ffosyficer parlour testing lactocorder 2

Mae cyfres o fân newidiadau i’r parlwr yn debygol o gael effaith sylweddol ar effeithlonrwydd godro ar un o Safleoedd Ffocws Cyswllt Ffermio.

Mae prosiect i wella arferion cyn-godro wedi dechrau’n ddiweddar ar fferm Ffosyficer, Abercych, Boncath, gyda’r nod o wella ansawdd llaeth a lleihau’r amser a dreulir yn godro, niwed i’r tethi ac achosion mastitis. Bydd y drefn godro wedi’i wella’n canolbwyntio ar ymollwng llaeth, gosodiadau offer wedi’i raddnodi a datblygu protocolau.

Ar ei ymweliad cyntaf â’r fferm, nododd yr arbenigwr mewn technoleg llaeth, Ian Ohnstad, 10% o wahaniaeth rhwng y cynnyrch a oedd yn cael ei gofnodi ar y mesuryddion llaeth a’r cynnyrch gwirioneddol.

“Fy mhryder i oedd bod gwartheg yn cael ei bwydo’n seiliedig ar wybodaeth oddi ar fesuryddion anghywir, felly roedd rhaid i ni eu hail-raddnodi er mwyn rhoi adlewyrchiad gwirioneddol o’r cynnyrch,” meddai Mr Ohnstad.

Trwy gofnodi cynnyrch llaeth yn gywir, roedd posib addasu bwyd ar gyfer y fuches 320 o wartheg a oedd yn lloea yn yr hydref er mwyn osgoi tan-fwydo neu or-fwydo. Yr ail broblem a nodwyd oedd bod y clystyrau’n aros ar y fuwch am gyfnod rhy hir, gan arwain at or-odro, felly fe argymhellwyd i addasu’r ACR.

Cafodd blaenau’r chwistrelli diheintydd eu newid ar ôl gweld eu bod ôl traul arnynt ac nad oeddent yn gorchuddio ardal addas, ac fe awgrymwyd hefyd bod y gwartheg yn cael eu chwistrellu am gyfnod hwy gan ddefnyddio techneg ar ffurf rhif wyth er mwyn sicrhau diheintio’r deth yn fwy effeithiol ar ôl godro.

“Fe wnes i hefyd argymell torri’r tiwbiau llaeth i lawr oherwydd os maent yn rhy hir maent yn tynnu ar y clwstwr gan arwain at ddiffyg cydbwysedd pwysau ar y tethi, felly rydych yn debygol o weld godro anghytbwys ac amrywiadau mewn gwactod,” ychwanegodd Mr Ohnstad. “Dylai’r tiwb ddod lawr o’r llinell a dylai bod cromlin ysgafn iawn at y clwstwr ar y fuwch, ni ddylid gadael gormod yn hongian i lawr. Bydd y clwstwr wedyn yn gorwedd yn well a bydd y fuwch yn godro’n fwy cyfartal.”

Ar gyfer gwartheg neu heffrod llai o faint, awgrymodd Mr Ohnstad y byddai defnyddio darn o diwb a fyddai modd ei gysylltu i’r clwstwr fel estyniad. Yr argymhelliad diwethaf oedd amnewid yr arferion cyn godro o sychu gyda thywelion papur ac yna stripio’r fuwch.

“Roedden nhw’n glanhau’r deth yn lân ac yna’n ei stripio. I mi, roedd yn synhwyrol i leihau’r risg o wasgaru bacteria neu adael ychydig ar y deth trwy stripio ac yna sychu, felly’r peth olaf y byddwch yn ei wneud yw gadael y deth yn lân.

“Y neges allweddol yw profi a graddnodi’r parlwr. Mae pob un o’r argymhellion yn ffactorau da iawn i’w hystyried, bydd pob un yn gwneud gwahaniaeth, waeth pa mor fychan ydynt.”


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu