Ni ddylai chwilio am ffordd i mewn i fyd amaeth fod yn broblem anorchfygol i rai o’r newydd-ddyfodiaid i amaeth sy’n ymuno â rhaglen Mentro arloesol Cyswllt Ffermio.
Ers ei lansio yn 2015, mae 285 o unigolion wedi mynegi diddordeb yn y rhaglen. Bydd y ffigwr hwn yn codi ymhellach wrth i Cyswllt Ffermio ddechrau arddangos rhai o’r ‘mentrau ar y cyd’ llwyddiannus sydd wedi eu sefydlu yn barod.
Mae gan Cyswllt Ffermio fwy na 250 o gyfranogwyr ar gamau gwahanol yn y broses Mentro, sy’n paru unigolion sy’n dymuno camu’n ôl neu adael y diwydiant gyda’r rhai sy’n ceisio cymryd y cam cyntaf holl bwysig.
Lesley Griffiths gyda Rhys Richards sydd wedi manteisio o’r rhaglen Mentro.
Rhoddodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig anerchiad i gynulleidfa fawr o ffermwyr a chynrychiolwyr o sefydliadau sy’n rhanddeiliaid allweddol yn y Ffair Aeaf. Esboniodd Ysgrifennydd y Cabinet na fu erioed amser pwysicach i fusnesau fferm unigol a’r diwydiant yn ehangach yng Nghymru ystyried syniadau a systemau newydd, blaengar i’w helpu i gyflawni ar eu gorau.
“Mae pecyn integredig Mentro o hyfforddiant, mentora, cyngor arbenigol a chefnogaeth fusnes yn rhoi’r sgiliau, y wybodaeth a’r hyder y mae arnynt eu hangen i’r rhai sy’n cymryd rhan,” dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet bod gan Lywodraeth Cymru nifer o fesurau yn eu lle i gynorthwyo newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant.
“Yn strategol, mae’r rhain yn helpu i yrru’r diwydiant yn ei flaen trwy gynnig egni, syniadau newydd a gweledigaeth.
“Rwyf wrthi yn ystyried fy opsiynau o ran rhoi rhagor o gefnogaeth wedi ei thargedu at newydd-ddyfodiaid ifanc a byddwn yn gwneud cyhoeddiad am hyn yn y flwyddyn newydd,” ychwanegodd.
Mae Einir Davies, rheolwraig mentora a datblygu gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru, yn arwain ymgyrch newydd i sicrhau bod 102 o ‘geiswyr’ sydd eisoes wedi cofrestru gyda Mentro, yn cael y gefnogaeth y mae arnynt ei hangen i droi eu gobeithion yn realiti.
“Er bod y ffigyrau ar gyfer ‘darparwyr’ neu dirfeddianwyr a ffermwyr sydd wedi sefydlu yn debyg iawn i’r nifer o geiswyr, sydd yn bennaf yn newydd-ddyfodiaid neu bobl ifanc sy’n dod i mewn i ffermio, rydym yn awyddus i gyfleu rhai negeseuon allweddol i’r categori olaf yn arbennig.
“Gyda 23,240 erw o dir yn awr wedi ei gofrestru fel tir sydd ar gael i’w rannu yn ein cronfa ddata Mentro, mae’n amlwg bod angen gwneud mwy i sicrhau y gellir goresgyn yr hyn y mae rhai ceiswyr yn ei weld fel rhwystrau i atal ffermio ar y cyd.
“Dangosodd ymchwil diweddar fod rhai yn gyndyn o symud o’u hardal neu fod ganddynt ddyletswyddau teuluol fyddai’n gwneud hynny yn anodd. Mae eraill yn orfanwl am faint y daliad fyddai’n cyfiawnhau iddynt symud.
“Credaf fod llawer mwy, yn syml, yn cael eu dychryn gan y syniad o newid, sy’n eu gwneud yn gyndyn o symud y broses Mentro ymlaen er eu bod wedi mynegi diddordeb ar y dechrau.
“Mae menter ar y cyd yn golygu eich bod yn rhannu’r manteision ond, i’r gwrthwyneb, fe allech fod yn rhannu’r risgiau hefyd. Yr hyn sydd ei angen yw’r hyder i fanteisio ar unrhyw gyfle sydd ar gael a datblygu eu hysbryd entrepreneuraidd,” meddai Ms. Davies.
Mae Cyswllt Ffermio yn gobeithio cefnogi llawer o ddarpar gyfranogwyr Mentro trwy ei raglen Academi Amaeth lwyddiannus iawn, sydd eisoes wedi helpu cannoedd o ffermwyr i gyflawni nodau datblygu busnes a phersonol.
Bydd y ffenestr ymgeisio ar gyfer Academi Amaeth 2018 yn agor ar 23 Ionawr, ond er mwyn cael gwybod mwy am hyn a llawer mwy o wasanaethau cefnogi sydd ar gael trwy Cyswllt Ffermio, cliciwch yma neu siaradwch â’ch swyddog datblygu lleol.