10 Mai 2018

 

Mae mapio maetholion yn y pridd yn galluogi fferm cnydau âr a da byw yn Sir Benfro i addasu’r gyfradd gwasgaru gwrtaith o fewn cae unigol - gan dargedu mwy o fewnbynnau ar ardaloedd gyda statws isel o ran maeth a lleihau mewnbynnau mewn mannau eraill.

Mae Dudwell Farm, un o Safleoedd Ffocws Cyswllt Ffermio yng Nghamros, wedi bod yn treialu technoleg newydd sy’n darparu gwybodaeth i ffermwyr ynglŷn â’r amrywiaeth o faetholion o fewn eu priddoedd.

Mewn un cae, dangosodd y gwaith samplo amrediad eang o ran lefel ffosfforws, o isafbwynt o -1 mewn mannau i uchafbwynt o +3 mewn mannau eraill, gyda photash yn amrywio o 0 i 3+. Roedd lefel pH yn amrywio hefyd - o 5.3 mewn mannau i 6.3 mewn mannau eraill.

Yn draddodiadol, bu ffermwyr yn gwasgaru gwrtaith ar yr un gyfradd ar draws cae unigol, ond gyda’r wybodaeth newydd yma a chan ddefnyddio technoleg gwasgaru ar gyfradd amrywiol, mae modd targedu mewnbynnau i fannau penodol.

charles rees tom rees and ian beecher jones
Yn ystod digwyddiad Cyswllt Ffermio ar fferm Dudwell, dywedodd yr ymgynghorydd ffermio manwl gywir, Ian Beecher-Jones wrth bod mapiau digidol yn caniatáu ffermwyr i greu ffiniau rhithwir o fewn caeau.

“Yn hanesyddol, roedd llinellau ffensio’n cael eu gosod am reswm, er mwyn caniatáu i wahanol rannau o’r fferm gyda mathau gwahanol o briddoedd gael eu rheoli’n wahanol,” meddai.

“Mae gwrychoedd wedi cael eu tynnu oddi yno dros y blynyddoedd ond mae mapio pridd yn ail-greu’r gwrychoedd hynny’n ddigidol, ac yn caniatáu i'r caeau gael eu rheoli fel yn y gorffennol, ond gan ystyried maint a ffactorau economaidd ffermio modern.”

Mae samplu manwl gywir yn costio rhwng £15 - £25/hectar ac mae angen ei ail-wneud bob 3-5 mlynedd.

Er bod potensial i leihau mewnbynnau mewn mannau, ac felly i wneud arbedion ariannol, mae’r dull hwn yn mynd tu hwnt i hynny gan alluogi ffermwyr i reoli eu tir yn fwy effeithiol, gwella perfformiad a lleihau faint o faetholion sy’n rhedeg i ddyfrgyrsiau.

“Mae’n rhaid i ni wneud y defnydd gorau o bob cilogram o wrtaith sy’n cael ei roi ar y cae, ni ddylem ei wasgaru ar ardaloedd nad ydym yn eu defnyddio gan ei fod yn cyrraedd y dyfrgyrsiau yn y pen draw ac mae effaith amgylcheddol yn gysylltiedig â hynny,” meddai Mr Beecher-Jones.

“Hefyd, os bydd ffermwr yn defnyddio mwy o wrtaith oherwydd bod eu mynegai’n isel, byddant yn cael gwell allbwn o’u systemau, boed hynny’n gnydau âr, llaeth, bîff neu ddefaid.”

Dywedodd Tom Rees, sy’n ffermio fferm Dudwell gyda’i dad, Charles, bod y mapiau a ddefnyddiwyd ar y cyd gydag offer newydd i fonitro cynnyrch a brynwyd gan y busnes eleni yn eu galluogi i reoli’r caeau yn fwy effeithlon.

“Yr hyn mae mapio’r pridd wedi ei wneud mewn gwirionedd yw rhoi’r hen ffiniau’n ôl yn y caeau, ond mae hefyd wedi mynd gam ymhellach, gan wahanu parseli o dir i ardaloedd hyd yn oed yn llai yn unol â’r statws maetholion,” meddai.

“Yn hytrach na gweithio gyda chae chwech neu saith hectar, byddwn bellach yn rheoli’r cae hwnnw mewn ardaloedd o un hectar neu hectar a hanner.”

Bydd y teulu Rees, sy’n tyfu 450 erw o gnydau âr, yn tyfu maip sofl yn un o’r caeau  sydd wedi cael ei fapio, ac yn tyfu tatws yn y llall. Maen nhw’n bwriadu defnyddio technegau digidol i samplu pridd ar bob un o’u caeau yn y dyfodol agos.

Dywedodd Delana Davies, Swyddog Technegol Tir Âr a Garddwriaeth Cyswllt Ffermio, bod y dechnoleg yn enwedig o berthnasol ar gyfer caeau ger dyfrgyrsiau.

“Mae llygredd amaethyddol yn broblem y mae’n rhaid i ffermwyr fynd i’r afael ag ef, a gall y dechnoleg hon eu cynorthwyo i wneud hynny,” meddai.

“Mae unrhyw faetholion sy’n rhedeg oddi ar y fferm oherwydd nad oes eu hangen ar y cae yn wastraff arian, felly bydd gwasgaru’r rhain yn unol â mynegai pridd yn well i’r amgylchedd yn ogystal ag ar gyfer costau’r fferm.”

Mae Cyswllt Ffermio yn cefnogi ffermwyr gyda chyllid o 100% er mwyn dadansoddi eu priddoedd. Trwy wneud cais ar gyfer Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, gall ffermydd unigol dderbyn cyllid o 80%, neu gyllid o 100% os byddant yn ymgeisio fesul grŵp o dri neu fwy.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

 

Mae’r prosiect yn cael ei gydlynu gan Cyswllt Ffermio a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Pam y dylai pob fferm yng Nghymru osod nod i gynyddu carbon organig pridd
30 Mai 2024 Bydd lleihau amharu ar y pridd, tyfu cnydau gorchudd
Merched mewn Amaeth Cyswllt Ffermio yn dychwelyd – ac eleni mae ar daith!
29 Mai 2024 Mae merched sy’n gweithio ym myd amaeth ledled Cymru
Mentora yn helpu fferm i newid o gynhyrchu da byw i dyfu grawnwin
28 Mai 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites