haydn evans and mike houlden

Mae ffermwr llaeth newydd i’r diwydiant sy’n trawsnewid ei system i organig yn manteisio ar wybodaeth ac arbenigedd cynhyrchwr llaeth a ddechreuodd ei fusnes ei hun 20 mlynedd yn ôl.

Mae Michael Houlden yn cadw buches o 56 o fuchod Jersey a lloeau ger Sanclêr, Sir Gâr, ar fferm 42 hectar (105 erw) a brynodd yn 2012.

Mae’r her economaidd a ddaw o gynhyrchu llaeth confensiynol o fuches laeth fechan wedi’i annog i ystyried dulliau gwahanol o wahaniaethu ei laeth er mwyn sicrhau’r elw gorau. Roedd trawsnewid i system organig yn cynnig cyfle i ychwanegu gwerth, ond roedd cymryd cam cyntaf yn anodd, nes iddo ymuno â ffermwr llaeth profiadol.

Mae Haydn Evans, cyn reolwr banc a sefydlodd ei fusnes llaeth wedi iddo adael y sector bancio, yn un o 28 mentor sy’n darparu arweiniad a chyngor trwy raglen fentora Cyswllt Ffermio.

Ymgeisiodd Michael i gael ei fentora gan Haydn oherwydd ei brofiad yn y sector llaeth organig - mae’n godro 100 o fuchod Friesian Prydeinig ar fferm 97 hectar, hefyd yn Sir Gâr.

Gydag arweiniad Haydn, mae Michael yn anelu at fod wedi trawsnewid y fferm yn llwyr erbyn mis Medi 2018.

Mae Michael yn ffermwr cenhedlaeth gyntaf a ddechreuodd gyda diadell fechan o ddefaid yn Somerset wedi iddo gwblhau cwrs Tystysgrif Addysg Uwch mewn Rheolaeth Amaethyddol. Datblygodd ei ddiadell i gynnwys 320 o famogiaid magu ond roedd ei system yn ddibynnol iawn ar dir wedi’i rentu.

Ei uchelgais oedd sefydlu buches laeth ar fferm unigol. Daeth y cyfle hwnnw pan ddaeth Plas -y-Cerdin ar y farchnad.

Aeth ati i stocio’r fferm gyda gwartheg Jersey gan ganolbwyntio ar gynhyrchu llaeth gyda gwerthoedd cydrannol uchel - mae’r braster menyn yn 5.95% ar gyfartaledd a’r protein yn 3.95%. Mae’r cynnyrch cyfartalog i bob buwch yn 4,900 litr, a gyflawnir o dunnell o ddwysfwyd. “Gyda gwartheg Jersey, mae’n ymwneud ag ansawdd y llaeth yn hytrach na faint a gynhyrchir,’’ meddai Michael. Mae’r cyfrif celloedd Somatig yn 179,000 cell/100ml a’r Bactoscan yn 27.

Fe ystyriodd Michael y syniad o drawsnewid i system organig ddwy flynedd yn ôl, ond mae’n cyfaddef nad oedd y fferm yn barod bryd hynny, nac yntau ychwaith. “Un o’r pethau oedd yn fy nal yn ôl rhag trawsnewid oedd y diffyg maeth yn y pridd. Roedd y fferm wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer tyfu silwair ers blynyddoedd, ond nid oedd da byw yno. Roedd angen i mi adfywio’r pridd.” Cychwynnodd ar raglen o ail-hadu gyda chymysgedd meillion.

Yn ddiweddar, cymerodd yr awenau ar floc o dir 22 hectar cyfagos ar Denantiaeth Busnes Fferm, a dyna oedd y sbardun i gymryd golwg o’r newydd ar drawsnewid.

Gyda chefnogaeth Haydn, mae bellach yn barod i gychwyn ar y broses ac i gynyddu’r fuches i darged o 80 o wartheg. “Mae’r farchnad organig yn dynn ac mae’r system grantiau wedi’i strwythuro mewn modd lle bod angen i chi ddangos bod galw yn ogystal â rheswm i fynd yn organig. Ond mae cyfleoedd ar gael os yw’r system yn iawn,’’ meddai Michael.

Mae Haydn wedi dod â safbwynt allanol i gynlluniau Michael ac mae wedi herio ac annog ei syniadau. “Mae Haydn yn un sydd wedi bod yn fy sefyllfa i ac wedi dysgu o brofiad, ac felly mae manteisio ar y profiad hwnnw wedi bod yn werthfawr iawn. Mae’n glust i wrando ar syniadau. Mae hefyd wedi trefnu i ni gael ymweld â ffermydd llaeth organig i edrych ar yr hyn y meant yn ei wneud.’’

Mae Haydn yn dweud ei bod hi’n bwysig i bob ffermwr, ond yn enwedig ar gyfer y rheini sy’n cychwyn ar y daith, i gael rhywun yn herio eu meddylfryd er mwyn sicrhau bod eu syniadau’n ddigon cadarn i lwyddo’n fasnachol.

“Mae brwdfrydedd yn hanfodol ond nid yw’n gwarantu llwyddiant. Mae angen cynllun busnes ar bob ffermwr o’r hyn y maent eisiau ei gyflawni ac yna i wahodd rhywun i  herio hynny. Os oes gennych rywun ar y tu allan yn edrych ar eich busnes, mae’n  bosib y byddai’r person hwnnw’n gweld y problemau a’r cyfleoedd nad ydynt bob amser yn amlwg i’r ffermwr.”

Dan y cynllun mentora, bydd Haydn yn cefnogi Michael mewn cyfarfodydd misol dros gyfnod o 18 mis.

Mae Michael yn hyderus mai trawsnewid i system organig yw’r dewis gorau ar gyfer ei fusnes. “Mae’n rhaid i chi gredu mewn system organig, mae’n rhaid bod yno angerdd yn hytrach na’i wneud er mwyn sicrhau elw economaidd yn unig. I mi, mae’n ymwneud â chynaliadwyedd cynhyrchu, ac i gadw cymaint yn fewnol â phosib.”

Un o’r mesurau arbed arian y mae eisoes wedi’i roi ar waith yw cyfnod o 16 awr rhwng bob godriad - godro deirgwaith dros ddeuddydd. Nid yw hyn wedi cael effaith sylweddol ar y cynnyrch - gwelwyd lleihad o 30 litr yn unig o 42 o wartheg godro. Trwy odro’n llai aml, mae’n gwneud arbedion ariannol o ran llafur a thrydan. “Nid yw mor eithafol â godro unwaith y dydd, ac nid yw’n ymddangos fel ei fod yn gofidio'r  gwartheg,” meddai.

Fel rhan o Raglen Fentora Cyswllt Ffermio, gall mentai cymwys gael mynediad at 22.5 awr o wasanaethau mentora gyda’r mentor ffermio neu goedwigaeth a ddewiswyd ganddynt.

Mae Einir Haf Davies, Rheolwr Datblygu a Mentora Cyswllt Ffermio, yn dweud bod mentoriaid wedi dysgu o brofiad, a gallant ddatblygu perthynas yn seiliedig ar ffydd a pharch.

“Mae’n gyfle i ffermwyr a choedwigwyr ddatblygu sgiliau cyfathrebu, i wrando, dysgu ac ehangu ar eu safbwynt a fyddai’n gallu eu cynorthwyo yn y pen draw i ganfod ffyrdd newydd i edrych ar sefyllfaoedd newydd ac i ymdopi â heriau,’’ meddai.

Mae gan Cyswllt Ffermio rwydwaith o 40 mentor, yn ymwneud ag amrywiaeth o sectorau ledled Cymru. Am fwy o fanylion ynglŷn â’r rhaglen ac i ddewis mentor, ewch i https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/mentora.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Agrisgôp yn helpu i dyfu busnes arallgyfeirio llwyddiannus ar fferm
28 November 2024 Mae’r chwe blynedd diwethaf wedi bod yn daith
Syniad arloesol yn ennill prif wobr Her Academi Amaeth Cyswllt Ffermio
25 Tachwedd 2024 Mae aelodau carfan Academi Amaeth Cyswllt
Cymorth wedi’i ariannu gan Cyswllt Ffermio yn helpu pâr i sicrhau llwyddiant menter casglu pwmpenni
21 Tachwedd 2024 Mae treialu gwahanol dechnegau ar gyfer tyfu