‘Cynllunio ar gyfer y dyfodol a dal ati i ddysgu’ yw arwyddair dwy wraig sy’n ffermio yng Ngogledd Cymru sydd wedi ymrwymo i’w datblygiad personol eu hunain. Mae wedi profi’n athrawiaeth lwyddiannus y mae’r ddwy’n ei gweithredu yn eu busnesau fferm. 

2 iorwen jones

 

Mae Iorwen Jones, enillydd ‘Dros 40’ Cyswllt Ffermio Lantra eleni, yn helpu ei gŵr Eifion i redeg eu fferm bîff a defaid, Fferm Ysgeibion ger Rhuthun.

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig gyda Iorwen Jones

 

 

3 cheryl reeves

 

 

Cheryl Reeves, sy’n fio-gemegydd ac yn cadw gwartheg gyda’i gŵr Andrew ger Bangor Is-coed, enillodd Gwobr ‘Dan 40’ Cyswllt Ffermio Lantra.  

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig gyda Cheryl Reeves

 

 

Cyflwynwyd y tystysgrifau i enillwyr teilwng gwobrau Dysgwr Diwydiannau’r Tir y Flwyddyn Lantra gan Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig mewn seremoni arbennig a gynhaliwyd heddiw (dydd Llun, 27 Tachwedd) yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn Llanelwedd.  

Estynnodd Ysgrifennydd y Cabinet ei llongyfarchiadau i holl enillwyr Lantra am eu gwaith arbennig gan ddweud ei bod wedi ei chalonogi’n arbennig gan y ffaith bod nifer o ffermwyr bellach yn ystyried bod gwella eu sgiliau rheoli busnes ac ariannol lawn mor bwysig â dysgu sgiliau technegol ac ymarferol newydd. 

“Mae nifer o ffermwyr yn gweithio’n galed ar y tir ac i gynnal eu stoc, ond heb arferion busnes cadarn, fydd eich busnes yn dal ddim yn cyrraedd ei botensial. 

“Yn ystod y deuddeg mis diwethaf, mae Lantra wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y ceisiadau ar gyfer datblygu busnes sy’n argoeli’n dda ar gyfer hyfywedd a chadernid busnesau fferm yng Nghymru yn y dyfodol, wrth iddynt  baratoi ar gyfer y cyfleoedd a’r heriau wrth adael yr UE,” meddai’r Ysgrifennydd Cabinet.

Mae Iorwen a Cheryl yn ceisio ymdopi â gofynion helpu o ddydd i ddydd ar y fferm â’u gyrfaoedd eu hunain a bywyd teuluol, ond maent yn cytuno bod cwblhau cyrsiau Lantra ar bynciau busnes yn cynnwys cynllunio busnes, marchnata a datblygu, cofnodi ariannol a TAW wedi trawsnewid y ffordd y maent yn delio â’r holl waith papur heriol sy’n mynd law yn llaw â rhedeg busnes fferm llwyddiannus. 

Enwebwyd y ddwy ar gyfer y gwobrau gan Julie Thomas, cyfarwyddwraig ‘Simply the Best Training Consultancy’, y cwmni hyfforddi a gymeradwywyd gan Cyswllt Ffermio a ddarparodd yr holl hyfforddiant busnes.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio i roi cyngor i ffermwyr ar gynllunio olyniaeth a’r gostyngiad arfaethedig i ryddhad Treth Etifeddiant (IHT).
8 Ionawr 2025 Wrth i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried
Arolwg Safbwyntiau Ffermwyr
Mae arolwg o ffermwyr Cymru wedi cael ei lansio i archwilio sut
Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn