Mae nifer o ffermwyr arloesol sydd wedi llwyddo i arallgyfeirio i feysydd ‘arbenigol’ o amaethyddiaeth, megis godro defaid i wneud iogwrt a chaws artisan, magu tyrcwn neu foch, creu cynhyrchion cig gafr, cadw gwenyn, a mentrau twristiaeth fferm, wedi cael eu cymeradwyo i fod yn fentoriaid fydd yn darparu arweiniad a chefnogaeth o dan raglen fentora Cyswllt Ffermio. Maent yn ymuno â thîm sydd eisoes yn cynnwys rhai o ffermwyr llaeth, bîff a defaid mwyaf llwyddiannus Cymru.
Er bod llawer o bobl yn dewis canolbwyntio bron yn gyfan gwbl ar eu mentrau newydd, mae eraill yn llwyddo i reoli’r fenter newydd ochr yn ochr â systemau coedwigaeth neu ffermio traddodiadol, gan sicrhau incwm ychwanegol a chreu mwy o swyddi ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Yn ôl Einir Davies, rheolwr datblygu a mentora gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, mae’r galw am y gwasanaeth wedi cynyddu’n sylweddol ers iddo gael ei lansio yn 2015.
“Wrth i’r diwydiant baratoi ar gyfer cyfleoedd a heriau Brexit, mae llawer o fusnesau coedwigaeth a ffermio yng Nghymru eisoes yn gwneud popeth o fewn eu gallu i wneud eu ffermydd yn fwy effeithlon ac i gyflwyno ffyrdd newydd neu fwy proffidiol o greu busnesau gwydn a chynaliadwy.
“Rydym wedi gweld effaith hyn wrth i’r galw am y rhaglen fentora gynyddu dros y deuddeg mis diwethaf, am fod llawer o fusnesau wedi penderfynu edrych ar yr opsiynau sydd ganddynt i fynd ar drywydd arallgyfeirio a dulliau mwy arbenigol o ffermio a allai fod yn fwy proffidiol a diogelu dyfodol y busnes.”
Mae rhaglen fentora Cyswllt Ffermio, sydd ar gael i fusnesau fferm a choedwigaeth cymwys drwy Gymru gyfan, wedi rhoi arweiniad a chefnogaeth i 136 o fusnesau yn barod, ac wedi darparu mwy na 550 o oriau o arweiniad un-i-un wedi’u hariannu’n llawn. Bydd y penodiadau newydd, sy’n cynnwys ffermwyr sydd â phrofiad o gynllunio ar gyfer olyniaeth, yn cynyddu nifer y tîm i 63.
“Cawsent eu dewis am eu profiad, eu sgiliau a’u gallu i ddarparu hyd at dridiau o arweiniad di-duedd a chyfrinachol mewn amrediad eang o sectorau. Mae’r rhestr o fentoriaid cymeradwy’n cynnwys rhai o gynhyrchwyr cig coch, llaeth a chnydau mwyaf llwyddiannus Cymru, fel y byddech yn ei ddisgwyl, ond gyda’n penodiadau ychwanegol, gallwn yn awr ddarparu gwybodaeth arbenigol mewn ystod lawer iawn ehangach o sectorau ac ardaloedd,” meddai Ms. Davies.
O arbenigwyr pridd a glaswelltir i arbenigwyr mewn ynni adnewyddadwy, o reolwyr lletyau byncdy i weithredwyr bythynnod gwyliau moethus, mae cyfeirlyfr mentoriaid ar-lein Cyswllt Ffermio’n cynnwys ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr sy’n cynrychioli ystod eang o fentrau arallgyfeirio llwyddiannus. Mae’r rhain, rhyngddynt, wedi cael profiad o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau rheoli busnes proffidiol, gan ennill profiad ac arbenigedd o’r da a’r drwg.
“Rydym bob amser yn chwilio am fentoriaid sydd â sgiliau cyfathrebu gwych, parodrwydd i roi neu rannu eu gwybodaeth ac unigolion sydd â phrofiad personol o orchfygu anawsterau, canfod ffyrdd gwell neu fwy arloesol o weithio a chanfod atebion i broblemau neu sialensiau,” meddai Ms. Davies.
Mae rhaglen fentora Cyswllt Ffermio wedi’i thargedu at ffermwyr a choedwigwyr o bob oedran a statws busnes sydd wedi’u cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, yn cynnwys pobl sydd newydd gychwyn; busnesau sy’n ystyried newid cyfeiriad yn sylweddol; unigolion sy’n bwriadu gadael y diwydiant a busnesau sy’n wynebu unrhyw sialensiau neu anawsterau arbennig.
Y man cychwyn i’r rheiny sydd eisiau gwneud cais yw pori’r proffiliau yng nghyfeirlyfr mentoriaid ar-lein Cyswllt Ffermio nes y byddwch yn canfod mentor/mentoriaid gyda’r cefndir a’r sgiliau fydd, yn eich barn chi, yn gallu eich cefnogi chi orau. Cwblhewch a dychwelwch ffurflen gais ar-lein, fel bod Cyswllt Ffermio’n gallu rhoi gwybodaeth i’r mentor a ddewisir i chi ac, os byddwch yn cyfateb, byddwch yn gallu cysylltu â’ch gilydd yn uniongyrchol. Chi sy’n dewis sut i gyfathrebu â’ch gilydd, sut bynnag sydd orau i chi, a gall hynny gynnwys ymweliadau wyneb yn wyneb, sgyrsiau ffôn neu e-bost, galwadau fideo, ac ati.