A ydych chi erioed wedi bod eisiau gwybod mwy am gaeau Tiwlip yn Amsterdam, Porc wedi’i fagu yn Nenmarc, dysgu mwy am Wartheg cynhenid yr Alban neu ymweld â’r ffermydd sydd wedi arallgyfeirio i gynhyrchu caws yn yr Alpau? Gallai’r Gyfnewidfa Rheolaeth fod yn gyfle i chi!

Mae’r cyfnod ymgeisio ar agor nawr ar gyfer y Gyfnewidfa Rheolaeth. Rydym yn chwilio am ffermwyr neu goedwigwyr brwdfrydig, uchelgeisiol sy’n awyddus i ehangu eu gorwelion wrth gymryd rhan mewn ymweliad cyfnewid ag aelod-wladwriaethau eraill Ewrop a/neu groesawu ffermwr neu goedwigwr cyfnewid tramor i’w daliad. Os cewch eich dewis, gall eich ymweliad gael ei ariannu’n llawn at uchafswm o £4,000.

“Mae hwn yn gyfle gwych i ddysgu mwy am ddulliau newydd neu wahanol o weithio mewn sectorau Ffermio neu goedwigaeth yn Ewrop, i wybod mwy am wahanol agweddau tuag at reoli busnes ac i ehangu eich gwybodaeth, gallu technegol ac arbenigedd rheolaeth,” meddai Einir Davies, Rheolwr Datblygu a Mentora Cyswllt Ffermio.

Mae Cyswllt Ffermio eisiau clywed gan unigolion cymwys sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio ac yn teimlo y byddai ymweld â busnes fferm eu coedwigaeth o fewn yr UE o fudd iddynt, a/neu unigolion fyddai â diddordeb croesawu unigolyn profiadol sydd wedi’i hyfforddi’n briodol ac yn gweithio yn yr UE ar hyn o bryd, i’w daliad hwy.

“Nod y rhaglen, sydd bellach yn ei hail flwyddyn, yw galluogi’r ddau barti i nodi cyfleoedd personol a proffesiynol a dysgu dulliau newydd, arloesol neu uchelgeisiol y gallant eu gweithredu gartref neu rannu gyda’r diwydiant ehangach yng Nghymru,” meddai Miss Davies.

Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus rannu eu canfyddiadau drwy ddefnyddio dulliau cyfathrebu arferol Cyswllt Ffermio a’r rhaglen ddigwyddiadau.

Yn 2016, yn dilyn proses ymgeisio gystadleuol, derbyniwyd 8 ymgeisydd i ymgymryd â Chyfnewidfa Rheolaeth, gan gynnwys ymweliad â fferm gymysg yn Ffrainc i astudio technegau rheoli tir glas, a chyfnewidfa dwy ffordd gyda choedwigwr Almaeneg i ddysgu am reolaeth coetir.

Bu Sonia Winder o Lansadwrn, Sir Gaerfyrddin, un o ymgeiswyr llwyddiannus 2016, yn Cologne yn ystod ei chyfnewidfa hi ac roedd yn ddiolchgar iawn o’r amser a’r gofal a dderbyniodd gan ei gwesteiwyr. “Roeddwn yn ddigon ffodus i gyfarfod â chwe rheolwr coedwigaeth a dreuliodd amser yn dangos popeth i mi. Rwy’n ddiolchgar iawn i ardal goedwigaeth y wladwriaeth Almaeneg. Buaswn yn argymell y rhaglen gyfnewidfa rheolaeth i unrhyw un, os ydych chi’n barod i wneud digon o ymchwil, byddwch yn cael llawer allan ohono – fel ces i”.

Sylweddolodd llawer o’r ymgeiswyr fod y gyfnewidfa yn cynnig profiad unigryw. Roedd gan Gethin Owen o Fetws-yn-rhos, Conwy, diddordeb mewn dysgu mwy am y Charpentier Concept yn Ffrainc. Dywedodd “Bydd cyflwyno rhai o’r dulliau rwyf wedi dysgu amdanynt ar y fferm gartref yn helpu i wella effeithlonrwydd a gwydnwch fy musnes i. Mae’r gyfnewidfa rheolaeth wedi rhoi cyfle gwych i mi weld o dan groen amaeth yn yr UE.”

Bydd panel o feirniaid annibynnol yn gyfrifol am y broses ddethol gystadleuol. Bydd rhaid i’r holl ymgeiswyr fod ar gael ar gyfer cyfweliad ar y 10fed neu’r 11eg o Orffennaf yn Aberystwyth. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn gwahoddiad i seremoni swyddogol yn ystod Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd ar ddydd Llun y 24ain o Orffennaf. Yna, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cychwyn ar eu hymweliad neu yn croesawu ymwelydd tramor am gyfnod o oddeutu chwe wythnos. Bydd cyfnewidfeydd dwy ffordd yn cael eu hannog ond nid yw’n angenrheidiol.

Mae’r cyfnod ymgeisio cyntaf yn cychwyn ar y o 1af o Fehefin hyd y 30ain o Fehefin. Mae’r rhaglen yn cael ei ariannu’n llawn hyd at uchafswm o £4000, gyda chostau’n cael eu hawlio yn ystod yr ymweliad neu’r cyfnod cynnal.

Am ragor o wybodaeth am fanteision y rhaglen, telerau ac amodau a meini prawf ac i lawrlwytho’r ffurflen gais cliciwch yma. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio i roi cyngor i ffermwyr ar gynllunio olyniaeth a’r gostyngiad arfaethedig i ryddhad Treth Etifeddiant (IHT).
8 Ionawr 2025 Wrth i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried
Arolwg Safbwyntiau Ffermwyr
Mae arolwg o ffermwyr Cymru wedi cael ei lansio i archwilio sut
Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn