Mae agwedd newydd ac arloesol tuag at feincnodi wedi cael ei lansio gan Cyswllt Ffermio i helpu busnesau fferm yng Nghymru i gofnodi pa mor dda maent yn perfformio o'i gymharu ag amrediad o ddangosyddion perfformiad allweddol.

Mae’r modiwl 'Mesur i Reoli' cig coch yn cynnig system cofnodi data fferm sy'n hawdd i'w gwblhau, a gellir ei ddefnyddio wedyn i gymharu perfformiad gyda busnesau tebyg a chanfod yn union lle y gellir gwneud gwelliannau.

“Mewn byd mwy cystadleuol, mae’n bwysig iawn i wybod perfformiad ffisegol ac ymarferol eich busnes er mwyn deall a oes angen gwneud newidiadau i wella proffidioldeb a chynaliadwyedd," meddai Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglenni Gwledig Menter a Busnes.

“Mae cofnodi gwybodaeth cynhyrchiant, a chymharu gyda busnesau eraill tebyg, yn eich cynorthwyo i weld yn glir pa mor dda mae eich busnes yn perfformio. Mae'r system Mesur i Reoli yn hawdd i’w ddefnyddio ac yn cynnwys meysydd casglu data cam wrth gam, sy’n ei gwneud yn haws cofnodi gwybodaeth mewn darnau bychain drwy gydol y flwyddyn cynhyrchu.”

Trwy fewnbynnu data i’r adnodd Mesur i Reoli ar-lein, gellir mesur perfformiad yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol gan gynnwys:

  • elw gros (ar sail fesul ha a fesul mamog/buwch)
  • allbwn y ddiadell/y fuches
  • costau amrywiol
  • costau porthiant

Bydd yr adnodd Mesur i Reoli ar-lein ar gael i bob busnes sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio ac aelodau grwpiau trafod Cyswllt Ffermio, a fydd hefyd yn derbyn cefnogaeth ar-fferm er mwyn cwblhau’r broses o gasglu'r data. Bydd yr adnodd ar-lein hefyd yn caniatáu cymhariaeth rhwng perfformiad presennol a hanesyddol  busnes fferm unigol, aelodau eraill o’r grŵp a ffigyrau o Arolwg Busnes Fferm Prifysgol Aberystwyth.

“Bydd cymharu eich perfformiad gyda'r ffigyrau hyn yn eich cynorthwyo i adnabod cryfderau a gwendidau penodol yn eich busnes ac yn amlygu meysydd i'w gwella er mwyn eich cynorthwyo i gynyddu proffidioldeb a chynhyrchiant eich busnes," ychwanegodd Eirwen.

Am fwy o wybodaeth a chymorth gyda’r adnodd Mesur i Reoli, cysylltwch â'ch Swyddog Datblygu Lleol. Mae manylion cyswllt Swyddogion Datblygu ar gael yma https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/eich-swyddog-datblygu…;

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites