22 Mawrth 2018
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig yn gweithio gyda milfeddygon ledled Cymru i ddarparu cyfle i ffermwyr brofi a samplo iechyd anifeiliaid gyda’u milfeddyg lleol.
Bydd y clinigau yn darparu ffermwyr gyda’r cyfle i dderbyn cymorth i ymchwlio a phrofi pynciau iechyd anifeliaid perthnasol o fewn eu busnes fel profi gwaed ar gyfer elfennau hydrin neu broffilio metabolaidd yn ogystal â ffrwythlondeb hwrdd neu darw a sgrinio am anhwylderau genetaidd.
Dywedodd Dewi Hughes, Rheolwr Datblygu Technegol Cyswllt Ffermio fod hyn yn gyfle gwych i ffermwyr weithio gyda’u milfeddyg lleol i ymchwilio a phrofi am faterion iechyd anifeiliaid penodol o fewn eu ffermydd fel rhan o gynllun iechyd anifelia id gweithredol, fydd yn gwella cynhyrchiant y busnes ac iechyd a lles anifeiliaid.
“Rydym yn annog unrhyw ffermwr sy’n teimlo y gallant gael budd o’r cyfle yma a chysylltu gyda’u milfeddyg lleol a Cyswllt Ffermio yn uniongyrchol.”
Mae’r rhestr ganlynol o glinigau iechyd anifeiliaid yn darparu ffermwyr gyda dadansoddiad ac ymgynghoriad cymorthdaledig ar bynciau penodol sydd yn ymwneud ag iechyd anifeiliaid.
· Profi gwaed – gwirio elfennau hydrin, proffilio metabolaidd
· Cyfrif Wyau Ysgarthol (FEC) – Monitro poblogaeth wyau ar-fferm
· Ffrwythlondeb hwrdd neu darw
· Leptospirosis
· Rhinotracheitis Buchod Heintus (IBR)
· Ectoparasitiaid (Clafr)
· Sgrinio am anhwylderau geneteg
· Becterioleg – meithrin a sensitifrwydd
Rhaid i ffermwyr gadarnhau eu diddordeb gyda Cyswllt Ffermio cyn i unrhyw samplo/profi cymryd lle. Cyllid cyfyngedig ar gael bydd yn cael ei ddyrannu ar sail gyntaf i’r felin.
I gofrestru eich diddordeb am unrhyw un o’r uchod, cysylltwch â Gwenan Jones o Menter a Busnes ar 01970 636296 neu e-bostiwch: gwenan.jones@menterabusnes.co.uk