Gallai ffermwyr yng Nghymru gynhyrchu ethanol a bioplastig o’u glaswellt yn hytrach na da byw wrth i wyddonwyr o Gymru ymchwilio i ffrydiau incwm amgen i wneud i ffermio dalu ei ffordd tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.
Yn ystod diwrnod agored Cyswllt Ffermio yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth (IBERS) yng Ngogerddan, cafodd ffermwyr gipolwg ar sawl prosiect ymchwil a allai gynorthwyo i siapio dyfodol amaeth yng Nghymru yn dilyn Brexit.Mae tîm o wyddonwyr dan arweiniad Dr Joe Gallagher, Pennaeth yr adran Biodechnoleg Ddiwydiannol a Chyfarwyddwr Cyfnewid Gwybodaeth a Masnacheiddio yn IBERS, yn astudio trosiant siwgr mewn glaswellt i amrywiaeth o gynhyrchion eraill gan gynnwys ethanol i’w ddefnyddio fel tanwydd neu gemegion platfform, a ddefnyddir i gynhyrchu bioplastig.
Mae modd cynhyrchu cymaint â 5,000 litr o ethanol o un hectar o laswellt.
“Nid yw anifeiliaid yn eplesu glaswellt mewn modd effeithiol iawn,” meddai. “Mae ein gwaith ymchwil yn edrych ar botensial cynhyrchu rhywbeth gwahanol o laswellt, i roi dewis arall i ffermwyr yn hytrach na chynhyrchu da byw yn unig.”
O ystyried yr amrywiaeth o gynnyrch y mae modd eu cynhyrchu o laswellt, dywed Dr Gallagher bod angen data ychwanegol a modelu economaidd cymhleth er mwyn canfod y llwybrau gorau i'r farchnad.
Gellir gwasgu glaswellt i gynhyrchu ffibr a sudd; mae'r sudd hwn yn gyfrwng eplesiad cyfoethog y mae modd ei ddefnyddio er mwyn cynhyrchu amrywiaeth o danwyddau a chemegion platfform.
Mae sawl defnydd i’r ffibr sy’n cael ei adael ar ôl wedi i’r hylif gael ei waredu, megis bwyd anifeiliaid neu ddeunydd ar gyfer treuliad anaerobig - mae hefyd wedi cael ei ddefnyddio i gynhyrchu bocsys wyau.
Ceir hefyd gwaith ymchwil yn edrych ar gnydau newydd a allai ddarparu incwm ar gyfer ffermwyr mynydd, megis cennin Pedr a dyfir er mwyn cynhyrchu galantamin a ddefnyddir i drin clefyd Alzheimer yn ystod y dyddiau cynnar.
Mae IBERS hefyd yn ymwneud â phrosiectau sydd wedi’u hanelu at wneud ffermydd yn fwy effeithlon,
megis mesur effeithlonrwydd bwyd mewn defaid, dan arweiniad Dr Diego Moya, Cydymaith Rhyngddisgyblaethol mewn Gwyddorau Anifeiliaid.Yn ogystal â dysgu mwy am yr astudiaethau hyn, cafodd ffermwyr gipolwg ar y rhaglen Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP Wales), sy'n ariannu grwpiau o ffermwyr ac eraill, megis ymchwilwyr a busnesau, i gydweithio i ddatrys problemau amaethyddol cyffredin.
Un prosiect sydd wedi derbyn cymorth ariannol yw’r astudiaeth i leihau'r defnydd o wrthfiotigau mewn systemau cynhyrchu ŵyn trwy wella maeth a hylendid, gan ddefnyddio technoleg newydd a chynaliadwy.
Mae prosiect EIP, a ddarperir ledled Cymru gan Menter a Busnes, yn darparu cyllid hyd at £40,000 yr un i 45 prosiect.
Dywedodd Owain Rowlands, Swyddog EIP, bod y prosiect yn anelu at atgyfnerthu ymchwil ac arloesedd o fewn y sector amaeth yng Nghymru, gan gau’r bwlch rhwng Gwaith ymchwil a defnydd ymarferol ar y fferm.
Mae cefnogaeth bellach ar gael ar gyfer pob grŵp trwy Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth Cyswllt Ffermio, sy’n gydweithrediad gydag IBERS, a fydd yn cynnal gwaith ymchwil gefndirol i ganfod yr hyn a wyddwn eisoes ynglŷn â phwnc penodol.
Gall y Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth hefyd gynghori ynglŷn â sut y gellir strwythuro prosiectau er mwyn cael y gorau o'r arian a ymgeisir amdano.
Dywedodd Catherine Nakielny, Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio, a hwylusodd y digwyddiad, bod amaethyddiaeth a rheolaeth tir yn datblygu’n gyson, a bod y cynnydd hwn bellach yn cyflymu.
“Mae’n bwysig bod ffermwyr yn ymwybodol o syniadau newydd a marchnadoedd posibl i atgyfnerthu eu busnesau at y dyfodol,” meddai.
“Rydym yn ddiolchgar i IBERS am roi cyfle i ffermwyr weld y gwaith a wneir ar eu rhan, a byddem yn annog y rhai sy'n dymuno dysgu mwy i gysylltu â’u swyddog datblygu Cyswllt Ffermio a fydd yn gallu trefnu ymweliadau ag IBERS ar gyfer grwpiau o ffermwyr, grwpiau trafod a myfyrwyr.”