Gweithdai Hyfforddiant Iechyd a Lles Anifeiliaid
A oes clefyd neu fater iechyd anifeiliaid penodol sy’n effeithio ar eich da byw yn ogystal â pherfformiad eich busnes?
*Noder: Rydym yn cynnig dull cyfunol o ddarparu gweithdai trwy ddulliau digidol ac wyneb yn wyneb.*
Gall ffermwyr cymwys sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio archebu eu lle(oedd) mewn un neu fwy o’r gweithdai hyfforddiant sydd wedi’u hariannu’n llawn, a ddarperir gan filfeddygon lleol ledled Cymru.
Mae’r modiwlau hyfforddi wedi’u datblygu gan y Gwasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol am Glefydau Anifeiliaid (NADIS) a’u cymeradwyo gan Wobrau Lantra.
Mae pynciau’r gweithdai’n cyd-fynd â blaenoriaethau Iechyd a Lles Anifeiliaid presennol Llywodraeth Cymru, a byddant yn cynnwys y modiwlau canlynol:
- Gwella Iechyd Anifeiliaid yn eich Buches Bîff
- Gwella Iechyd Anifeiliaid yn eich Diadell
- Ymwrthedd i wrthfiotigau
- TB buchol
- Dolur rhydd feirysol buchol (BVD)
- Gwella perfformiad wŷn wedi diddyfnu
- Colli ŵyn – Rhan 1: Erthylu a maeth
- Colli ŵyn – Rhan 2: Rhwng geni a diddyfnu
- Cynyddu cynhyrchiant gwartheg sugno i’r eithaf
- Magu lloi iach a sicrhau'r elw mwyaf
- Lleihau cloffni mewn gwartheg llaeth
- Sicrhau ffrwythlondeb: Rheoli’r fuwch laeth o’r cyfnod sychu i’r cyfnod ffrwythloni
- Lleihau mastitis mewn gwartheg llaeth
- Cloffni mewn defaid
- Rheoli Ffrwythlondeb y Ddiadell
- Rheoli parasitiaid mewn defaid – Rhan 1: Llyngyr main a phryfed chwythu
- Rheoli parasitiaid mewn defaid – Rhan 2: Y clafr, llau a llyngyr yr iau
- Rheoli parasitiaid mewn gwartheg
- Deall clefyd johne
- Iechyd stoc ifanc rhan 1: Rhwng geni a diddyfnu
- Iechyd stoc ifanc rhan 2: Diddyfnu hyd at loia/gwerthu
Bydd pob un o’r gweithdai tair awr o hyd yn darparu gwybodaeth ac arweiniad ymarferol ynglŷn â materion iechyd anifeiliaid penodol gan gynnwys:
- Bioddiogelwch a throsglwyddo clefydau
- Arwyddion clinigol a diagnosis
- Trin a rheoli
- Goblygiadau economaidd
Mae dyddiadau ar gyfer pob gweithdy sydd i ddod ar gael ar dudalen Cyswllt Ffermio. Beth Sydd Ymlaen
Adnodd Cynllunio i Reoli Parasitiaid
Mae’r adnodd cynllunio i reoli parasitiaid wedi cael ei ddatblygu i dynnu sylw’r ffermwr a’r milfeddyg i’r ffactorau pwysig sy’n ymwneud yn benodol â chynllunio iechyd er mwyn rheoli parasitiaid mewn gwartheg a defaid.
Rhestr o filfeddygon ledled Cymru:
Mae'n rhaid i bob cleient fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio cyn mynychu gweithdy. Bydd pob gweithdy a gwblheir yn cael ei gofnodi ar eich proffil datblygiad proffesiynol parhaus a byddwch yn derbyn tystysgrif presenoldeb gan Lantra.
Cliciwch yma i weld ein Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer y gweithdai Iechyd a Lles Anifeiliaid.
Er mwyn ymgeisio ar gyfer un neu fwy o’r gweithdai Iechyd a Lles Anifeiliaid, bydd angen i chi gwblhau ffurflen datgan diddordeb sydd ar gael yma.