22 Ionawr 2018
Mae’r genhedlaeth nesaf ar fferm odro yn Sir Benfro yn gwella ffrwythlondeb eu buches odro drwy hyfforddiant ffrwythloni artiffisial (AI) sydd wedi cael ei ariannu’n rhannol gan Cyswllt Ffermio.
Mae Alistair a William Lawrence a’u chwaer Hannah wedi dychwelyd i Great Hares Head, fferm odro, bîff a defaid ger Crundale, sy’n cael ei ffermio ar y cyd gyda’u mam-gu a’u tad-cu, John a Joyce Lloyd.
Mae’r teulu yn paratoi’r fferm am y dyfodol trwy fuddsoddi mewn parlwr godro newydd yn lle’r cyfleuster gyda lle i chwe buwch ochr yn ochr, a gafodd ei roi yn ei le yn 1972. Mae’r isadeiledd newydd yn cynnwys sied giwbicl, sied lloia a sied gwartheg sych.
Mae sicrhau bod y gwartheg yn gyflo bob blwyddyn yn hanfodol ar gyfer proffidioldeb y fenter o 110 o wartheg godro. Felly, aeth Alisatir ar gwrs AI i sicrhau bod buwch yn bridio’n brydlon ar ôl gofyn tarw.
Mae 80% o’r cwrs achrededig tri diwrnod hwn wedi cael ei ariannu gan Cyswllt Ffermio trwy’r rhaglen dysgu a datblygu gydol oes.
Mae Alistair erbyn hyn yn rhannu’r ddyletswyddau AI gyda Hannah, sydd eisoes wedi cael ei hyfforddi drwy Cyswllt Ffermio.
Yn ogystal â gwella’r ffrwythlondeb, maen nhw hefyd yn arbed ar gostau’r technegydd.
“Mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr i ni gan ein bod yn gallu rhoi tarw i’r fuwch ar yr amser gorau posib. Yn y gorffennol byddwn i wedi gweld buwch yn gofyn tarw yn y nos ond fyddai hi ddim wedi cael tarw nes y bore wedyn neu’r prynhawn hyd yn oed ac roedd y bwlch hwnnw’n rhy hir,’’ dywedodd Alistair.
Mae’r buchesi Holstein Friesian, sy’n lloia trwy gydol y flwyddyn, yn cynhyrchu 7,500 litr gyda 4.2% o fraster menyn a 3.4% o brotein ar gyfartaledd.
Mae gan y teulu Lawrence, y bedwaredd genhedlaeth i ffermio Great Hares Head, hyder yn nyfodol godro ac yn dweud bod eu gallu i wneud AI eu hunain yn creu busnes mwy effeithlon.
“Rydym ni’n credu bod gan ffermio yng Nghymru ddyfodol llewyrchus a dyna pam mae’r tri ohonom ni wedi dewis ffermio. Rydym ni’n ffodus iawn bod rhaglen Cyswllt Ffermio yn cynnig hyfforddiant sy’n ein helpu ni i roi seiliau cadarn i’r busnes wrth fynd ymlaen,” dywedodd Hannah.
Mae’r tri hefyd yn awyddus i fynd ar gwrs tocio traed blwyddyn nesaf.
“Y mwyaf o sgiliau gallwn ni eu dysgu, y mwyaf effeithlon y gallai’r busnes fod,” dywedodd William.
“Mae’n fantais mawr fod y rhan fwyaf o’r gost hyfforddi yn cael ei dalu gan Cyswllt Ffermio, oherwydd dyna’r gwahaniaeth rhwng mynd ar gwrs a pheidio.’’
Y cyfnod ymgeisio ar gyfer hyfforddiant Cyswllt Ffermio yw o ddydd Llun, 5 Chwefror i ddydd Gwener, 2 Mawrth 2018. Am ddyddiadau a lleoliadau’r cyrsiau hyfforddiant gan gynnwys ffrwythloni artiffisial, gwybodaeth am fodiwlau e-ddysgu a gwasanaethau Cyswllt Ffermio a allai fod o gymorth i chi a’ch busnes, cliciwch yma.
Mae Cyswllt Ffermio yn cynnal nifer o ddigwyddiadau PDP – Cynllun Datblygu Personol – drwy gydol Gymru ym mis Ionawr. Cynhelir y digwyddiadau yn:
Llanelli – 25/01/2018
Llanrwst – 29/01/2018
Aberteifi – 01/02/2018
Llanymddyfri – 06/02/2018