tudor helen richard roderick
Enillydd un o wobrau mwyaf clodfawr y diwydiant amaeth yng Nghymru eleni, sef Gwobr Goffa John Gittins am gyfraniad nodedig at y diwydiant defaid yng Nghymru, yw Mr Richard Roderick. Mae Mr Roderick, ei wraig Helen a’u teulu yn ffermio eu fferm deuluol 650 erw gyda chymysgedd o ddefaid, bîff a chnydau âr ar fferm Newton Farm ym Mannau Brycheiniog.

Dywedodd y beirniaid, Wynne Davies, a oedd yn cynrychioli Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Kevin Parry o Gymdeithas bridwyr defaid Miwl Cymreig a Llew Thomas o NSA Cymru, bod ansawdd yr holl ymgeiswyr yn ardderchog eto eleni, a bod y dasg o ddewis enillydd wedi bod yn un heriol.

“Ar ôl cyfweld a llunio rhestr fer o ymgeiswyr, roeddem oll yn gytun mai Mr Roderick ddylai ennill y wobr eleni o ganlyniad i’w ddulliau arloesol o hybu Cig Oen Cymru a’i gyfraniad i’r diwydiant defaid.”

Derbyniodd Mr Roderick y wobr glodfawr hon yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, a dywedodd:

“Rydym yn falch iawn o dderbyn gwobr John Gittins fel cydnabyddiaeth o’r rôl enfawr y mae teulu yn ei chwarae wrth gynhyrchu Cig Oen Cymru, gan ofalu am dirlun unigryw Cymru ar yr un pryd.”

Yn ogystal â ffermio Newton Farm, un o safleoedd arddangos Cyswllt Ffermio, mae Richard hefyd yn un o Fentoriaid Cyswllt Ffermio gyda thros 30 mlynedd o brofiad o redeg busnes amaethyddol.

“Fy nghyngor i ynglŷn â sut i lwyddo mewn busnes yw sicrhau bod gennych weledigaeth hir dymoir ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf ac i lunio cynllun cadarn sut i gyrraedd yno, gan fanteisio ar bob cyfle i wella’r busnes ar hyd y ffordd.”

Eglurodd Dewi Hughes, Rheolwr Datblygu Technegol Cyswllt Ffermio cymaint y mae’n mwynhau gweithio gyda Mr Roderick oherwydd ei agwedd arloesol tuag at waith.

“Rydym yn falch iawn ar ran Mr Roderick a’i deulu ei fod wedi ennill gwobr John Gittins sy’n ychwanegu at restr sylweddol o wobrau arobryn a enillwyd gan y teulu Roderick. Mae’n anrhydedd gweithio gyda ffermwyr blaengar sy’n gwella effeithlonrwydd mewn modd cynaliadwy sy’n arwain eu busnes yn ei flaen.”

Nid yw ennill gwobrau o’r fath yn newydd i Richard, gan iddo ennill teitl “Ffermwr Defaid y Flwyddyn” y Farmers Weekly yn 2015.

Fel safle arddangos, mae Richard wedi bod yn rhan o brosiectau’n edrych ar weddillion treuliad anaerobig fel gwrtaith amaethyddol, a oedd yn dangos arbedion costau sylweddol. Dangosodd y gwaith ymchwil pe byddai’r gweddillion yn cael eu chwistrellu’n agos at wreiddiau’r planhigion, eu bod yn tyfu 5% yn fwy o laswellt i bob hectar na gwrtaith cyfansawdd. Mae Richard ar hyn o bryd yn gwerthuso’r posibilrwydd o gynyddu ei system fwydo grawn i besgi bîff tarw Stabiliser cyn 15 mis oed yn effeithlon. Bydd Richard hefyd yn gwerthuso perfformiad hadau meillion gyda gorchudd o’u cymharu â hadau heb orchudd, a dyma’r tro cyntaf i’r math newydd hwn o hadau meillion gael ei brofi yn y cae.

Dywedodd Menna Williams, Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio ar gyfer De Cymru, sydd wedi gweithio’n agos gyd Richard Roderick dros y blynyddoedd:

“Mae’n bleser gweithio’n agos gyda Richard a’i deulu gan fod ganddynt agwedd broffesiynol at ffermio ynghyd â dealltwriaeth fanwl am y diwydiant amaeth yng Nghymru. Rwyf hefyd yn edmygu’r modd y mae’n cyfathrebu gyda phob oedran a phroffesiwn, sy’n dangos pam ei fod yn lefarydd mor wych dros ffermio yng Nghymru. Llongyfarchiadau Richard!”

Am fanylion pellach ynglŷn â’r rhwydwaith arddangos gan gynnwys y prosiectau a’r digwyddiadau amrywiol, cliciwch yma. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio i roi cyngor i ffermwyr ar gynllunio olyniaeth a’r gostyngiad arfaethedig i ryddhad Treth Etifeddiant (IHT).
8 Ionawr 2025 Wrth i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried
Arolwg Safbwyntiau Ffermwyr
Mae arolwg o ffermwyr Cymru wedi cael ei lansio i archwilio sut
Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn