfeydd cyn pori
1. Chwalu’r hadau.
2. Cyflwyno gwartheg i’r llain ar gyfradd o 137 fesul hectar neu 35,600 kg pwysau byw fesul hectar, gan ddefnyddio ffensys trydan dros dro i sicrhau bod y borfa’n cael ei phori i lawr i 1400 kg DM/ha o fewn 6 awr neu lai.
3. Yna cafodd y da byw eu tynnu oddi ar y borfa.
Hau ar borfeydd ar ôl pori
1. Cyflwyno gwartheg i’r llain ar gyfradd o 137 fesul hectar neu 35,600 kg pwysau byw fesul hectar, gan ddefnyddio ffensys trydan dros dro i sicrhau bod y borfa’n cael ei phori i lawr i 1400 kg DM/ha o fewn 6 awr neu lai.
2. Chwalu’r hadau.
3. Cafodd y gwartheg eu cadw ar y llain am awr i sathru’r hadau.
4. Yna cafodd y da byw eu tynnu oddi ar y borfa.
Pob llain
- Rheoli cystadleuaeth ar ôl hau – Yn ddelfrydol, byddai’r lleiniau’n cael eu pori gan dda byw gyda gofynion isel 5 diwrnod ar ôl hau, fodd bynnag, nid oedd unrhyw stoc sych ar gael ar y pryd, felly cafodd y cam hwn ei hepgor ar gyfer pob llain arbrofi.
- Yn hytrach, cafodd y lleiniau eu pori’n ysgafn gan ddefnyddio gwartheg ifanc, 8-10 wythnos ar ôl hau.
- Cynhaliwyd arolygon cyfansoddiad botanegol a chymerwyd samplau ar gyfer dadansoddi maeth 30 diwrnod ar ôl pori’n ysgafn.
Canlyniadau:
Ffigur 3. Canran gyfartalog o’r rhywogaethau a heuwyd a oedd yn bresennol ym mhob llain, gan gymharu hau ar borfeydd cyn pori gyda hau ar borfeydd ar ôl pori.
Ffigur 4. Canran gyfartalog o’r rhywogaethau a heuwyd a oedd yn bresennol ym mhob llain, hadau wedi’u trin o’i gymharu â hadau heb eu trin.
Ffigur 5. Canran o’r holl arolygon cwadrad, ar draws pob llain lle gwelwyd y rhywogaethau a heuwyd (e.e. 100% = yn bresennol ym mhob un o’r 60 o arolygon cwadrad a gynhaliwyd ar 3 Medi)
Elw ar fuddsoddiad
Tabl 1. Elw ar fuddsoddiad ar gyfer y dull mwyaf llwyddiannus a ddefnyddiwyd ar fferm Hendreseifion (hadau wedi’u trin wedi’u chwalu ar borfeydd ar ôl pori) o’i gymharu â’r un dull, ond gan ystyried costau damcaniaethol ar gyfer cywiro iechyd y pridd. Hefyd yn cymharu gyda dau ddull ail-hadu a dreialwyd mewn prosiect Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio arall ar fferm Cilywinllan, gan ddefnyddio data o’r lleiniau rheoli yn Hendreseifion fel llinell sylfaen (Rheoli). Defnyddiwyd cyfrifiannell gwerth porthiant i gyfrifo gwerth porthiant, yn seiliedig ar ddadansoddiad maethol cemeg gwlyb, darlleniadau mesurydd plât a data arolwg.
Meincnodi | |||||
Prosiect Cilywinllan - aredig | Prosiect Cilywinllan - Glyffosad a drilio’n uniongyrchol | Rheoli (porfa barhaol) | Hendreseifion – Chwalu gyda da byw | Chwalu + Da byw + cynyddu lefelau pH, P a K | |
Cyfanswm costau sefydlu £/ha | £709.74 | £610.89 | 0 | £200.00 | £400.00 |
Twf porthiant a ragwelir – T DM/HA fesul blwyddyn | 12.00 | 9.00 | 6.50 | 8.60 | 8.60 |
Cyfanswm gwerth y porthiant £/ha fesul blwyddyn | £1,719.30 | £1,289.47 | £802.30 | £1,179.14 | £1,179.14 |
Gwerth y porthiant ychwanegol o dyfwyd o’i gymharu â’r llain reoli £/ha fesul blwyddyn | £917.00 | £487.17 | 0 | £376.84 | £376.84 |
Elw ar fuddsoddiad ar ôl blwyddyn | 29.20% | -20.25% | 88.42% | -5.79% | |
Elw ar fuddsoddiad ar ôl 2 flynedd | 158.40% | 59.50% | 276.84% | 88.42% | |
Elw ar fuddsoddiad ar ôl 3 blynedd | 287.60% | 139.24% | 465.25% | 182.63% | |
| Elw ar fuddsoddiad ar ôl 4 blynedd | 416.81% | 218.99% | 653.67% | 276.84% | |
Yn seiliedig ar hirhoedledd y gwndwn, mae tros hau gan ddefnyddio da byw yn cynnig arbediad cost sylweddol gan amrywio o £77.44/ha i £127.44/ha o’i gymharu â chostau aredig. At hynny, mae amseriad yr ymyrraeth yn hanfodol, gan fod tros hau wedi profi i fod yn llawer mwy effeithiol wrth hau porfeydd ar ôl eu pori yn hytrach na chyn eu pori. Arweiniodd y gwahaniaeth hwn o ran amseriad yr hau, ynghyd â ffactorau eraill, at amrywiaeth sylweddol yn y rhywogaethau a lwyddodd i sefydlu o fewn y system. Yn benodol, trwy gyfuno triniaeth hadau fiolegol gyda hau ar borfeydd ar ôl pori at gynnydd sylweddol o 76% o ran y rhywogaethau a sefydlwyd yn llwyddiannus o’i gymharu â hadau heb eu trin ar yr un porfeydd ar ôl pori.
Sut i’w roi ar waith ar eich fferm:
- Cywiro amgylchedd y pridd a pharatoi’r gwndwn presennol: Profwch ac aseswch amodau’r pridd a gwerthuswch gynnwys y gwndwn presennol cyn penderfynu ar y dull o dros hau, a p’un a yw ail-hau’r cyfan yn fwy addas. Rhowch flaenoriaeth i gywiro iechyd y pridd cyn sefydlu, gan anelu at pH targed o oddeutu 6.3, gyda mynegai P a K o 2. Cyn hau, porwch yn effeithiol gan ddefnyddio ffens drydan i leihau’r gorchudd presennol i uchafswm o 1400 kg DM/ha i leihau cystadleuaeth.
- Dylunio a thrin cymysgeddau hadau yn strategol: Defnyddiwch y Gyfrifiannell cymysgeddau hadau gwndwn amlrywogaeth i gynllunio’r union gyfansoddiad, gan ganolbwyntio ar rywogaethau sy’n sefydlu’n gyflym ac sy’n addas ar gyfer yr hinsawdd leol a’r pwysau pori. Ystyriwch ddefnyddio triniaeth hadau fiolegol i wella cryfder a gwytnwch egino o’i gymharu â phwysau cystadleuol o’r borfa bresennol.
- Amseru manwl gywir gan ddefnyddio data amser real: Canfyddwch y cyfnod tros hau delfrydol trwy gyfuno rhagolygon tywydd cyfnod hir gydag amodau pridd ac amgylcheddol amser real a gesglir gan ddefnyddio synwyryddion LoRaWAN (monitro tymheredd a lleithder y pridd) i sicrhau’r amgylchedd gorau posibl ar gyfer cyswllt rhwng yr hadau a’r pridd a thwf cychwynnol yr eginblanhigion.
- Dull gwasgaru ac ymgorffori hadau: Chwalwch y gymysgedd hadau a baratowyd yn uniongyrchol ar y borfa sy’n cael ei phori’n dynn. Yn syth wedi hynny, defnyddiwch dda byw i wthio’r hadau i wyneb y pridd (sathru), gan sicrhau cyswllt hanfodol rhwng yr hadau a’r pridd heb ddefnyddio dulliau trin mecanyddol.
- Rheoli cystadleuaeth ar ôl hau yn llym: Rhoi mesur pori cystadleuol dros dro ar waith trwy ailgyflwyno stoc galw isel, hŷn (e.e. mamogiaid sych neu wartheg sych) i’r cae 5 diwrnod ar ôl hau i ail-bori’r borfa bresennol a lleihau cystadleuaeth; rhaid symud y stoc cyn i’r eginblanhigion newydd ddechrau ymddangos. Cynlluniwch y trefniant pori hirdymor i sicrhau dyfalbarhad y borfa a’r codlysiau i sicrhau’r elw gorau posibl ar fuddsoddiad.
Llun 1. Llun o’r cwadrad a gasglwyd drwy’r ap Senus Terrain yn ystod arolygon cychwynnol ar lain A2 ar 27 Mawrth 2025
Llun 2. Llain A2 ar 3 Medi 2025
Llun 3. Wil a’i fab, yn barod i wasgaru hadau ar orchudd ar ôl pori