Lansiwyd yr Academi Amaeth, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, yn 2012.

Mae’n cynnwys tair rhaglen benodol, sef y rhaglen Busnes ac Arloesedd; y rhaglen Arweinyddiaeth Wledig, sy’n fenter ar y cyd gyda Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru; a Rhaglen yr Ifanc, sy’n fenter ar y cyd gyda CFfI Cymru, ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 19 mlwydd oed.

Dywedodd yr Athro Wynne Jones OBE, cadeirydd panel dethol yr Academi Amaeth ar gyfer y tair rhaglen, ei fod ef a’i gyd-feirniaid yn gytûn bod safon y ceisiadau yn uchel iawn unwaith eto eleni, a’i bod yn dasg anodd i ddewis y goreuon o blith y 65 cais a derbynwyd. Yn y diwedd, roedd 40 o ymgeiswyr yn llwyddiannus eleni.

“Mae’r Academi Amaeth wedi mynd o nerth i nerth bob blwyddyn, ac mae’n galonogol iawn gwybod bod cymaint o’n cyn aelodau’n cadw mewn cysylltiad ac yn parhau i gefnogi ei gilydd ar draws cymaint o feysydd.

“Mae llwyddiannau’r 125 o ffermwyr, pobl fusnes a phobl ifanc sydd wedi cymryd rhan hyd yn hyn yn rhy niferus i’w rhestru, ond mae pob un ohonynt wedi cyflawni cymaint fel unigolion, yn eu busnesau a’u bywyd gwaith ac ar ran y diwydiant ehangach yng Nghymru.

“Diolch i’w sgiliau fel llysgenhadon, mae rhwydwaith yr Academi yn parhau i ffynnu, sydd yn ei dro yn cynorthwyo Cyswllt Ffermio i godi proffil ac ymwybyddiaeth o’r rhaglen flaengar hon,” meddai’r Athro Wynne Jones.

“Fel bob blwyddyn, rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n gallu dangos uchelgais, ymrwymiad a ffocws, ond yn bennaf oll, rydym wedi dewis pobl yr ydym yn teimlo sydd â photensial i wneud y cyfraniad mwyaf i ddyfodol y diwydiant amaeth a chymunedau gwledig yng Nghymru.”

Bydd yr ymgeiswyr a ddewiswyd nawr yn cymryd rhan mewn rhaglen ddwys o fentora, cefnogaeth, arweiniad a hyfforddiant gan rai o ffigyrau a phersonoliaethau mwyaf llwyddiannus y diwydiant yn ystod tri sesiwn byr llawn gweithgareddau, gyda rhai ohonynt yn cynnwys taith astudio i wlad dramor.

“Bydd yr Academi Amaeth yn cyfrannu at ddatblygiad personol pob ymgeisydd, gan roi’r sgiliau, yr hyder a’r rhwydweithiau iddynt allu datblygu eu busnesau eu hunain, boed hynny o fewn y busnes teuluol neu rywle arall,” meddai’r Athro Wynne Jones.

“Wrth i ni nesáu at gyfnodau o ansicrwydd o ganlyniad i Brexit, mae brwdfrydedd yr ymgeiswyr hyn i gymryd bob cyfle i ehangu ar eu dealltwriaeth o faterion gwledig, ynghyd â’u gallu busnes a’u hymwybyddiaeth o faterion gwleidyddol yn galonogol iawn i ni fel diwydiant.”

Bydd aelodau'r tair rhaglen yn ymwneud â llu o weithgareddau yn ystod y flwyddyn nesaf, yn cynnwys gweithdai, sesiynau hyfforddiant, cyfleon rhwydweithio a theithiau astudio i'r Swistir, Iwerddon a'r Senedd Ewropeaidd ym Mrwsel. Am fwy o fanylion am yr Academi Amaeth cliciwch yma. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Pam y dylai pob fferm yng Nghymru osod nod i gynyddu carbon organig pridd
30 Mai 2024 Bydd lleihau amharu ar y pridd, tyfu cnydau gorchudd
Merched mewn Amaeth Cyswllt Ffermio yn dychwelyd – ac eleni mae ar daith!
29 Mai 2024 Mae merched sy’n gweithio ym myd amaeth ledled Cymru
Mentora yn helpu fferm i newid o gynhyrchu da byw i dyfu grawnwin
28 Mai 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites