Mae dwy ffermwraig ifanc, sy’n gyn aelodau o’r Academi Amaeth, rhaglen datblygu personol blaengar Cyswllt Ffermio, wedi cael eu penodi’n aelodau o fwrdd Hybu Cig Cymru (HCC), y corff sydd â phrif swyddfa yn Aberystwyth sy’n gyfrifol am hyrwyddo a marchnata cig coch Cymreig i’r farchnad fyd-eang.  

rachael snip 1

Mae Rachael Madeley Davies, o Fedw Arian Uchaf yn y Bala a Helen Howells, Tycam, Llanwenog,  Ceredigion yn llysgenhadon brwd o raglen datblygu personol blaengar Cyswllt Ffermio, ac yn dweud bod y profiad wedi darparu sgiliau gwerthfawr iddynt y byddant nawr yn eu rhoi ar waith er budd cynhyrchwyr cig coch ledled Cymru.

Mae’r ddwy yn cytuno bod rhaglen hyfforddiant, mentora a rhwydweithio dwys yr Academi Amaeth wedi rhoi’r hyder iddynt ymgeisio am eu penodiadau dylanwadol newydd fel aelodau o fwrdd Hybu Cig Cymru, ac maent yn edrych ymlaen at gyfathrebu ac ymgysylltu’n uniongyrchol ac yn effeithiol gyda’r rhai sy’n talu ardollau cig coch yn ystod y cyfnod heriol hwn sydd hefyd yn cynnig nifer o gyfleoedd ar gyfer y diwydiant ar ôl Brexit.  

Mae Rachael, bargyfreithiwr cymwys sy’n gweithio i gwmni 

helen snip 0

ymgynghorwyr amaethyddol hefyd yn rhan o dîm o wragedd fferm ifanc a mentrus ‘Gwas Fferm’, a lansiodd eu dyddiadur amaethyddol eu hunain ddwy flynedd yn ôl, gyda chefnogaeth rhaglen Agrisgôp Cyswllt Ffermio. Dewiswyd Rachael i gymryd rhan yn rhaglen Arweinyddiaeth Wledig yr Academi Amaeth yn 2014.

“Credaf ei bod yn bwysig iawn bod yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC, wedi penodi bwrdd gyda phrofiad eang ar draws gwahanol sectorau. Mae hynny’n adlewyrchu’r doniau amrywiol o fewn y diwydiant amaeth a’r diwydiant bwyd ehangach yng Nghymru."

“Mae Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig yr Academi Amaeth wedi rhoi’r sgiliau a’r hyder angenrheidiol i mi gymryd rhan ein diwydiant ar y lefel hon,” meddai Rachael.

Mae’r amgylcheddwr siartredig a’r ymarferwr datblygu cynaliadwy, Helen Howells, yn rhedeg cwmni 

Hwylus Cyf, cwmni ymgynghorol gwledig a sefydlwyd ganddi er mwyn ysbrydoli arloesedd ymysg sefydliadau yn y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector yng Nghymru.

Graddiodd Helen gyda gradd dosbarth cyntaf mewn datblygu cynaliadwy o Brifysgol Cymru, Aberystwyth, lle enillodd wobr Cymdeithas Stapleton ar gyfer y myfyriwr gorau. Dywed Helen fod ei phrofiad o gymryd rhan yn Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig yr Academi Amaeth wedi rhoi’r cyfle iddi ystyried ei nodau ar gyfer ei gyrfa yn y tymor hir, a arweiniodd at sefydlu cwmni Hwylus Cyf.

“Mae’r Academi Amaeth yn annog, yn mentora ac yn meithrin pobl o gefndir amaethyddol i gyflawni eu potensial fel arweinwyr gwledig ac entrepreneuriaid. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Academi Amaeth am fy mhrofiadau, ac rwyf wedi gweld budd mawr mewn cymryd amser i gynllunio fy ngyrfa ar gyfer y tymor hir. Roedd y fantais ychwanegol o rwydweithio, a hynny o fewn ein grŵp yn ogystal â’r nifer o bobl y cawsom gyfle i gwrdd â nhw fel rhan o’r rhaglen hefyd yn werthfawr iawn.”

catherine snip 1

Mae bwrdd Hybu Cig Cymru hefyd yn cynnwys trydydd aelod o deulu Cyswllt Ffermio. Mae Catherine Smith, swyddog datblygu Cyswllt Ffermio ar gyfer Sir Fynwy a Morgannwg, yn ffermio fferm gymysg 220 erw yn Rhaglan gyda’i gŵr. Graddiodd Catherine o Brifysgol Birmingham gyda gradd dosbarth cyntaf mewn bwyd a rheolaeth cwsmeriaid yn 2001, gan ennill teitl myfyriwr y flwyddyn.

Ers 2003, bu’n gweithio fel ymgynghorydd a hyfforddwraig bwyd-amaeth hunangyflogedig, a hynny’n bennaf yn y sectorau cig coch a dofednod yn Lloegr ac yng Nghymru. Yn 2014, ymunodd â thîm Cyswllt Ffermio ar sail ran-amser yn gweithio’n lleol, fel hwylusydd yn y lle cyntaf, ac erbyn hyn fel swyddog datblygu.

"Rwy’n falch iawn o gael fy mhenodi i’r bwrdd ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda’r aelodau eraill er mwyn sicrhau bod Hybu Cig Cymru yn sefydliad cryf, atebol ac arweiniol a fydd yn llunio cyfeiriad strategol bositif ar gyfer y dyfodol i’r sector cig coch yng Nghymru,” meddai Catherine.

 

 

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies yn clywed sut mae cynllun 'Dechrau Ffermio' Cyswllt Ffermio yn diogelu ffyniant ffermydd teuluol yng Nghymru ar gyfer y dyfodol yn Sioe Frenhinol Cymru eleni.
18 Gorffennaf 2024 “Mae paru tirfeddianwyr sydd am neu angen camu
Cyswllt Ffermio yn cyhoeddi Dosbarth Academi Amaeth 2024
15 Gorffennaf 2024 Mae enwau'r rhai a ddewiswyd i gymryd rhan yn
‘Cyllid Arbrofi’ Cyswllt Ffermio yn ceisio dod o hyd i reolaeth fiolegol effeithiol yn erbyn gelyn tyfwyr mefus
11 Gorffennaf 2024 Mae tyfwr ffrwythau meddal o Gymru a gollodd