plate meter snip
27 Ebrill 2018

 

Yn dilyn un o’r cyfnodau gwanwyn mwyaf heriol mewn cof o ran rheolaeth glaswelltir, mae’r tywydd cynnes a sych diweddar wedi amlygu pwysigrwydd arferion mesur a rheoli glaswellt cadarn er mwyn sicrhau bod glaswellt yn cael ei ddefnyddio’n iawn naill ai drwy ei bori neu ei gadw.

Mae prinder silwair a llai o dyfiant (lleihad o 50KG/DM/Ha/dydd o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2017) wedi golygu bod gwartheg yn cael eu gorfodi i bori porfeydd gyda llai o orchudd gan arwain at orchudd fferm cyfartalog is o oddeutu 1600-1700KgDM/Ha ar rai ffermydd, a lletem laswellt mwy graddol. Mae’n bosibl y bydd hyn, ynghyd â’r naid sydyn mewn twf glaswellt, yn arwain at ormodedd o laswellt yn nes ymlaen yn ystod y tymor pori. Bydd gwybod beth sy’n tyfu ac yn ble yn allweddol er mwyn gwneud y defnydd cywir o’r digonedd o laswellt o ansawdd uchel, boed hynny drwy bori neu silweirio.

Mae ffermydd newydd wedi ymuno â’r prosiect porfa yn y de ddwyrain ar gyfer 2018, a fydd yn ychwanegu at y rhwydwaith eang o ffermwyr sydd eisoes yn cymryd rhan, sy’n llwytho gorchudd fferm a chyfraddau twf i’r wefan yn wythnosol. Bydd ffermwyr yng Nghymru bellach yn gallu edrych yn ôl dros dair blynedd o ddata twf glaswellt ar gyfer rhai o ffermydd Prosiect Porfa Cymru, gan roi cipolwg defnyddiol i sut mae tywydd ac amodau gwahanol wedi effeithio ar dyfiant o un flwyddyn i’r llall.

Sicrhewch eich bod yn dilyn y ffermwyr sy’n cymryd rhan ym Mhrosiect Porfa Cymru i gadw llygad ar dyfiant yn eich ardal chi a’r penderfyniadau rheolaeth pwysig sy’n cael eu gwneud er mwyn gwneud gwell defnydd o’r borfa yn ystod y cyfnod heriol yma.

Am fwy o fanylion, cysylltwch â Rhys Davies, Swyddog Technegol Llaeth ar gyfer Gogledd Cymru 07985 379 880

Gellir dod o hyd i dudalen y prosiect yma.

Mae’r prosiect hwn wedi’i gydlynu gan Cyswllt Ffermio a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio i roi cyngor i ffermwyr ar gynllunio olyniaeth a’r gostyngiad arfaethedig i ryddhad Treth Etifeddiant (IHT).
8 Ionawr 2025 Wrth i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried
Arolwg Safbwyntiau Ffermwyr
Mae arolwg o ffermwyr Cymru wedi cael ei lansio i archwilio sut
Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn