Mae’r grŵp trafod hwn wedi canolbwyntio eu hamser yn ystod y flwyddyn gyntaf ar sicrhau bod eu priddoedd yn iawn a chanolbwyntio ar dwf glaswellt. Cynhaliodd y grŵp brawf twf glaswellt ar fferm un o aelodau’r grŵp rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2016. Bu’r prawf yn edrych ar bori cylchdro o’i gymharu â stocio sefydlog ar ardal 8 erw. Ar gyfer y lleiniau pori cylchdro, rhannwyd yr 8 erw yn 4 llain 2 erw. Roedd y canlyniadau’n glir o blaid pori cylchdro ac roedd aelodau’r grŵp trafod yn gallu gwneud penderfyniadau rheolaeth yn seiliedig ar ganfyddiadau cychwynnol ar fferm un o’r aelodau. Cafodd mamogiaid eu cyflwyno ddiwedd Ebrill hyd 20fed Mehefin.
Canlyniadau allweddol:
Llwyddwyd i gynnal 57 yn fwy o ŵyn ar y llain pori cylchdro - cynhyrchwyd 1874.1kg yn fwy o gig oen ar y llain pori cylchdro sy’n gyfwerth â gwahaniaeth o £3,504.57 - 728 yn fwy o ddyddiau pori ar system bori cylchdro o’i gymharu â llain stoc sefydlog.