logo mastergrass 0

21 Chwefror 2018

 

Mae Cyswllt Ffermio’n rhoi cyfle i ffermwyr Cymru hogi eu sgiliau arbenigol mewn rheoli glaswelltir drwy gynnal cyfres o gyrsiau ar y pwnc penodol yma.

Nod Meistr ar Borfa Cymru yw helpu ffermwyr i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau mewn rheoli glaswelltir, a rhoi sgiliau ymarferol a hyder iddynt i wneud newidiadau ar eu ffermydd eu hunain.

Mae’r gweithdai tri diwrnod yn rhoi hyfforddiant lefel uwch yn benodol am laswelltir mewn perthynas â’r tri sector – bîff, llaeth a defaid – a bydd y rhain yn cael eu cynnal yn ystod y gwanwyn ar Safleoedd Arloesedd Cyswllt Ffermio yng ngogledd a gorllewin Cymru, yng Ngholeg Gelli Aur yn Sir Gaerfyrddin, ac yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Glynllifon.

Ar y cyrsiau yma, bydd ffermwyr yn dysgu sut i ddewis a sefydlu mathau ac amrywiaethau priodol o laswellt ar gyfer pori cylchdro dwys.

Bydd ffocws hefyd ar reoli pridd a seilwaith pori ac ar fesur a dehongli mesuriadau tyfiant y glaswellt i helpu i wneud penderfyniadau am y da byw sy’n pori.

Yn ôl Dewi Hughes, Rheolwr DatblyguTechnegol Cyswllt Ffermio, bydd ffermwyr sydd â’r wybodaeth yma’n gallu gwella eu cynnyrch llaeth a’u cyfraddau pesgi o borthiant a glaswellt wedi’i bori a gostwng eu costau mewnbwn yn gyffredinol.

Mae porfa’n sylfaen i systemau llawer o fusnesau bîff, llaeth a defaid yng Nghymru erbyn hyn, diolch i nifer o fentrau Cyswllt Ffermio, yn cynnwys cyfarfodydd grŵp trafod, clinigau ar themâu penodol a phrofion pridd gyda chymhorthdal.

Mae Cyswllt Ffermio’n cymryd hyn gam ymhellach erbyn hyn gyda phrosiect wedi’i ymroddi’n gyfan gwbl i faterion glaswelltir, meddai Mr Hughes.

“Mae Cyswllt Ffermio eisoes yn cynnig cyfleoedd o bob math i helpu ffermwyr wella eu dealltwriaeth a’u sgiliau mewn rheoli glaswelltir ac, o ganlyniad, mae ffermwyr Cymru wedi dod yn fwy gwybodus yn y maes yma,” meddai.

“Rhaid i ni sicrhau ein bod yn parhau i gynnig gwybodaeth addas fel eu bod yn parhau i ddysgu mwy. Mae Meistr ar Borfa’n cynnig hyfforddiant lefel uwch fel bod ffermwyr glaswelltir arbenigol yn gallu parhau i symud ymlaen.”

Mae’r prosiect yma wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

I gael rhagor o wybodaeth a ffurflen gais, cliciwch yma.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies yn clywed sut mae cynllun 'Dechrau Ffermio' Cyswllt Ffermio yn diogelu ffyniant ffermydd teuluol yng Nghymru ar gyfer y dyfodol yn Sioe Frenhinol Cymru eleni.
18 Gorffennaf 2024 “Mae paru tirfeddianwyr sydd am neu angen camu
Cyswllt Ffermio yn cyhoeddi Dosbarth Academi Amaeth 2024
15 Gorffennaf 2024 Mae enwau'r rhai a ddewiswyd i gymryd rhan yn
‘Cyllid Arbrofi’ Cyswllt Ffermio yn ceisio dod o hyd i reolaeth fiolegol effeithiol yn erbyn gelyn tyfwyr mefus
11 Gorffennaf 2024 Mae tyfwr ffrwythau meddal o Gymru a gollodd