20 Chwefror 2018

 

Mae busnes teuluol o Sir Benfro wedi ehangu ac yn darparu cyfleoedd am swyddi i’r genhedlaeth nesaf gyda chyngor a chefnogaeth barhaus sydd wedi’i ariannu’n rhannol gan Cyswllt Ffermio.

gillian chilton
Prynodd Nick a Gillian Chilton ganolfan arddio a oedd angen ei adfywio bymtheg mlynedd yn ôl ar fân-ddaliad yng Nglasfryn ger Abergwaun. Roedd Nick yn gweithio fel fforman i gwmni tirwedd ac roedd Gillian yn ffisiotherapydd cymwysedig, ond ar ôl dychwelyd i Sir Benfro sefydlodd y ddau eu busnes eu hunain.

Mae’r blanhigfa honno wedi ffynnu ond roedd y pâr wedi cyrraedd croesffordd yn eu bywydau proffesiynol a phersonol gan fod y ganolfan arddio angen buddsoddiad cyfalaf ac roedd Nick a Gillian am greu cyfle i’w mab Gareth, sy’n 27 oed, ymuno â’r busnes ar wahân i’r fenter bresennol.

“Mae’r ganolfan arddio wedi gwastatáu, a’r dewis oedd naill ai ei ddatblygu neu edrych yn fanylach ar beth arall sydd ar gael i ni,” meddai Gillian.

Dechreuodd y broses ar ôl i’r ddau fynychu digwyddiad arallgyfeirio Cyswllt Ffermio. “Roeddem ni wedi bod yn rhentu ein caeau i fferm gyfagos erioed ond roeddem ni’n awyddus i weld a fyddem ni’n gallu gwneud mwy o arian o’r tir trwy ddilyn trywydd gwahanol,” eglurodd Nick.

“Roedd gennym ni syniadau yr oeddem wedi bod yn eu hystyried ond heb wneud dim â nhw gan fod pethau eraill yn codi.”

Dyma’r adeg y camodd Cyswllt Ffermio i’r adwy er mwyn hwyluso’r wybodaeth a’r annogaeth roedden nhw ei angen. Mynychodd y pâr gwrs hyfforddiant Gwella Busnes er mwyn archwilio eu hopsiynnau gyda Really Pro, sef darparwr hyfforddiant sydd wedi cael ei cymeradwyo gan Cyswllt Ffermio.

Roedd y gefnogaeth, a oedd yn cynnwys mewnbwn gan SME Creative, yn cael ei ariannu 80% gan Cyswllt Ffermio.

Yn dilyn y mewnbwn hwnnw, creodd y teulu wersyll ‘gwersylla gwyllt’ ar eu tir.

“Mae’r gefnogaeth rydym ni wedi ei dderbyn trwy Cyswllt Ffermio wedi bod yn wych ac wedi rhoi ffocws i ni.” meddai Gillian. “Roedd e’n amrywiol iawn, popeth o greu’r wefan i farchnata wedi’i dargedu, ac yn cynnwys llawer o bethau na fyddwn ni wedi meddwl amdanyn nhw fel arall.

“Ar y dechrau roeddem ni wedi bod yn edrych ar glampio ac mae’n rhywbeth y gallwn ni ei ddatblygu yn y dyfodol ond roedd gwersylla gwyrdd yn edrych fel lle da i ddechrau.”

Mae Glasfryn Escapes, sy’n chwe erw gyda golygfeydd yn ymestyn ar hyd Pen Dinas, wedi cofrestru gyda’r Greener Camping Club.

Mae Gareth, sydd wedi derbyn gradd mewn Arweinyddiaeth Awyr Agored ac wedi gweithio fel hyfforddwr coasteering ers graddio, bellach yn rhedeg yr ochr hynny o’r busnes tra bod Nick a Gillian yn canolbwyntio ar y blanhigfa gan fwyaf. 

Gallai’r busnes hefyd roi cyfle i’w merch Rhianna, sy’n 25 oed, ymuno gyda nhw yn y dyfodol.

Mae Gillian yn dweud bod cwrs Really Pro wedi dangos i’r teulu sut i ffocysu eu syniadau sylfaenol a gweithio gyda’r rheiny er mwyn cael eglurder yn y model busnes.

“Dangoswyd i ni sut i ganfod y llwybr gorau ar gyfer ein system ni a dysgu’r sgiliau hanfodol i ysgrifennu cynllun busnes ymarferol.
“Rydym ni’n gwybod sut i weithio ar greu strategaeth busnes cryf gyda sefyllfa ariannol sydd wedi cael eu cofnodi a chynhyrchu systemau cadarn sy’n cefnogi’r strategaeth hon er mwyn symud y fenter yn ei blaen.”

Roedd y gefnogaeth yn hawdd cael ato, ychwanegodd, ac mae’r wybodaeth maen nhw wedi ei ennill wedi rhoi hyder i’r teulu fynd ymhellach yn y busnes.

“Mae gwybodaeth ar gael ar agor gwersyll ond roedd y gefnogaeth dderbyniom ni’n fwy penodol. Oni bai am Cyswllt Ffermio fyddem ni’n dal yn meddwl am y peth!”

Mae Cyswllt Ffermio yn brosiect sydd wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae cleientiaid Cyswllt Ffermio yn medru cael 80% o gyllid tuag at y gost o gwblhau cyrsiau Gwella Busnes er mwyn helpu unigolion i ddatblygu eu sgiliau mewn meysydd fel marchnata, cynllunio a datblygu busnes, arwain a rheoli, cofnodi ariannol a TAW. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ar y cyllid sydd ar gael. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio i roi cyngor i ffermwyr ar gynllunio olyniaeth a’r gostyngiad arfaethedig i ryddhad Treth Etifeddiant (IHT).
8 Ionawr 2025 Wrth i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried
Arolwg Safbwyntiau Ffermwyr
Mae arolwg o ffermwyr Cymru wedi cael ei lansio i archwilio sut
Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn